
Mae WNO wedi tristáu ar ôl clywed am farwolaeth Ralph Koltai, ffigwr hynod ddylanwadol a wnaeth, bron yn un-law, ddod ag esthetig moderniaeth i'r Theatr Brydeinig. Wedi dylunio dros gant o gynyrchiadau opera, bu’n gweithio i’r Hong Kong Arts Festival a Sadler's Wells Opera, fe greodd ddyluniadau hynod wreiddiol ar gyfer RSC yn ogystal â dyluniad mawr epig o Ring Cycle Wagner ar gyfer English National Opera. Ar gyfer WNO fe ddyluniodd Simone Boccanegra a Thrioleg Figaro. Roedd yn ffigwr hynod ddylanwadol yn natblygiad dylunio yn y theatr ym Mhrydain ac yn gymeriad anhygoel. Bydd yn cael ei golli’n fawr.