Telerau ac Amodau Cystadlaethau Cyfryngau Cymdeithasol
- Trefnir cystadlaethau gan Opera Cenedlaethol Cymru (Elusen Gofrestredig, Rhif 221538) y mae ei swyddfa gofrestredig yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, Plas Bute, Caerdydd, CF10 5AL.
- Drwy gymryd rhan yn y gystadleuaeth, rydych yn caniatáu i ni storio eich manylion personol hyd at ddiwedd y gystadleuaeth. Wedi hynny, caiff yr holl fanylion eu dileu.
- Nid yw cystadlaethau yn cael eu gorfodi, noddi neu eu gweinyddu mewn unrhyw ffordd gan y llwyfan cyfryngau cymdeithasol y cânt eu cynnal arnynt, yn cynnwys Facebook, Twitter ac Instagram, ond ddim yn gyfyngedig i'r rhain yn unig.
- I gymryd rhan yn y gystadleuaeth, dylech ddilyn Opera Cenedlaethol Cymru ar y llwyfannau cyfryngau cymdeithasol, a dilyn y cyfarwyddiadau sydd wedi'u hamlinellu ym mhostiad y gystadleuaeth.
- Nid oes ffi i gymryd rhan ac nid oes angen i chi archebu un rhywbeth i gymryd rhan.
- Un unigolyn fydd yn ennill, oni bai y nodir yn wahanol.
- Mae'r wobr wedi'i nodi ym mhostiad y gystadleuaeth ac ni allwch ennill arian parod yn lle'r wobr. Ni ellir cyfnewid neu drosglwyddo'r wobr.
- Mae'r gystadleuaeth yn agored i breswylwyr y Deyrnas Unedig sy'n 16 oed neu'n hŷn heblaw am weithwyr Opera Cenedlaethol Cymru ac unrhyw un arall sydd wedi'i gysylltu â'r sefydliad.
Telerau ac Amodau Cystadleuaeth Nadolig WNO
- I gymryd rhan yng nghystadleuaeth Nadolig Opera Cenedlaethol Cymru, rhaid i chi ateb yr holl gwestiynau (cyfanswm o 12), a gyhoeddir ar Instagram bob yn ail ddiwrnod, gan ddechrau ddydd Sul 1 Rhagfyr.
- Bydd y wobr yn cael ei phostio drwy'r post. Ni fydd Opera Cenedlaethol Cymru yn derbyn atebolrwydd am unrhyw wobrau coll neu heb eu danfon.
- Bydd y wobr yn cynnwys Aelodaeth Cyfaill WNO a nwyddau eraill. Ni ellir ei chyfnewid am arian.
- Rhaid cyflwyno atebion ar ffurf sylwad ar y postiad perthnasol o fewn 24 awr. Ni ystyrir atebion os cânt eu postio ar ôl y dyddiad/amser hwn neu os cânt eu haddasu mewn unrhyw ffordd.
- Derbynnir un cais fesul unigolyn. Bydd sawl cais gan un unigolyn yn cael eu gwahardd.
- Dyfarnir y wobr i'r unigolyn sydd â'r sgôr uchaf. Os yw'r canlyniad yn gyfartal, yna bydd yr enillydd yn cael ei ddewis ar hap. Ein penderfyniad ni sy'n derfynol ac ni chymerwn ran mewn unrhyw ohebiaeth yn ei gylch.
- Rhoddir gwybod i'r enillydd drwy neges uniongyrchol ar Instagram rhwng dydd Llun 6 Ionawr - dydd Gwener 10 Ionawr 2020.
- Gofynnir am fanylion postio gan yr enillydd drwy neges uniongyrchol. Os nad yw'r enillydd yn darparu'r wybodaeth hon cyn pen 7 diwrnod o gael ei hysbysu, yna dewisir enillydd newydd.