Yn wahanol i'w cymheiriaid tenor, ni roddir y prif rolau rhamantus i faritonau bob tro. Wedi dweud hynny, maent yn cael rhai rolau rhagorol yn y repertoire operatig. Dyma rai o ffefrynnau Artist Cyswllt WNO, Aaron O’Hare.
Y Brif Rôl yn Don Giovanni, Mozart
'Don Juan' - y dyn ei hun. Pwy sydd ddim eisiau'r cyfle i berfformio'r cymeriad drwg-enwog hwn? Mae'r rôl yn llawn marwolaeth, twyll, comedi, cynllwynio, cariad, serch... popeth y gallech chi ei enwi. Yn ogystal, ymddengys bod gan Don G bŵer goruwchddynol i ddiflannu ar unwaith pan synhwyrai'r drafferth leiaf. Wrth gwrs, mae'r gerddoriaeth o blith y gorau erioed gan Mozart, gyda dwy aria gyferbyniol arbennig, Deh veini alla finestra, a Fin ch’han dal vino, yn ogystal â llu o ensemblau gwych.
Papageno yn Die Zauberflote, Mozart
Mae lle arbennig yn fy nghalon ar gyfer y cymeriad annwyl, camddealledig hwn. Efallai gan fy mod yn ystyried fy hun yn ychydig o ddigrifwr, ond mae hon yn rôl yr wyf wedi bod eisiau ei pherfformio ers tro byd. Er ei fod yn bartner di-glem i Tamino ar ei daith, mae ganddo tair aria - yn fwy nag unrhyw gymeriad arall wedi i mi feddwl. Fy ffefryn yw ei 'aria hunanladdiad', ond na phoener, caiff fyw yn hapus byth wedyn.
Pelleas yn Pelleas and Melisande, Debussy
Dim ond yn y rhai blynyddoedd diwethaf y deuthum i wybod am y rôl hon. Y mwyaf yr wyf yn gweithio arni, y mwyaf yr wyf yn ei hoffi. Mae cerddoriaeth Debussy yn hyfryd o'r dechrau hyd y diwedd, gydag ansicrwydd cyfriniol rhyfedd sy'n adeiladu'r tensiwn rhwng Pelleas, Melisande a Goulad wrth i ni bontio o'r naill olygfa i'r llall. Mae gan y golygfeydd rhwng Pelleas and Melisande natur 'a fyddant / na fyddant' go iawn, hyd at olygfa derfynol Pelleas lle mae'r holl densiwn yn ffrwydro mewn modd syfrdanol.
Figaro yn The Barber of Seville, Rossini
Rôl arall sy'n sicr o fod ar restr ddymuniadau pob bariton. Anodd yw peidio â disgyn dros eich pen a'ch clustiau mewn cariad â'r barbwr dymunol, llawn cymeriad hwn wrth iddo gynllwyno i helpu Rosina ac Almaviva ddod ynghyd. Nid yn unig y mae ei aria agoriadol, Largo al Factotum, yn agoriad hynod heriol i'r opera, ond mae'r rôl yn llawn ensemblau anodd iawn a chân barablu lle mae angen i Figaro eu meistroli yn hollol naturiol.
Marcello yn La bohème, Puccini
Mae La bohème wedi bod yn ffefryn cadarn ers tro. Mae'r gân agoriadol yn gyrru ias i lawr fy nghefn. Mae Marcello wastad i’w weld yng nghanol y ddrama, boed yn arwain yr ymdrech i dwyllo'r hen landlord o'r rhent, ei berthynas gythryblus â Musetta neu fel cyfrinachwr Mimi a Rodolfo. Fy hoff foment gerddorol yw deuawd Marello a Rodolfo yn Act 4 o o mimi tu piu non torni - moment hyfryd pan mae'r ddau ŵr yn cyfaddef eu bod yn hiraethu am Mimi a Musetta.