Newyddion

Hanes Canu Opera Eidalaidd

25 Hydref 2024

Gyda’i alawon bythgofiadwy a straeon hynod o emosiynol, nid oes syndod fod yr Arfer o Ganu Opera yn yr Eidal wedi cael ei ychwanegu at restr Treftadaeth Ddiwylliannol Anniriaethol y Ddynoliaeth yn 2023. Mae Tymor yr Hydref Opera Cenedlaethol Cymru yn ddathliad gwirioneddol o Opera Eidalaidd, gyda’n cynyrchiadau o Rigoletto gan Verdi ac Il trittico gan Puccini nawr ar daith. Ond, o ystyried bod heddiw’n Ddiwrnod Opera’r Byd, mae’n gyfle i ni dyrchu’n ddyfnach i mewn i hanes opera yn yr Eidal.


Y DADENI HWYR A’R CYFNOD BAROC 

Gan ddatblygu ei grefft yn llys y teulu Medici yn Fflorens yn y 15fed ganrif, credir mai Jacopo Peri yw'r cyfansoddwr a ysgrifennodd yr opera gyntaf, Dafne, ym 1597. Roedd Peri yn rhan o grŵp o artistiaid yn Fflorens a oedd yn ceisio ail-greu dramâu Groegaidd drwy gerddoriaeth. Fodd bynnag, Claudio Monteverdi sy’n cael ei ystyried i fod y cyfansoddwr opera nodedig cyntaf, a’i opera arloesol Orfero (1607) yw’r opera gynharaf sydd wedi goroesi ac sy’n dal i gael ei pherfformio’n rheolaidd hyd heddiw. Roedd yr operâu Eidalaidd cynnar hyn yn defnyddio adroddganu ac ariâu, fel yr operâu sy’n cael eu perfformio heddiw. 

Y CYFNOD CLASUROL 

Wrth i opera seria - arddull ‘ddifrif’ o opera Eidalaidd a oedd yn amlwg iawn yn Ewrop tan o gwmpas 1770 - fynd yn llai poblogaidd, daeth opera buffa, sef opera ag arddull gomedïaidd i gymryd ei lle. Yn ystod y cyfnod hwn, cafodd cyfansoddwyr fel Mozart a Handel ysbrydoliaeth o opera Eidalaidd ac roeddent yn dewis defnyddio libretti (sgôr lleisiol) Eidalaidd. Mae operâu mwyaf poblogaidd Mozart yn arddangos cyfuniad o ddrama ddwys seria a hiwmor ffraeth buffa, ac mae ei operâu Eidaleg eu hiaith The Marriage of Fiagro, Don Giovanni a Così fan tutte yn parhau i fod ymysg yr operâu mwyaf poblogaidd ac sy’n cael eu perfformio fwyaf rheolaidd yn yr oes fodern hon. 


Y CYFNOD RHAMANTAIDD 

Gyda phwyslais ar emosiynau dwys, cerddorfeydd mwy a harmonïau mwy cymhleth, daeth y defnydd o bel canto - arddull feistrolgar o ganu alawon hyfryd - yn fwy poblogaidd yn y cyfnod Rhamantaidd. Ystyrir mai’r cyfansoddwyr Eidalaidd Bellini, Donizetti a Rossini yw prif gyfansoddwyr yr arddull bel canto, ond mae Rigoletto, Il trovatore a La traviata gan Verdi hefyd yn yr arddull hon. Verdi sy’n cael y clod am drawsnewid opera yn ystod y cyfnod hwn, gydag Otello yn cael ei disgrifio gan adolygwyr fel uchafbwynt opera Eidalaidd. 

Mae rhai cerddolegwyr yn credu bod La traviata gan Verdi wedi cyfrannu at ddyfodiad arddull opera verismo, a oedd yn amlwg iawn ar ddiwedd y cyfnod Rhamantaidd. Roedd Verismo yn arddull a oedd yn ymgorffori themâu realistig mewn opera, gan ddarlunio agweddau anos bywyd gydag agweddau realistig y gallai’r gynulleidfa uniaethu â nhw. Er enghraifft, mae Gianni Schicchi gan Puccini yn delio â phwnc marwolaeth a chwant yr arddull versimo, gyda’r llinellau alawol wedi eu haddurno â gweiddi a chwerthin er mwyn amlygu’r realaeth. Mae operâu verismo eraill Puccini, sef La Bohème a Madam Butterfly, yn parhau i fod yn rhai o’r operâu mwyaf poblogaidd erioed. 


Hyd yn oed heddiw, mae diwylliant opera yr Eidal yn cael ei ddathlu a cheir tua 60 tŷ opera yn yr Eidal, gan gynnwys yr enwog La Scala ym Milan, gydag enwogion opera fel y tenoriaid Eidalaidd Luciano Pavarotti ac Andrea Bocelli yn dal statws enwogrwydd yno. 

Felly, beth am ddathlu Diwrnod Opera’r Byd, a phrofi effaith oesol Opera Eidalaidd yr hydref hwn, gyda’n cynhyrchiad newydd, ffres o Rigoletto gan Verdi a’n cynhyrchiad pum seren o Suor Angelica & Gianni Schicchi gan Puccini, sydd ar daith tan 16 Tachwedd 2024.