Ceisiadau am docynnau elusen
Charity Requests
'Mae Opera Cenedlaethol Cymru yn dod â phobl o bob cefndir ynghyd i brofi opera heb ei hail, ar lwyfan ac yn y gymuned.’
Mae gofyn cyson i WNO gynrychioli'r Cwmni mewn digwyddiadau yn cynnwys ciniawau, cyfarfodydd a dathliadau cymunedol. Yn yr un modd, mae gofyn i ni gymryd rhan mewn gwaith codi arian gyda sefydliadau elusennol eraill, gyda golwg ar ddefnyddio ein hadnoddau cyfoethog ac amrywiol.
Er mwyn cynorthwyo i asesu'r ceisiadau hyn a chynorthwyo eich sefydliad yn y dull gorau bosibl, gofynnwn i chi lenwi'r ffurflen isod. Dylid cyflwyno pob cais o leiaf un mis cyn y digwyddiad.
Ni fydd yn bosibl i WNO wireddu pob cais na derbyn pob gwahoddiad ond bydd pob cais yn cael ei asesu a byddwch yn derbyn ymateb personol o fewn pythefnos.
Ceir gwybodaeth ynghylch ceisiadau am docyn i elusen yma.
Dywedwch ragor wrthym isod ynghylch eich cais; gobeithiwn ddarparu ychydig o hud WNO i chi!
Mae'r ffurflen hon yn berthnasol i'r sefydliadau hynny gyda statws elusennol yn y DU unig:
Charity Ticket Requests
Mae gofyn cyson i Opera Cenedlaethol Cymru ddarparu tocynnau ar gyfer rafflau ac arwerthiannau elusennol. Er ein bod wrth ein bodd yn gwneud hynny lle mae'n bosibl, rydym yn monitro pob cais fesul achos. Bydd pob tocyn a ddarperir yn amodol ar argaeledd a'r telerau ac amodau a nodir gan WNO.
Dywedwch fwy wrthym ar y ffurflen isod am eich cais am docyn: