Newyddion

Canllaw Dechreuwyr i Mozart

11 Rhagfyr 2023

Efallai mai Wolfgang Amadeus Mozart yw’r cyfansoddwr cerddoriaeth glasurol enwocaf erioed. Yma rydym yn archwilio'r ffactorau a'i gwnaeth yn arbennig.

Plentyndod Anghyffredin 

Ganed Mozart ar 27 Ionawr 1756 yn Salzburg, Awstria. O oedran ifanc iawn, dangosodd addewid cerddorol a chafodd ei alw'n blentyn rhyfeddol. Roedd ei dad Leopold, cyfansoddwr a cherddor, wrth ei fodd gyda galluoedd cerddorol rhyfeddol Wolfgang ifanc nes iddo drefnu i deulu Mozart gychwyn ar daith gerddorol fawreddog o amgylch Ewrop i arddangos ei ddoniau ef a’i chwaer. Rhwng 1763 a 1766 bu'r teulu ar daith o amgylch prif lysoedd Ewrop, gan gynnwys Paris, Llundain a Fienna lle cyfarfu â darpar Frenhines Ffrainc, Marie Antoinette.

Dyma glip o ddarn cyntaf Mozart ar gatalog, ei Minuet yn G fwyaf KV 1 ar gyfer yr allweddell, a gyfansoddwyd pan oedd ond yn bum mlwydd oed.

Fe achosodd chwyldro opera

Cyfansoddodd Mozart ei opera gyntaf yn ddim ond 11 oed, ond fe gymerodd hyd iddo symud i Fienna yn 1781 i ddod yn enw cyfarwydd ym myd y theatr. Yn ystod y cyfnod hwn, ysgrifennodd Mozart rai o’i operâu mwyaf enwog a pharhaus gan gynnwys The Magic Flute a’r triawd o operâu y bu’n cydweithio â nhw gyda’r libretydd Lorenzo da Ponte, Don Giovanni, The Marriage of Figaro a Così fan tutte.

Heddiw, mae operâu Mozart yn cael eu dathlu am eu disgleirdeb cerddorol, eu cymeriadau cymhleth a chynnil a’i allu i ddarlunio’r cyflwr dynol.

Diwylliant Cyngherddau

Roedd gwneud bywoliaeth fel cyfansoddwr yn Fienna yn anodd ac roedd Mozart yn ychwanegu at ei incwm rhwng comisiynau opera trwy berfformio ei weithiau ei hun mewn cyngherddau. Hysbysebodd berfformiadau o’i symffonïau, concerti, sonatâu a cherddoriaeth siambr newydd ym mhapurau newydd lleol Fienna, gan ofyn i’w gynulleidfa danysgrifio i gyfres o gyngherddau. Am gyfnod enillodd lawer o arian a byw bywyd moethus iawn mewn ymgais i gadw i fyny ag elitau Fienna.

Ymhlith ei weithiau mwyaf llwyddiannus mewn cyngerdd roedd ei 27 concerto piano. Un o'r rhai mwyaf enwog yw ei Goncerto Piano yn C Fwyaf, Rhif 21 a berfformiwyd gyntaf yn 1785.

Marwolaeth gynnar a Requiem

Ym 1791, roedd sefyllfa ariannol Mozart yn dechrau gwella ar ôl cyfnod anodd, a dechreuodd ar gyfnod cynhyrchiol newydd, gan gwblhau dwy opera a dechrau gweithio ar ei Requiem. Fodd bynnag, nid oedd y cyfnod newydd hwn o greadigrwydd i bara, a daeth Mozart yn angheuol wael yn fuan ar ôl perfformiad cyntaf The Magic Flute ym mis Medi.

Dywedir i Mozart gael ei frawychu gan y syniad ei fod mewn gwirionedd yn ysgrifennu'r Requiem iddo'i hun. Bu farw ar 5 Rhagfyr 1791 a chwblhawyd y Requiem yn ddiweddarach gan ei ddisgybl Franz Süssmayer. Pwy a ŵyr beth arall y gallai Mozart fod wedi ei gyflawni pe na bai wedi marw yn 35 oed?

Os yw hyn wedi cynyddu eich archwaeth am ychydig o Mozart, peidiwch â cholli ein cynhyrchiad newydd sbon o Così fan tutte, sy’n agor yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn 24 Chwefror cyn cychwyn ar daith o amgylch Cymru a Lloegr a Requiem Mozart, wedi’i berfformio gan Gorws a Cherddorfa WNO, fel rhan o’n Cyngerdd Clasurol Caerdydd, Heddwch ac Angerdd ddydd Sul 21 Ebrill.