Her Nadolig Big Give

Bydd y ddolen gyfrannu yn fyw o 2 Rhagfyr, 12pm

Y mis Rhagfyr hwn, gall eich rhodd fynd ddwywaith mor bell a helpu i gadw Cerddorfa WNO ar daith.

O 2-9 Rhagfyr, rydym yn falch iawn o fod yn cymryd rhan yn yr Her Nadolig Big Give, ymgyrch arian cyfatebol genedlaethol lle mae pob cyfraniad a wneir ar-lein yn cael ei ddyblu. Mae pob taith gan Gerddorfa WNO yn dod ag opera a cherddoriaeth o’r radd flaenaf i gynulleidfaoedd ledled Cymru a’r DU na fyddai, o bosib, yn eu profi fel arall. Wedi teithio dros 160,000 milltir, mae’n amser newid ein trelar presennol.  Bydd eich cefnogaeth yn caniatáu i ni sicrhau trelar newydd, o ansawdd uchel sy’n effeithlon i’r amgylchedd, gan ein cadw’n ddiogel ar y ffordd am ddegawdau i ddod.

Pam fod eich rhodd yn bwysig

Mae Cerddorfa WNO wrth galon popeth a wnawn. Gyda’n gilydd, rydym yn awyddus i godi £40,000 i brynu trelar WNO newydd, fydd o gymorth i amddiffyn ein hofferynnau ac yn sicrhau y gall ein cerddorfa barhau i deithio’n ddiogel a pherfformio ledled y wlad.

Yn ystod yr wythnos Big Give, 2-9 Rhagfyr, bydd pob cyfraniad gennych yn cael ei ddyblu - gan ddyblu’r effaith. Diolch i arian cyfatebol a Rhodd Cymorth, byddai rhodd o £20 werth £45 i ni, £100 werth £225 a £1,000 werth £2,250.

Rhowch y dyddiad yn eich calendr a helpu i gadw Cerddorfa WNO ar daith.

Gyda Diolch i’n Cefnogwyr Big Give

 Mae WNO yn hynod ddiolchgar am gefnogaeth hael Arts for All, Martin Ryan, Dianne Morgan, a Roger Thomas, sydd wedi addo cefnogi Her Nadolig Big Give eleni. Mae eu cyfraniadau wedi helpu i ddatgloi arian cyfatebol gan ein Hyrwyddwr Ariannu, Reed Foundation, gan ganiatáu i bob cyfraniad gael dwywaith yr effaith.