Newyddion

Canllaw i La bohème

29 Awst 2022

Mae La bohème gan Puccini yn un o'r operâu mwyaf poblogaidd ledled y byd. Prin iawn yw'r achlysuron pan na fu ar y rhestr o'r deg opera a berfformiwyd amlaf mewn unrhyw flwyddyn. Bydd cynhyrchiad cyfredol Opera Cenedlaethol Cymru o'r stori dorcalonnus hon yn dychwelyd i'r llwyfan fel rhan o'n rhaglen ar gyfer Tymor yr Hydref 2022.

Ysgrifennwyd La bohème yn y 1890au ac mae'n dilyn grŵp o bedwar o artistiaid adfydus sy'n byw bywyd Bohemaidd ym Mharis ar lan chwith Afon Seine yn y 1830au. Ym 1849, disgrifiwyd yr ardal fel a ganlyn yn y cyhoeddiad La Silhouette: ‘Bohemia is a district in the department of the Seine bordered on the north by cold, on the west by hunger, on the south by love and on the east by hope.’

Mae cynhyrchiad WNO wedi'i osod ar droad y 19eg ganrif, a phan fyddwn ni, y gynulleidfa, yn cwrdd â'r ffrindiau tlawd ar Noswyl Nadolig, mae eu rhandy dirywiedig mewn croglofft bron mor oer ag y mae hi y tu allan ar y stryd, ac mae Rodolfo, y bardd yn y grŵp, yn aberthu ei lyfrau i'w rhoi ar y tân.

Pan fo tri aelod o'r grŵp wedi mynd allan i gaffi lleol, mae un o'r cymdogion, Mimì, yn curo ar y drws yn chwilio am olau i gynnau ei channwyll. Yn fuan iawn, daw'n amlwg fod Mimì yn wael ei hiechyd, a daw'r un mor amlwg fod Rodolfo yn hoff ohoni - mae'n smalio nad yw'n gallu dod o hyd i'w hallwedd wedi iddi hi ei ollwng, er mwyn ei chadw hi yno, gydag ef. 

Wrth gwrs, gan mai stori garu operatig sydd gennym yma, mae hithau'n syrthio mewn cariad gydag yntau, yna maent yn mynd i gwrdd â gweddill y criw yn Café Momus. Ar ôl cyrraedd yno, maent yn dod o hyd i'r ffrindiau eraill yn dathlu'r ŵyl. Hynny yw, nes bod Marcello yn gweld Musetta, merch y mae wedi bod i mewn ac allan o berthynas gyda hi, yn fflyrtio â dyn hŷn - cyfoethog. Nid yw'n hapus ac mae'n ceisio smalio nad yw hi yno, ond buan y daw hynny i ben wrth iddi hi yrru ei hedmygwr hŷn oddi yno. Gan redeg i ffwrdd i fwynhau'r dathlu, mae'r grŵp yn gadael y bil i'r edmygwr, Alcindoro, ei dalu pan fydd yn dychwelyd.

Mae cryn amser wedi mynd heibio erbyn y tro nesaf inni eu gweld, wrth dollborth ar gyrion y ddinas, ac mae'n ymddangos nad yw pethau'n fêl i gyd ym myd y cariadon. Mae Rodolfo wedi mynd yn genfigennus ac yn feddiannol o Mimì, felly maent yn sôn wrth eu ffrindiau, Marcello a Musetta, eu bod yn meddwl gwahanu, ond mewn gwirionedd mae Rodolfo wedi ei lethu gan ofn y bydd hi farw. 

Oherwydd bod Mimì mor gorfforol wan erbyn hyn, pan ddaw Musetta â hi i'r groglofft, mae'r ffrindiau i gyd yn teimlo anobaith y sefyllfa ac yn aberthu popeth y gallant er mwyn cynnig rhyw fath o gysur yn ystod ei horiau olaf. Yn ystyriol o'r sefyllfa, mae pawb yn gadael i fynd i wneud negesi, gan adael Rodolfo a Mimì i ailgynnau atgofion eu rhamant wrth iddi farw.

P'un a ydych yn dod i wylio am y tro cyntaf neu eich bod wedi ei gweld o'r blaen, bydd y dagrau'n siŵr o lifo yn ystod yr opera hon a fydd, fel llyfrau Rodolfo, yn ffefryn oesol. Dewch yn llu i'w gweld yr Hydref hwn.