Newyddion

Canllaw dechreuwyr i’n harlwy yn ystod Tymor y Gwanwyn 2025

4 Chwefror 2025

A hithau’n cael ei hystyried yn un o’r operâu gorau erioed iddi gael ei chyfansoddi, mae ein Tymor y Gwanwyn ni’n agor gyda The Marriage of Figaro Mozart. Wedi’i lleoli yn Seville, Sbaen ar ddiwedd y 18fed ganrif, a’i pherfformio am y tro cyntaf yn Fienna yn 1786, mae’r comedi ramantaidd, hwyliog hon yn digwydd dros gyfnod o un diwrnod, sef priodas Figaro a Susanna, sy’n was ac yn forwyn i’r Iarll a’r Iarlles. Pan mae’r diwrnod mawr yn cyrraedd, daw’n eglur bod Iarll Almaviva yn benderfynol o swyno Susanna cyn i’r seremoni ddigwydd. Mae Susanna a Figaro yn cynllwynio gyda’r Iarlles i gael y gorau ar ei gŵr, gan ddysgu gwers mewn ffyddlondeb iddo.  

Wedi’i seilio ar ddrama a gafodd ei gwahardd yn wreiddiol yn Ffrainc yn ystod y blynyddoedd yn arwain at y Gwrthryfel yn Ffrainc, oherwydd ei ffocws ar densiynau rhwng y dosbarthiadau a braint, bu’n rhaid i Mozart a’i libretwr gael gwared ar rai o’u cyfeiriadau mwyaf dadleuol. Yr hyn sy’n aros yw comedi gerddorol sy’n llawn troadau, achosion o gamadnabyddiaeth a sylwadau ar rywedd, ffyddlondeb a pherthnasoedd dynol; mae The Marriage of Figaro’n byrlymu gyda drama, ffraethineb, hiwmor a cherddoriaeth hyfryd Mozart. 

Er mwyn rhoi syniad i chi o’r anrhefn yn The Marriage of Figaro, yn yr act olaf, gwelwn Cherubino (un arall o’r gweision), mewn dillad dyn, yn ceisio mynd i’r afael â’r Iarlles, sy’n gwisgo dillad Susanna. Mae’r Iarll hefyd yn ceisio swyno ‘Susanna’, sef ei wraig mewn cuddwisg. Mae Figaro’n dod i ddeall pwy yw’r gwir Susanna sydd wedi’i gwisgo fel yr Iarlles. Wrth iddo ddechrau dweud wrth yr Iarlles am anffyddlondeb ei gŵr, mae Susanna’n datguddio’i hun. Wedi deall y plot o’r diwedd, mae Figaro’n cymryd arno i drio mynd i’r afael â hi (sef Susanna, sy’n cymryd arni i fod yn Iarlles), ac mae hyn yn gwneud i'r Iarll wylltio wrth iddo alw pawb i fod yn dyst i anffyddlondeb ei wraig.  Daw’r holl wisgoedd i ffwrdd, ac mae’r geiniog, o’r diwedd yn disgyn. Dyma hwyl operatig clasurol na allwch chi wir mo’i fethu. 

Gallwch weld The Marriage of Figaro yng Nghanolfan Mileniwm Cymru o ddydd Iau 6 Chwefror, cyn iddi deithio i Abertawe, Southampton, Birmingham, Milton Keynes a Plymouth.  

Mewn gwrthgyferbyniad llwyr, rydym hefyd yn llwyfannu Peter Grimes Benjamin Britten yn rhan o’r Tymor hwn.  Roedd Britten yn un o gyfansoddwyr mwyaf Prydain, yn cael ei werthfawrogi gan gynulleidfaoedd ledled y byd, gyda’i waith yn arwain y ffordd yng nghanol y 20fed ganrif. Peter Grimes oedd opera gyntaf Britten a’r un fwyaf llwyddiannus, ac mae’n cael ei hystyried gan y cyhoedd i fod yn gampwaith o’r cychwyn cyntaf. Mae’r opera dair act yn seiliedig ar gerdd George Crabble o 1819, The Borough. Wedi’i pherfformio gyntaf yn Llundain yn 1945, mae Peter Grimes yn adrodd hanes  Pan mae plentyn yn marw mewn amgylchiadau dirgel, mae’r gymuned glòs yn dechrau pwyntio bys gyda chanlyniadau trychinebus. Gan blymio i mewn i themâu o fod yn ynysig, rhagfarn a grym dinistriol cario clecs a meddylfryd y dorf, mae’r opera hon yn parhau i fod yn hynod o berthnasol. Bydd Nicky Spence yn perfformio ei rôl gyntaf fel Peter Grimes, un o’r rôl fwyaf i denoriaid mewn opera, ac yn ymuno ag ef mae cast gwych sy’n cynnwys Y Fonesig Sarah Connelly.  

Gallwch weld Peter Grimes yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, Caerdydd o ddydd Sadwrn 5 Ebrill, cyn iddo fynd ar daith i Abertawe, Southampton, Birmingham, Milton Keynes, a Plymouth.