La traviata Verdi
Archived: 2023/2024Trosolwg
Beth fyddech chi'n ei aberthu yn enw cariad?
Violetta yw putain llys mwyaf gosgeiddig Paris, y ddelaf ym mhob dawns, gyda dewis o edmygwyr cyfoethog yn disgyn wrth ei thraed. Mae hi wrth ei bodd â chrandrwydd ffordd o fyw y boneddigion, ond pan mae’n disgyn dros ei phen a'i chlustiau mewn cariad â'r bardd aristocrataidd Alfredo, sydd heb ddimai goch i'w enw, mae'n fodlon aberthu popeth er ei fwyn. A fydd hi'n cael ei derbyn fel merch sydd wedi disgyn mewn cariad, neu a fydd hi'n parhau i gael ei hystyried yn ferch bechadurus nad oes dyfodol i'w chariad?
Mae opera fythol Verdi yn seiliedig ar nofel Alexandre Dumas fils, La Dame aux Camélias, ac mae'n cynnwys rhai o'r ariâu a melodïau mwyaf atgofus, gan gynnwys yr hynod adnabyddus Brindisi (y gân yfed), a'r diweddglo hyfryd o ingol, Addio del passato. Bydd yn amlwg o gynhyrchiad gosgeiddig ac egniol pum-seren WNO pam mae'r stori dorcalonnus hon am gariad wedi'i rwystro, sgandal a hunan-aberth yn gwneud La traviata yn ffefryn gyda chynulleidfaoedd ar draws y byd.
Archebu rhaglen
Mae cynyrchiadau a chomisiunau newydd WNO yn cael eu cefnogi gan y John Ellerman Foundation. Daw cefnogaeth cynhrychu arweiniol gan Colwinston Charitable Trust. Cefnogir gan Dunard Fund a Rhoddwyr WNO.
Defnyddiol i wybod
Cenir yn Eidaleg, gydag uwchdeitlau Cymraeg a Saesneg
Cyd-gynhyrchiad â Scottish Opera, Gran Teatre del Liceu, Barcelona a Teatro Real, Madrid
O dan 16 mlwydd oed
£5 pan fyddant gydag oedolyn â thocyn pris llawn (yn ddibynnol ar argaeledd)
Am ddisgrifiad clywedol, cliciwch yma.
Yn ymuno â ni yng Nghaerdydd?
Manteisiwch ar 20% oddi ar lety a chynigion bwyd cyn sioe gan ein partner gwesty dewisol, Future Inns
Synopsis
Act Un
Paris
Mae Violetta, courtesan sy’n cael ei gwarchod gan y Barwn Douphol, yn cynnal parti. Mae’n cael ei chyflwyno i Alfredo Germont, dyn ifanc o deulu parchus yn Provençal, sy’n cyfaddef ei fod eisoes mewn cariad â hi. Wrth iddi arwain eu gwesteion i ffwrdd i ddawnsio, caiff Violetta ei tharo gan bwl o besychu. Nid yw ei ffrindiau ofer yn poeni dim, ond y mae Alfredo. Mae e’n mynegi ei gariad unwaith eto ond nid yw hi’n rhoi unrhyw anogaeth iddo.
Wedi ei gadael ar ei phen ei hun ar ôl i’w gwesteion adael o’r diwedd, mae Violetta, yn annisgwyl iddi hi ei hun, yn canfod ei bod wedi ei chyffwrdd gan ddatganiad angerddol y dyn ifanc. Er gwaethaf hyn mae’n ei hargyhoeddi hi ei hun mai ei hunig ddewis yw parhau i ddilyn bywyd o bleser gwyllt.
Act Dau
Golygfa Un
Plasdy ger Paris, dri mis yn ddiweddarach
Mae Violetta wedi ildio i’w theimladau ac mae hi ac Alfredo bellach yn byw gyda’i gilydd yn y wlad, lle mae ei hiechyd wedi gwella. Pan mae e’n cael gwybod ar ddamwain gan ei morwyn, Annina, fod Violetta wedi bod yn gwerthu eu heiddo i dalu eu biliau, mae Alfredo’n cywilyddio ac yn gadael am Baris er mwyn codi’r arian sydd ei angen.
Caiff Violetta ymweliad annisgwyl gan Giorgio Germont, tad Alfredo. Gan ei fod wedi cymryd fod ei fab yn afradloni ei etifeddiaeth ar Violetta, mae’n synnu clywed mai hi sydd wedi bod yn talu am bopeth. Mae’n erfyn arni i dorri’r cysylltiad â’i mab gan fod eu perthynas yn bygwth disgwyliadau ei ferch o briodi i mewn i deulu parchus. Mae Germont yn perswadio Violetta fod yn rhaid iddi wneud yr aberth er mwyn diogelu hapusrwydd ei fab a’i ferch yn y dyfodol. Mae Violetta drallodus yn cytuno yn y diwedd ac yn anfon neges at y Barwn Douphol, yn rhoi gwybod ei bod yn dychwelyd i Baris. Wedi i Germont adael mae’n ysgrifennu nodyn yn ffarwelio ag Alfredo, sydd i’w roi iddo ar ôl iddi hi adael.
Pan ddarllena Alfredo y nodyn mae’n ymwrthod ag ymdrechion ei dad i’w gysuro ac yn brysio’n ôl i Baris, yn benderfynol o ddial am yr hyn sydd, yn ei dyb ef, yn frad gan Violetta.
Golygfa Dau
Tŷ Flora ym Mharis, y noson honno
Mae parti arall yn mynd rhagddo. Mae Alfredo’n cyrraedd ar ei ben ei hun, gan ddisgwyl gweld Violetta yn ôl gyda’i hen ffrindiau. Gwireddir ei ofnau pan ymddangosa, ar fraich y Barwn Douphol. Mae’r ddau ddyn yn chwarae cardiau ac mae Alfredo’n ennill swm mawr o arian. Yn daer am eu hatal rhag ymladd, mae Violetta’n ceisio perswadio Alfredo i adael y parti. Mae e’n gwrthod ac yn ei gorfodi hi i ddweud ei bod yn caru’r Barwn. Mewn tymer wyllt, mae Alfredo’n galw’r holl westeion i fod yn dystion iddo’n ad-dalu ei ddyledion ac yn taflu ei enillion yn wyneb Violetta. Mae hi’n syrthio mewn llewyg. Mae Germont yn dyst i ffrwydrad ei fab ac yn dannod ei ymddygiad creulon iddo.
Act Tri
Ystafell y claf, Violetta, rai misoedd yn ddiweddarach
Mae Violetta yn marw, heb gyfaill ac mewn tlodi, gydag Annina yn unig yn gwmni iddi. Mae’n darllen llythyr gan Germont yn dweud wrthi ei fod wedi dweud y gwir wrth Alfredo a bod y ddau ohonynt yn dod i erfyn arni am ei maddeuant.
Mae’r ddau gariad yn aduno ac ar dân yn cynllunio dyfodol hapusach, ond mae’n rhy hwyr. Mae Violetta yn marw ym mreichiau Alfredo.