Newyddion

A tribute to John Tyrrell

8 Hydref 2018

Mae WNO wedi tristáu ar ôl clywed am farwolaeth John Tyrrell a wnaeth, yn nhymor yr Hydref 2017, ddarparu’r argraffiad beirniadol newydd o From the House of the Dead a berfformiwyd gennym fel rhan o’n tymor Chwyldro Rwsia. Bydd y cynhyrchiad hefyd yn ffurfio rhan o’r ŵyl Janáček yn Brno yn ddiweddarach eleni.

Dywedodd Cyfarwyddwr Artistig WNO, David Pountney:

‘Mae’r ffaith bod Janáček yn raddol wedi dod i gael ei adnabod fel un o gyfansoddwyr operâu gorau’r 20fed ganrif yn ganlyniad i grŵp dethol o hyrwyddwyr brwd, yn eu plith Syr Charles Mackerras a Norman Tucker, sydd bellach yn ffigwr angof, a raglennodd waith Janáček am y tro cyntaf yn Sadler’s Wells yn y 1960au. Nid oedd neb yn fwy arwyddocaol yn hyn o beth na John Tyrrell, a fu farw’r wythnos hon. Gwnaeth ei fywgraffiad meistrolgar o Janáček, ynghyd â llawer o’i gyhoeddiadau eraill, a’i argraffiadau beirniadol, yn gerddolegwr Janáček mwyaf blaenllaw’r byd. Roedd ei gefnogaeth ysgolheigaidd yn elfen hanfodol o waith WNO yn hyrwyddo’r cyfansoddwr yn ôl i’r 1970au, ac yn fwy diweddar perfformiodd WNO y perfformiad cyntaf o’i argraffiad beirniadol o From the House of the Dead, dan arweiniad Tomáš Hanus, sy’n parhau â’r fflam a daniwyd gan Richard Armstrong a Syr Charles. Roedd manwl gywirdeb beirniadol ac ysgolheigaidd John wedi’i baru â charedigrwydd arbennig a hiwmor swil, cynnes. Roedd yn ŵr diymhongar a gyflawnodd fawredd diamheuol yn ei faes: all rhywun siarad yn well am unrhyw ŵddyn?’