Gair Arabeg sy'n golygu ‘ffynnon ddagrau’ yw Ainadamar. Mae'n un o’r enwau ar ffynnon naturiol yn y bryniau uwchben Granada, sef dinas yn Andalwsia yn ne Sbaen. Dyma lle y llofruddiwyd y bardd a'r dramodydd Federico García Lorca ym 1936.
Federico García Lorca oedd un o feirdd a dramodwyr Sbaenaidd pwysicaf a mwyaf dylanwadol yr ugeinfed ganrif. Ganwyd Lorca ar 5 Mehefin 1898, ac fe'i magwyd yng nghefn gwlad Andalusia, ger Granada, wedi’i amgylchynu gan ddelweddau ac amodau cymdeithasol a fyddai’n effeithio ar ei waith yn y dyfodol. Astudiodd y gyfraith ym Mhrifysgol Granada, ond bu iddo droi at ysgrifennu yn ystod ei arddegau hwyr, cyn symud i Fadrid, lle daeth yn ffrindiau agos gyda’r arlunydd Salvador Dalí.
Cyflawnodd Lorca ei lwyddiant theatraidd mawr cyntaf yn 1933, gyda pherfformiad cyntaf Blood Wedding, a helpodd i gychwyn y cyfnod mwyaf disglair yn hanes theatr Sbaen, cyn teithio i’r Ariannin i oruchwylio cynyrchiadau niferus o’i sioeau.
Ym mis Awst 1936, dechreuodd y Rhyfel Cartref yn Sbaen ac, oherwydd ei gyfunrhywiaeth a’i safbwyntiau rhyddfrydol, fe garcharwyd Lorca heb achos llys, a chafodd ei ddienyddio gan un o finteioedd saethu y Ffalanche ar un ai 18 neu 19 Awst - nid yw’r union ddyddiad erioed wedi’i gadarnhau.
Treuliodd yr actores Gatalanaidd Margarita Xirgu, a oedd yn ffrind ac yn awen i Lorca, ei gyrfa yn portreadu Mariana Pineda yn y sioe o’r un enw a ysgrifennwyd gan Lorca. Merthyres wleidyddol o’r 19eg ganrif oedd Pineda, a ddienyddiwyd am wnïo baner a oedd yn cynnwys yr arwyddair ‘Cydraddoldeb, Rhyddid a Chyfraith’ er mwyn gwrthwynebu’r llywodraeth unbenaethol Sbaenaidd. Roedd gan Lorca barch mawr tuag at Pineda, ac roedd ei cherflun i’w weld drwy ffenest ei gartref teuluol yn Granada. Gofynnodd Lorca i Xirgu chwarae’r brif ran ar gyfer y sioe agoriadol yn Teatre Goya, Barcelona, ym mis Mehefin 1927 - sioe a oedd yn cynnwys cefndiroedd a gwisgoedd a ddyluniwyd gan Salvador Dalí. Ffodd Xirgu o Sbaen ar ddechrau’r Rhyfel Cartref, ond gwrthod gadael wnaeth ei ffrind, Lorca. Wedi hynny, treuliodd ei bywyd yn chwarae rhan Mariana Pineda, yn cadw neges Lorca yn fyw.
Mae Ainadamar yn adrodd hanes perthynas Xirgu a Lorca, drwy atgofion yr actores wrth iddi eu hadrodd i’w disgybl, Nuria. Mae’r opera yn agor wrth i Xirgu baratoi i chwarae Mariana Pineda ar y llwyfan unwaith eto, wrth i grŵp o actoresau ifanc ganu’r faled agoriadol.
Mae hi’n rhannu ei hatgofion o ddisgleirdeb Lorca gyda'i disgybl ifanc, Nuria, gan sôn sut y bu iddynt gyfarfod mewn bar ym Madrid, lle disgrifiodd Lorca ei ddrama iddi am y tro cyntaf. Mae darllediad radio gan y Ffalanche yn tarfu ar ei hatgof, yn datgan y bydd y blaid yn rhoi diwedd ar y chwyldro yn sydyn iawn.
Ar ddechrau’r Rhyfel Cartref yn Sbaen, mae Xirgu yn erfyn ar Lorca i ymuno â hi a’i chwmni theatr yng Nghiwba, ac yn ei hatgofion, mae hi’n canu am ganfod rhyddid. Fodd bynnag, gwrthod gadael mae Lorca, gan ddewis aros yn Granada er mwyn cofnodi dioddefaint ei wlad.
Yn y presennol, mae Xirgu yn marw, ond mae hi’n benderfynol o berfformio rôl Pineda un tro olaf. Mae hi’n dweud wrth Nuria fod actor yn byw am amser byr yn unig, ond fod y syniad o ryddid yn byw am byth. Mae gweledigaeth o Lorca yn torri ar ei thraws, ac yn diolch iddi am anfarwoli ei enaid ar y llwyfan, yng nghalonnau ei disgyblion, ac ar gyfer y byd i gyd.
Yn ystod Tymor yr Hydref eleni, dewch i brofi opera fel na welwyd o’r blaen, wrth i Ainadamar gamu i’r llwyfan. Dyma gyfuniad o flamenco ac opera mewn sioe 80 munud sy'n gwibio drwy fywyd anhygoel Lorca. Bydd y sioe yn mynd ar daith i Gaerdydd, Llandudno, Bryste, Birmingham, Milton Keynes a Southampton rhwng 9 Medi a 22 Tachwedd.