Newyddion

Diwrnod ym mywyd… yr Adran Wisgoedd

4 Mehefin 2021

Un o’r amryfal fannau hollbwysig y tu ôl i’r llwyfan yn Opera Cenedlaethol Cymru yw’r adran wisgoedd, lle caiff y dillad ar gyfer pob golygfa eu gwneud a’u ffitio ar gyfer holl aelodau’r cast. Er mwyn cael cipolwg ar y broses hon, buom yn siarad gyda Siân Price, Pennaeth Gwisgoedd.

Mae adran wisgoedd WNO yn eithaf bach – dau dorrwr, prif deiliwr, un uwch-wneuthurwr gwisgoedd, pedwar gwneuthurwr gwisgoedd a dau o wneuthurwyr hetiau. Caiff prosesau fel llifo, ‘heneiddio’ eitemau a chreu gemwaith eu gwneud gan aelod o dîm Propiau WNO. Fel Pennaeth yr adran, sy’n cynnwys Gwisgoedd Teithiol, Siân sydd â chyfrifoldeb cyffredinol dros yr holl wisgoedd a ddefnyddir yng nghynyrchiadau WNO – o wneud y gwisgoedd, hyd at sicrhau eu bod yn cael eu dychwelyd a’u storio.

Mae Siân yn cydgysylltu gyda dylunydd pob cynhyrchiad, gan ddechrau gyda chyfarfod cychwynnol. Yna, mae hi’n dewis deunyddiau ac yn prynu’r holl bethau angenrheidiol. Caiff gwneuthurwyr llawrydd eu neilltuo, ac o dro i dro bydd y rhain yn meddu ar sgiliau arbenigol. Mae Siân yn sicrhau bod tîm yr ystafell waith â phopeth wrth law, ac mae hi’n anfon deunyddiau at y gwneuthurwyr llawrydd. Hefyd, mae hi’n trefnu sesiynau ffitio gyda’r prif gast a’r Corws, felly mae hi’n gorfod trafod yn gyson gydag adrannau eraill i drefnu amseroedd ar gyfer y sesiynau hyn.

Mae trefn yn hollbwysig, oherwydd fel arfer mae’r Cwmni yn gweithio ar dair sioe ar y tro. Caiff aelodau’r Corws eu ffitio cyn gynted â phosibl – yn achos adfywiadau ar gyfer tymor sydd i ddod, fel arfer caiff y gwaith hwn ei wneud yn ystod y tymor presennol ac yn aml ar daith. Caiff cynyrchiadau newydd eu ffitio yn yr ystafell waith (yn ein cartref yng Nghanolfan Mileniwm Cymru). Gan fod yn rhaid i’r sesiynau ffitio gyd-fynd ag amserlen y Corws, gallant bara sawl wythnos a hefyd gallant fod yn arbennig o anodd eu trefnu os yw’r dylunydd yn dod o wlad arall.

Yn ôl Siân, ‘cyn Covid, doedd yna mo’r fath beth â diwrnod arferol; mae pob sioe yn cynnig heriau gwahanol – mae hyn yn beth da, oherwydd mae’n eich cadw ar flaenau eich traed!’ Un achlysur cofiadwy yw’r paratoadau ar gyfer Aida yn 2008 – sef trefnu sesiynau ffitio ar gyfer y Corws Cymunedol. Y dydd Sadwrn pan gafodd aelodau’r Corws eu ffitio oedd y tro cyntaf i’r tîm gyfarfod â nhw. Roedd y tîm wedi paratoi tiwnigau llin ar gyfer y Corws mewn gwahanol feintiau a lliwiau. Daeth aelodau’r Corws i mewn fesul un i nôl tiwnig, sash a het. Yna, cafodd yr eitemau hyn eu labelu’n ddi-oed, a symudwyd ymlaen at y nesaf. Mae Siân o’r farn eu bod nhw wedi gweld mwy na 50 o bobl y diwrnod hwnnw – ac ni chawsant eu gweld wedyn tan yr ymarferion llwyfan. ‘Doedd pethau ddim yn rhy ddrwg, dim ond un neu ddau o eitemau y bu’n rhaid inni eu newid’, meddai.

Yn ystod ymarferion, mae staff Gwisgoedd wrth law i wneud yn siŵr fod y dylunydd, y cantorion a’r cyfarwyddwr yn hapus. Yna, pan fydd y Cwmni ar daith, mae’r tîm yn gorffen gwisgoedd y dirprwy gantorion – efallai y bydd llu o’r rhain i’w cael, felly gall gymryd amser maith i’w cwblhau i gyd. Hefyd, mae’r gwaith o baratoi ar gyfer y tymor canlynol yn dechrau.

Ar ôl Covid, bydd y trefniadau’n wahanol iawn. Yn ôl Siân, ‘mae’n mynd i fod yn brofiad dysgu enfawr i bob un ohonon ni. Y peth pwysig yw cadw pawb yn ddiogel ac yn iach. Fyddwn ni ddim yn ffitio llawer o bobl gyda’i gilydd; bydd yn rhaid diheintio popeth a chadw at ganllawiau llym iawn. Bydd cynllunio a pharatoi yn bwysicach nag erioed. Bydd yn ffordd newydd sbon o weithio i bawb.’