The Marriage of Figaro Cwta

Yr un campwaith rhagorol, wedi’i chwtogi.

Dylai fod y diwrnod hapusaf ym mywydau Figaro a Susanna ond a fydd eu priodas yn cael ei chynnal o gwbl? Er yn briod, mae Iarll Almaviva yn benderfynol o hudo Susanna. Yn anhapus gyda’i feistr, mae Figaro yn cynllunio i'w drechu ond, nid yw pethau'n mynd fel y disgwyliwyd, pan mae’r Cherubino ifanc yn gweithredu agenda ei hun. 

Yn cynnwys holl gynhwysion opera glasurol - setiau cain a gwisgoedd godidog - daw cariad a chwerthin ynghyd mewn corwynt o gynlluniau clyfar a fydd yn eich cadw ar flaen eich sedd hyd at y nodyn olaf.

Bydd y fersiwn gwta hon o The Marriage of Figaro gan Mozart yn cael ei berfformio mewn amgylchedd hamddenol ac ysbrydoledig, gydag uwchdeitlau, adroddiad a BSL.

#WNOinshort


CanolfanMileniwm Cymru, Caerdydd, 10 Ebrill 2025, 1pm 
Birmingham Hippodrome, 9 Mai 2025, 1pm 
Milton Keynes Theatre, 16 Mai 2025, 1pm 
Venue Cymru, Llandudno, 23 Mai 2025, 1pm 


Mae ysgolion yn cael ei gwahodd i fynychu’r perfformiad yma am ddim*. Yn dâl, gofynnwn i bob disgybl sy’n mynychu cwblhau arolwg byr, anhysbys arlein i roi adborth ar y perfformiad.

*Gwerth tocyn tua £12.50

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â michael.graham@wno.org.uk


Prif Gefnogwr - Prosiectau ac Ymgysylltu