Newyddion

Canllaw pum cam i’ch cyngerdd cerddorfaol cyntaf

7 Tachwedd 2018

Mae gan WNO raglen cyngerdd helaeth yn rhedeg trwy gydol y flwyddyn sy’n gweld ein Cerddorfa yn teithio ledled y wlad. Os ydych yn hen law ar fynychu cyngherddau, neu os nad ydych wedi bod i gyngerdd cerddorfaol o’r blaen, efallai y cewch gynghorion ac awgrymiadau yn ein canllaw pum cam i gyngherddau a seiliwyd ar y cwestiynau a ofynnir amlaf yn WNO. 

1.    Shh! Cadwch y sŵn i lawr.

Efallai ei bod yn amlwg i rai ond unwaith i’r cyngerdd ddechrau, cadwch eich melysion yn eu papur ac yn eich bag. Dangoswch barch tuag at y perfformwyr a gweddill y gynulleidfa drwy beidio â gwneud unrhyw sŵn diangen, a hyd yn oed petaech yn clywed rhywun yn siarad, peidiwch â dweud wrthynt am dawelu gan y gallwch wneud mwy o sŵn drwy wneud hynny. Gwyddom fod y gerddoriaeth yn afaelgar a hyfryd ac efallai yn canu cloch ond, os gwelwch yn dda, peidiwch â chanu, hymian na cheisio copïo rhythm y tympanydd…

2.    Ydw i’n clapio nawr...?

Os nad ydych wedi bod i gyngerdd cerddorfaol o’r blaen, ceir rhai rheolau anysgrifenedig ynglŷn â phryd y byddwch yn dangos eich gwerthfawrogiad. Wrth weld opera, gall y gynulleidfa glapio ar wahanol adegau yn ystod y perfformiad, boed ar ôl aria hyfryd neu symudiad wedi’i berfformio’n wych. Ond gall cyngerdd cerddoriaeth glasurol fod yn gyfrwys; mae gan y rhan fwyaf o ddarnau sawl rhan ac yn ymddangos fel petai wedi gorffen ond peidiwch â chael eich twyllo gan saib mewn darn gan Shostakovich, disgwyliwch hyd at y diwedd un. Sut i wybod mai dyma’r diwedd go iawn? Gwyliwch yr arweinydd - fel arfer gallwch ddweud o’i gyfarwyddiadau i’r gerddorfa.  

3.    Beth yw’r cod gwisg?

Ymddengys bod rheolau a chodau ynghylch yr hyn y dylech wisgo i gyngerdd cerddoriaeth glasurol, ond yr ateb cywir yw: beth bynnag yr hoffech... Mae’n bwysicach eich bod yn gyfforddus ac yn gallu mwynhau’r cyngerdd heb boeni ynghylch eich ffrog secwin yn bachu yn y gadair neu fod eich tei yn rhy dynn o amgylch eich gwddf. Os ydych chi’n parhau i fod yn ansicr, cysylltwch â’r lleoliad a gallent rannu cynghorion cod gwisg gyda chi.

4.    Peidiwch â bod yn aflonydd.

Gwyddom fod Sonata Biano Rhif 11 Mozart yn dôn perffaith ar gyfer tapio’ch troed ond peidiwch â dechrau dawnsio yn eich sedd gan y byddai hynny’n tynnu sylw’r perfformwyr, yn ogystal â’r gynulleidfa. Cadwch aflonyddwch i leiafswm - osgowch ail-addasu’ch pashmina, bwyta neu sefyll a pheidiwch ag anghofio, ni chaniateir y defnydd o ffonau symudol. Efallai mai Tomáš Hanus yw eich arwr ond cadwch eich ysfa i ‘arwain gyda’r aer’ i Symffoni New World Dvořák nes y byddwch gartref. 

5.    Ymgollwch eich hun yn y gerddoriaeth.

Dyna brydferthwch cerddoriaeth glasurol, gall eich cludo chi i fyd arall a dyma’n union yr ydym ni gyd ei eisiau. Does dim gwell i berfformiwr na gweld cynulleidfa werthfawrogol. Wedi dweud hynny, hawdd yw cael eich serenadu a disgyn i gysgu… ond byddwch yn ofalus, mae’r symudiadau’n newid - fel y gwelwch yn y fideo hwn o aelod o’r gynulleidfa yn cael braw…

Os nad ydych wedi’u gweld o’r blaen, rydych nawr yn barod ac wedi’ch paratoi i weld ein Cerddorfa mewn cyngerdd. Ewch i’n tudalen ddigwyddiadau i weld beth sydd gennym i’w gynnig.