Canllawiau cynhyrchiad ar gyfer Candide Bernstein
Mae Candide yn opereta sy’n edrych ar y byd drwy ddychan a chomedi.
Yn seiliedig ar nofel bicarésg Voltaire, mae’r stori’n dilyn ein harwr optimistaidd a naïf, Candide, wrth iddo adael castell ei fagwraeth a dechrau ar daith lle mae’n profi sawl caledi a thrychineb. Mae’r rhain yn cynnwys rhyfel, lladrad, caethwasiaeth, trais rhywiol, trychinebau naturiol, crogi a mwy, cyn darganfod, yn y pen draw, er nad ein byd ni yw’r ‘gorau o’r holl fydoedd posibl', mae gan bawb y cyfle i greu’r byd gorau ar eu cyfer eu hunain.
Byddwch yn ymwybodol bod iaith hen ffasiwn ac iaith gref yn cael ei defnyddio drwy gydol yr operetta hon a all beri gofid ar rai pobl.
Yn agos at y nofel wreiddiol, mae Bernstein yn ein taflu i’r byd absẃrd hwn drwy gerddoriaeth drawiadol. Bydd animeiddiad yn ategu'r ddrama ar y llwyfan.
Rhybuddion cynhyrchu
Bydd tafluniadau’n cael eu defnyddio drwy gydol y perfformiad, mewn du a gwyn yn bennaf.
Gall y sioe hon gynnwys goleuadau sy'n fflachio a bydd un defnydd o effaith goleuadau strôb.