

Ffefrynnau Opera
Archived: 2023/2024Trosolwg
Mae Opera Cenedlaethol Cymru yn dod â noson fythgofiadwy o ffefrynnau’r byd opera i’r llwyfan.
Os ydych yn frwd dros opera neu’n awyddus i roi cynnig arni, eisteddwch ac ymunwch â ni ar daith drwy rai o’r darnau mwyaf adnabyddus yn y byd operatig, sy’n fwy cyfarwydd nag y byddech yn ei feddwl.
Mwynhewch gyfoeth o ariâu bendigedig, o’r darn hyfryd O mio babbino caro (Gianni Schicchi) i’r darn y gellir ei adnabod ar unwaith, La donna è mobile (Rigoletto), yn ogystal â darnau corawl a cherddorfaol aruchel o operâu gwych eraill. Bydd y noson yn cynnwys cerddoriaeth a glywir yn rheolaidd ym myd diwylliant poblogaidd, o Mozart i Verdi, Puccini, Britten a mwy – gan greu cymysgedd operatig cwbl arbennig.
Verdi Golygfa Agoriadol Una vela! o Otello
Mozart Agorawd The Marriage of Figaro
Mozart Non più andrai o The Marriage of Figaro
Mozart Voi che sapete o The Marriage of Figaro
Britten Deuawd ac Interliwd Storm Act 1 o Peter Grimes
Humperdinck Gweddi’r Hwyrnos o Hansel and Gretel
Verdi Deuawd Act 1 È lui! Desso! L’infante! o Don Carlo
Bizet Habanera L’amour est un oiseau rebelle o Carmen
Puccini Signore Ascolta o Turandot
EGWYL
Tchaikovsky Entr’acte a Walts o Eugene Onegin
Puccini O mio babbino caro o Gianni Schicchi
Puccini Corws Hymian o Madam Butterfly
Verdi La donna è mobile o Rigoletto
Verdi Duca, duca!... Scorrendo uniti o Rigoletto
Verdi Pedwarawd Act 3 Bella figlia dell’amore o Rigoletto
Delibes Sous le dôme épais (Y Ddeuawd Flodau) o Lakmé
Mascagni Intermezzo o Cavalleria rusticana
Mascagni Emyn Pasg o Cavalleria rusticana

Archebu rhaglen
Defnyddiol i wybod
Yn ymuno â ni yng Nghaerdydd?
Manteisiwch ar 20% oddi ar lety a chynigion bwyd cyn sioe gan ein partner gwesty dewisol, Future Inns