Newyddion

Canllaw i Il trittico

7 Mehefin 2024

Cyn bo hir bydd Opera Cenedlaethol Cymru yn perfformio ein cynhyrchiad newydd sbon o Il trittico Puccini: triawd disglair o operâu un act y bwriadai’r cyfansoddwr eu perfformio i gyd mewn un noson. Cyn y berl brin hon o berfformiad, gadewch i ni edrych ar drosolwg byr o bob un o’r operâu a rhai eiliadau i gadw llygad amdanynt.

Il tabarro 

Mae stori Il tabarro (Y Clogyn) yn adrodd hanes triongl serch marwol ar lan yr afon Seine: Mae Michele, hen gapten cychod ym Mharis, yn darganfod bod ei wraig ifanc, Giorgetta, yn cael perthynas ag un o'i weithwyr, Luigi. Pan fydd y ddau gariad ifanc yn penderfynu dianc rhag trallod y dociau, mae eu cynllun yn cael ei atal yn greulon gan awydd llofruddiog Michele i gael gwared ar ei elyn rhywiol, gan ddatgelu corff marw Luigi i Giorgetta yn ddiweddarach o dan ei glogyn. 

A wyddech chi? Ar gyfer y cynhyrchiad gwreiddiol o Il tabarro, mynnodd Puccini fod y llen agoriadol yn cael ei chodi mewn distawrwydd – dechrau iasol i opera ddychrynllyd. 

Gwrandewch am:Eccola la passata! (Dyma ein lletywraig hyfryd!) Luigi, dechrau pedwarawd rhwng Luigi, Giorgetta, Talpa a Tinca tra bod Michele i ffwrdd. Gan gasglu o gwmpas i yfed ar ddiwedd y noson, mae Luigi yn galw am gerddoriaeth ac mae troellwr organ yn chwarae walts allan o gywair wrth gerdded yn yr eiliad prin hwn o seibiant.


Suor Angelica

Mae Suor Angelica (Chwaer Angelica) yn archwilio hanes torcalonnus mam ifanc sydd wedi troi’n lleian, wedi bod yn byw mewn lleiandy ers rhyw saith mlynedd ar ôl ei hanfon yno gan ei theulu i guddio’u cywilydd ar ôl iddi roi genedigaeth i blentyn y tu allan i briodas. Mae ei modryb, y Dywysoges, yn ymweld â hi i roi gwybod iddi am gynlluniau priodas ei chwaer, ac yn mynnu bod Angelica yn trosglwyddo ei chyfran o ffortiwn y teulu. Pan mae Angelica yn holi am ei mab, mae’r Dywysoges yn dweud wrthi’n oeraidd iddo farw o salwch rhyw ddwy flynedd ynghynt: wedi’i ingo a’i sigo, mae Angelica yn cymryd gwenwyn er mwyn iddi allu bod gyda’i mab yn y nefoedd. Ychydig cyn iddi farw, mae'n gweld gweledigaeth o'r Forwyn Fair yn dod â'i phlentyn iddi.

A wyddech chi?Suor Angelica oedd unig waith Puccini a ysgrifennwyd ar gyfer cast a chorws o ferched yn unig.

Gwrandewch am: Aria Chwaer Angelica Senza mamma (Heb fam), ei galarnad dorcalonnus sy'n erfyn ar ei mab i siarad â hi a galar na wyddai erioed cymaint yr oedd hi'n ei garu.


Gianni Schicchi

Mae Gianni Schicchi yn dechrau gyda marwolaeth Buoso Donati ac yn fuan wedi hynny mae ei deulu barus yn sylweddoli ei fod wedi gadael holl gynnwys ei ewyllys i fynachlog heb adael dim byd iddyn nhw. Maen nhw'n cael cymorth y twyllwr enwog, Gianni Schicchi, i'w helpu i wneud ewyllys newydd a fydd yn trosglwyddo ei chynnwys iddyn nhw. Yn y cyfamser, mae merch Gianni Schicchi, Lauretta, mewn cariad â nai Buoso Donati, Rinuccio, sydd eisiau dim byd i'w wneud â'r gweithgaredd twyllodrus. Pan fydd y notari yn cyrraedd, mae Gianni Schicchi yn dynwared Buoso o'i wely ac yn gadael ei dŷ a'i eiddo gwerthfawr iddo'i hun, gan fradychu'r teulu a'u gadael yn syn.

A wyddech chi? Roedd Gianni Schicchi yn dwyllwr go iawn, yn farchog canoloesol yn fyw yn Fflorens yn ystod y 13eg ganrif a ysbrydolodd Dante Alighieri i gynnwys ei drosedd yn ei Gomedi Ddwyfol enwog.

Gwrandewch am: O mio babbino caro (O fy annwyl dad), aria syfrdanol, fyd-enwog Lauretta y mae’n canu i bledio gyda’i thad i brynu modrwy briodas iddi er mwyn iddi allu priodi ei hanwylyd Rinuccio.


A yw'r tri arlwy operatig hynod hyn wedi mynd â'ch bryd yr haf hwn? Dewch i brofi trasiedi, torcalon a thwyll Il trittico yng Nghanolfan Mileniwm Cymru Caerdydd ac ar daith o 15 Mehefin 2024: wedi’r cyfan, daw’r pethau gorau fesul tri.