Newyddion

Canllaw i The Makropulos Affair

16 Awst 2022

Gyda'i drama ddwys a'i sgôr hudolus, mae'n syndod nad yw The Makropulos Affair  gan Janáček yn cael ei pherfformio'n amlach. Yn cynnwys themâu cariad, trosedd a thrasiedi, i gyd wedi'u clymu yn un plot ffrwydrol, yn wir, mae gan yr opera hon rywbeth at ddant pawb. Dim ond mis sydd i fynd nes bydd cynhyrchiad newydd a chyffrous Opera Cenedlaethol Cymru'n mynd ar daith ledled y DU, felly gadewch i ni godi cwr y llen ar beth allwch chi ei ddisgwyl.

Mae'r olygfa'n agor mewn swyddfa cyfreithiwr. Mae Vitek, y clerc, yn datgan bod achos profiant yn ymwneud â theulu Gregor yn mynd rhagddo ers bron i ganrif, ar ôl marwolaeth y Barwn Joseph Ferdinand Prus yn 1827. Bu farw heb adael ewyllys na phlant cyfreithlon ar ei ôl. Mae'r ddau deulu, y teulu Gregor a'r teulu Prus bonheddig, wedi hawlio'r ystad, ond nid yw'r un ohonynt wedi gallu cyflwyno ewyllys swyddogol.

Mae Kolenaty, y cyfreithiwr sy'n cynrychioli'r teulu Gregor, yn cyrraedd y swyddfa ynghyd â'r ddîfa enigmataidd a hardd, Emilia Marty. Mae Emilia'n honni ei bod wedi dysgu am yr achos y bore hwnnw, a'i bod eisiau gwybod mwy. Mae Kolenaty yn cytuno i fynd drwy manylion yr achos gyda hi, ac ar ôl trafodaeth hir, mae Emilia'n credu ei bod hi'n gwybod ble mae'r ewyllys yn cael ei chadw; mewn cwpwrdd ym mhlasty’r teulu Prus. Ar unwaith, mae Kolenaty yn mynd i archwilio'r plasty. Ar ôl dychwelyd gyda'r ewyllys, mae'n datgan y gall y teulu Gregor hawlio'r ystad os oes modd profi mai ef yw mab anghyfreithlon y Barwn. Mae Emilia'n hyderus y gall wneud hyn.

Wedi'u swyno gan ei harddwch, mae nifer o'r cymeriadau gwrywaidd, gan gynnwys Kolenaty, yn ceisio denu serch Emilia. Mae hi'n eu gwrthod nhw'n oeraidd, nes i'r Barwn Jaroslav Prus addo sicrhau'r ewyllys ar gyfer Emilia, dan yr amod ei bod hi'n treulio'r noson gydag ef. Gan gytuno i hyn, mae Emilia'n treulio'r noson gyda Jaroslav ac yn derbyn y ddogfen.

Felly, pwy yw Emilia Marty, a pham mae ganddi gymaint o ddiddordeb yn yr achos cymhleth hwn? Mae Emilia'n datgelu ei gwir hunaniaeth, sef Elina Makropulos, a'i bod yn anfarwol. Wedi'i geni yn 1585, mae Elina wedi cuddio y tu ôl i sawl hunaniaeth ers 300 o flynyddoedd, yn byw gwahanol fywydau ac yn symud i wahanol wledydd. Mae ei hanfarwoldeb yn ganlyniad i ddiod hud, wedi'i chreu gan ei thad, ond ar ôl rhoi'r fformiwla i'r Barwn Joseph i'w roi yn ei ewyllys, mae Elina yn datgelu ei bod hi bellach angen y ddiod hud er mwyn sicrhau ei bod yn byw am 300 o flynyddoedd eto. A fydd Elina'n ymestyn ei hanfarwoldeb, neu a fydd hi'n derbyn marwoldeb fel ei thynged?

Mae cynhyrchiad newydd, rhagorol Olivia Fuchs yn ffurfio rhan o'n Tymor Hydref, a fydd yn mynd ar daith ledled y DU rhwng 16 Medi a 2 Rhagfyr. Bydd perfformiadau'n cael eu harwain gan Gyfarwyddwr Cerdd WNO, Tomáš Hanus, sydd nid yn unig yn arbenigwr ar Janáček, ond cafodd ei fagu ar yr union yr un stryd â'r cyfansoddwr hefyd. Rydym yn sicr y bydd y cynhyrchiad hwn yn rhoi bywyd i waith Janáček’s mewn ffordd gwbl newydd.