Newyddion

A Day in the Life: WNO Head of Print & Design

11 Medi 2020

Ymunodd Susannah Atherton-John, Pennaeth Argraffu a Dylunio Opera Cenedlaethol Cymru, â'r Cwmni bum mlynedd yn ôl ac mae'n gweithio o swyddfeydd Adran Farchnata WNO yng Nghanolfan Mileniwm Cymru yng Nghaerdydd. Mae'n gyfrifol am bopeth sy'n gofyn am gysyniad creadigol, dylunio a/neu argraffu ar gyfer WNO, mewn unrhyw fformat neu ddeunydd – nid dim ond y posteri hysbysebu mawr sydd i'w gweld o gwmpas yn hyrwyddo ein hoperâu a'n cyngherddau.

Mae amrywiaeth a graddfa'r gwaith yn enfawr sy'n golygu nad oes dau ddiwrnod byth yr un fath. Gall pob prosiect fod yn unrhyw beth y mae angen ei ddylunio, ei frandio, ei olygu a'i argraffu ar gyfer unrhyw adran o'r Cwmni: o gardiau adnabod i lorïau; crysau t i adnoddau athrawon; baneri mawr i lyfrynnau; posteri i raglenni, a thaflenni i logos WNO. Y swydd fwyaf hyd yma y bu'n rhaid i Susannah ei rheoli oedd brandio lori newydd WNO a ddefnyddir i gludo offerynnau ac offer Cerddorfa WNO yn ystod teithiau'r Cwmni. Roedd y raddfa'n aruthrol ac roedd yn dipyn o her iddi hi, y dylunydd graffeg a'r argraffydd. Mae hi hefyd yn cael datblygu stwff hwyliog gyda'i thîm o ddylunwyr graffeg, fel cerddorion cartŵn WNO ar gyfer Cyngherddau i'r Teulu a Chwarae Opera WNO.

Rhan greadigol allweddol swydd Susannah yw datblygu'r prif ddelweddau ar gyfer hyrwyddo operâu WNO bob blwyddyn. Mae'r repertoire ar gyfer Tymhorau opera WNO wedi'i gynllunio flynyddoedd ymlaen llaw. Mae angen delwedd ffres, wreiddiol a diddorol ar bob opera sy'n helpu i grynhoi stori pob opera ac annog pobl i brynu tocynnau. Mae'n broses ddiddorol sy'n cymryd misoedd i esblygu syniad a chysyniad yn ddelwedd ymarferol. Mae angen ymchwil helaeth, sy'n cynnwys holi cyfarwyddwyr a dylunwyr set am eu gweledigaeth ar gyfer y cynhyrchiad (yn aml, misoedd cyn iddynt ddatblygu eu syniadau'n llawn) a chadw golwg ar gastio'r prif gantorion, fel arfer o leiaf 18 mis cyn i'r ymarferion ddechrau. Gall hyn fod yn heriol gyda chynyrchiadau newydd sbon ac operâu newydd eu comisiynu! Unwaith y bydd Susannah yn cynnig syniadau cychwynnol, mae'n gweithio'n agos gydag asiantaeth greadigol a'i chydweithiwr y Pennaeth Marchnata, Martina Fraser, i ddatblygu'r 'Prif Ddelweddau' terfynol i'w defnyddio ar holl lwyfannau digidol WNO, fel y wefan a'r cyfryngau cymdeithasol, a'r holl ddeunydd argraffedig.

Prif ran arall rôl Pennaeth Argraffu a Dylunio yw Golygu rhaglenni opera a chyngherddau WNO. Mae hyn yn cynnwys llawer iawn o ymchwil, coladu gwybodaeth, cynllunio cynnwys, a chomisiynu erthyglau gan academyddion ac arbenigwyr, dewis darluniau a delweddau, ysgrifennu copi, a golygu popeth wrth gwrs. Mae ein holl raglenni'n ddwyieithog, ac mae Susannah yn gweithio'n agos gyda Dramaturg WNO a'n Golygydd Iaith Gymraeg, Elin Jones, sy'n ysgrifennu nodiadau ar repertoire cyngherddau. Mae Susannah hefyd yn gyfrifol am frand WNO – gan sicrhau bod holl ddeunydd gweledol WNO (argraffedig neu ddigidol) yn defnyddio'r ffontiau cywir, arddull dylunio, logos cywir, a lliwiau brand etc.

'Yr holl amrywiaeth o waith rwy'n ei wneud i WNO sydd mor ddiddorol a phleserus. Rwy'n gweithio gyda dylunwyr graffeg, argraffwyr a chwmnïau cynhyrchu gwych. Mae'n gymaint o fraint cael gweithio ymhlith pobl mor anhygoel o dalentog ac ymroddedig yn Opera Cenedlaethol Cymru, nid yn unig ein cerddorion a'n cantorion – ond hefyd dylunwyr set, pobl sy'n creu propiau, pobl sy'n gwneud gwisgoedd, colur a wigiau, rheolwyr cynhyrchu a llwyfan, rheolwyr cerddoriaeth, cerddorfa a chorws a thimau gweinyddu sy'n gweithio'n galed ar draws meysydd codi arian, ieuenctid a chymuned, marchnata a chyfathrebu. Mor lwcus i fod hyd yn oed yn chwarae rhan fechan gydag WNO. Pan fydd y llenni'n codi – a phopeth yn dod at ei gilydd, sŵn y gloch 'hanner' yn galw am y perfformwyr, bwrlwm y gynulleidfa sy'n disgwyl, a'r Gerddorfa a'r Côr yn dechrau seinio nerth eu pen – mae'n dal i'm cael bob tro!' Susannah