Newyddion

Diwrnod ym mywyd Cynhyrchydd Ieuenctid a Chymuned

5 Mehefin 2020

Mae Opera Cenedlaethol Cymru yn cyrraedd miloedd o bobl y flwyddyn gyda chymuniad o operâu teithiol ar raddfa fawr a chyngherddau cerddorfaol. Ond efallai nad ydych yn gwybod ein bod hefyd yn cynnal rhaglen ymgysylltu clodwiw, sydd wedi ei dylunio i gefnogi pobl o bob oedran i gymryd rhan mewn canu a cherddoriaeth glasurol, yn ymestyn ar draws ardaloedd allweddol ein cylch teithio. Gelwir rhain yn 'Hybiau' WNO ac maent yn cynnwys ein cartref yn ne Cymru, gogledd Cymru a gorllewin canolbarth Lloegr gyda ffocws ar Birmingham a'r Wlad Ddu; yn ystod y misoedd diwethaf, rydym wedi bod yn falch o gael y cyfle i sefydlu'r rhaglen yn ne orllewin Lloegr, gyda ffocws penodol ar Plymouth a Southampton. Mae'r rhain yn ardaloedd lle rydym wedi datblygu cysylltiadau wrth deithio i theatrau'r ddinas, ond tan yn ddiweddar, nid ydym wedi cynnig rhaglen flwyddyn llawn gyda chymunedau lleol. Gyda phenodiad diweddar Jamie Harries, ein Cynhyrchydd newydd sydd wedi ei leoli yn Southampton, rydym yn dechrau adeiladu rhaglen o weithgareddau ar gyfer plant hyd at bobl sydd wedi ymddeol. Mae'n gynnar iawn yn y broses, ond mae profiad Jamie gyda cherddoriaeth a'r celfyddydau a'i wybodaeth leol yn mynd i greu rhaglen a fydd yn dechrau meithrin talent ifanc, cefnogi hyder artistig, arbrofi gyda pherfformwyr addawol a digonedd o gyfleoedd i ymuno gyda gweithgaredd hygyrch rheolaidd yng nghalon y gymuned.

Cawsom sgwrs gydag ef i ddysgu mwy am ei rôl a'i gynlluniau ar gyfer y dyfodol:

'Rôl cynhyrchydd yw cysylltu â'r cymunedau rydym yn teithio iddynt yn ystod y flwyddyn, mewn ffordd sy'n berthnasol, yn gynhwysol ac yn dathlu cefndiroedd amrywiol ynghyd â dealltwriaeth o'r ardal leol. Felly, pan fydd y cwmni teithio yn symud i'r lleoliad nesaf, mae dal nifer o ffyrdd i gael mynediad at ddarpariaeth gelfyddydol o safon uchel. Rwy'n eithaf newydd yn fy swydd, a fy rôl i yw creu rhaglenni sy'n ymgysylltu ar lefel leol, gweithio gydag ysgolion, colegau, canolfannau hamdden a chymunedol, gyda chanolfannau ffoaduriaid, cartrefi gofal, ysbytai, theatrau bach, theatrau mawr, neuaddau cyngerdd a hyd yn oed mynd â'n gwaith i'r awyr agored at barciau a thir hamdden. Gyda nifer o ffyrdd i gymryd rhan, roeddem yn falch iawn o fod wedi gweithio gyda dros 60,000 o bobl ar draws ein rhaglen ymgysylltu y llynedd a'r Hwb yn Southampton a Plymouth, er ei fod yn dal i fod yn gynnar yn y broses, byddwn, gydag amser, lle a chefnogaeth, yn parhau i wella tirwedd artistig yr ardal mewn ffordd debyg.

Fy swydd i yw goruchwylio prosiectau o hadyn dechrau syniad hyd at ddarparu'r cynnyrch gorffenedig. Mae hynny'n cynnwys popeth o'r sgyrsiau cychwynnol gyda grwpiau cymunedol i ddod o hyd i ba bethau y byddent yn hoffi cymryd rhan ynddynt, i ddod o hyd i'r bobl gywir i wireddu hynny. Rwy'n recriwtio'r timau creadigol (sydd fel arfer yn cynnwys chwaraewyr, cantorion, cyfansoddwr ac arweinwyr gweithdai), ac yna'n rheoli'r gwaith cynllunio, cyfathrebu gyda phartneriaid cymunedol a lleoliadau, ynghyd â rheoli cyllideb, logisteg a phopeth a all (ac sydd yn) codi ar hyd y ffordd.

