Yn digwydd ar un diwrnod o haf, mae The Marriage of Figarogan Mozart yn opera wefreiddiol sy'n llawn ariâu, alawon cofiadwy a chanu ensemble gwych, sy'n ystyried y digwyddiadau sy'n bygwth difetha priodas Figaro a Susanna. Perfformiwyd yr opera am y tro cyntaf ym 1786, ac ers hynny, diolch i gerddoriaeth wych Mozart, bu'n cyfareddu cynulleidfaoedd ledled y byd. Dyma rai o'n huchafbwyntiau cerddorol i wrando amdanynt...
Act Un: CafatinaSe vuol ballare Figaro
Yn agos at ddechrau Act Un, mae Figaro yn penderfynu talu'r pwyth yn ôl i'w feistr, yr Iarll, ar ôl i Figaro ddarganfod ei fod yn ceisio canlyn ei ddyweddi, Susanna. Yn ei gafatina Se vuol ballare, Signor Contino (Os wyt ti eisiau dawnsio, Syr Iarll) mae'n dweud y bydd ef un cam o flaen yr Iarll ar bob cornel. Daw'r difyrrwch a'r digrifwch wrth i Figaro ailadrodd y geiriau ‘saprò, saprò’ (Dwi'n gwybod, dwi'n gwybod) cyn atal ei hun rhag mynd dros ben llestri gyda sylwadau cyflym o piano, piano (araf, araf).
Mae'n drawiadol hefyd bod dau gorn yn cael eu defnyddio i gyd-fynd â Figaro yma - yn hanesyddol, roedd cyrn yr hwrdd yn cynrychioli y cwcwallt, gŵr y wraig odinebus (h.y. mae'r gerddoriaeth yn awgrymu bod Susanna o bosib yn caru y tu ôl i'w gefn gyda'r Iarll!)
Act Dau: AriaVoi che sapeteCherubino
Voi che sapete (Dywed wrthyf beth yw cariad) yw aria gyfareddol Cherubino, cân a ysgrifennodd ar gyfer yr Iarlles y mae wedi mopio'i ben amdani. Mae'n foment ddadlennol o ddiniweidrwydd i'r bachgen arddegol, gyda'r aria'n cyflymu mewn tempo wrth iddi adlewyrchu cryfder teimladau Cherubino a'r teimlad llethol o gael ei amgylchynu gan ddwy fenyw hŷn, hardd. O gymharu â bwrlwm angerddol a chyflym ei aria gyntaf Non so più cosa son, mae'r aria hon yn arddangosiad tyner ac annwyl o'i natur fewnol.
Act Tri: Deuawd Llythyr Susanna a'r Iarlles
Sull’aria...Che soave zeffiretto (Ar yr awel...Am Seffyr bychan ysgafn), a adnabyddir hefyd fel Deuawd y Llythyr, yw un o'r adegau cerddorol mwyaf ingol yn yr opera. Cenir y darn mewn arddull felodaidd, hwiangerddol, ac mae'n dangos yr Iarlles a'i morwyn Susanna yn ffugio llythyr caru ar gyfer yr Iarll, gyda natur annwyl y ddeuawd yn gwrthgyferbynnu â'u bwriad o ddatgelu ei anffyddlondeb. Wrth arddweud y llythyr i Susanna, mae'r ddwy'n gwahodd yr Iarll i gyfarfod canol nos gyda'r Iarlles, a fydd wedi cuddwisgo fel Susanna, ac mae'r ddwy'n canu am y noson serchus i ddod.
Act Pedwar: Diweddglo o Gente, gente all’armi, all’armi and Questo giorno di tormenti
Mae diweddglo ensemble dathliadol Act Pedwar yn ddarn sy'n dirwyn yr opera i ben ac mae'n cynnwys y cast cyfan ar y llwyfan a'r gerddorfa lawn. Mae'r diweddglo llawn yn para oddeutu 20 munud, ond mae'r detholiadau terfynol yn dangos y diwrnod o ffolinebau'n cael ei unioni ar ôl anhrefn a dryswch.
Mewn moment emosiynol arafach, mae'r Iarll yn erfyn ar ei wraig am faddeuant (Contessa, perdono!) ac mae'r Iarlles yn maddau iddo'n rhadlon. Mae'r cymeriadau yn ôl i'w partneriaid gwreiddiol o'u cyplau anghydweddol, ac maent i gyd yn canu'n llawen Questo giorno di tormenti (Cariad yn unig a all ddatrys y diwrnod llawn gwewyr hwn) cyn mynd ymaith i ddathlu eu diweddglo hapus.
Gobeithiwn i'r uchafbwyntiau cerddorol hyn roi ichi syniad clir o'r adegau gwefreiddiol, emosiynol a hyfryd y gallwch eu disgwyl yn yr opera wych hon. Gallwch archebu eich tocynnau nawr ar gyfer cynhyrchiad poblogaidd WNO o The Marriage of Figaro, sy'n agor yng Nghaerdydd ar 6 Chwefror 2025 cyn mynd ar daith tan 6 Mehefin 2025.