Mae WNO o hyd wedi credu bod cysylltiad â lle a chymuned yn bwysig. Rydym wedi tyfu o'n hymrwymiad i ganu cymunedol ac wedi dal ein gafael ar y gwerth bod gan bawb yr hawl i gael mynediad at y celfyddydau, waeth beth yw eu cefndir neu o le maent yn dod, ers 75 mlynedd. Credwn hefyd fod y teitl 'Cenedlaethol' yn un y dylid ei ennill, nid ei gymryd yn ganiataol.

Dyna pam ein bod â hybiau cymunedol, oherwydd bydd cael presenoldeb parhaol mewn lle ar wahân i Gaerdydd, lle mae pobl yn cymryd rhan gydag WNO bob diwrnod o'r flwyddyn, yn dechrau chwarae rôl bwysig mewn democrateiddio mynediad at opera a cherddoriaeth glasurol ar draws prif ardaloedd yng Nghymru a Lloegr, lle gallwn feithrin perthnasoedd, nid yn unig am hyd y prosiect neu nes i gyllid ddod i ben, ond parhau i esblygu er mwyn para oes.

Ein huchelgais yw creu cyfleoedd ysbrydoledig ac arloesol i gymunedau ledled Cymru a Lloegr fynegi eu hunain drwy ganu. Rydym yn ymfalchïo mewn rhoi cyfleoedd i'r rheiny nad oes ganddynt fynediad at y celfyddydau neu sydd â mynediad cyfyngedig at y celfyddydau. Yma yn Southampton, rydym yn bwriadu sefydlu Opera Ieuenctid, rhaglen lle gall pobl ifanc o bob cefndir ganu gyda ni bob wythnos i fynegi adrodd stori drwy gerddoriaeth, drama a symudiad ac i berfformio gyda'r cwmni yn rheolaidd.

Mae WNO yn credu yng 'ngrym opera i weddnewid bywydau' - boed yn helpu i wella hunanhyder y bobl ifanc rydym yn gweithio gyda nhw, neu'n gwella gallu gwybyddol cleifion sy'n dioddef o ddementia neu glefydau dirywiol eraill, yn sicr, gall ymgysylltu ag opera gyflawni hynny. Mae'r rhain i gyd yn elfennau o fy swydd y byddaf yn cael y pleser o helpu i gefnogi drwy ddatblygu ein rhaglen ymgysylltu i fodloni anghenion y gymuned ar fy stepen ddrws.

Yn fwy nag unrhyw beth arall, mae bod yn greadigol, cydweithio gydag eraill a brwdfrydedd pur dros ganu, yn syml, yn dda ar gyfer yr enaid. Gallaf ddangos yr enghraifft orau o hyn yn anecdotaidd: Mynychais sesiwn mewn ysgol gynradd lle'r oedd un o'r person ifanc yn cael trafferth canolbwyntio, yn siarad fel melin bupur. Yr eiliad y dechreuodd ein harweinydd lleisiol ganu, eisteddodd y person ifanc i fyny'n syth yn hollol dawel a chafodd ei syfrdanu'n llwyr gan bŵer pur, nid yn unig ei llais, ond yr emosiynau yr oedd hi'n eu cyfleu drwy ei thalent. Wrth i'r grŵp cyfan ddechrau canu, roedd yn eithaf clir bod gan y person ifanc hwn dalent arbennig, ac rydym yn gobeithio medru datblygu ei sgil ymhellach.

Wrth edrych tuag at y dyfodol, rwyf yn edrych ymlaen at ymestyn y gwaith ymgysylltu arbennig mae WNO yn enwog amdano a sefydlu rhaglen yn Southampton, dinas sydd wedi bod yn gartref i mi dros y naw mlynedd diwethaf, sy'n hygyrch, yn berthnasol, creadigol, ac yn bwysicach oll, yn llawn hwyl. Gweledigaeth sydd wedi gyrru WNO dros y 75 mlynedd diwethaf, ac un yr ydym yn gobeithio y bydd yn parhau dros y 75 mlynedd nesaf. Rwy'n bianydd ac mae'r genhadaeth o wella addysg gerddorol a mynediad i gerddoriaeth yn rhywbeth yr wyf yn hynod o falch o fod yn ei gyflawni ar ran Opera Cenedlaethol Cymru.'