Ymunodd Aimme Daniel ag Opera Cenedlaethol Cymru fel Intern Lleisiol ym mis Ionawr 2022. Ers ei phenodiad, mae hi wedi bod yn ymwneud â chyfoeth o brosiectau yn ein hadran Prosiectau ac Ymgysylltu. Cawsom sgwrs â hi i gael gwybod sut y daeth ar draws opera a sut mae’r interniaeth wedi ei helpu i ddatblygu gyrfa yn y celfyddydau.
‘Roeddwn i’n ddigon ffodus i gael dau athro cerddoriaeth gwych yn yr ysgol uwchradd a wnaeth wirioneddol feithrin fy mrwdfrydedd dros gerddoriaeth, o wersi canu i drafod fy opsiynau ar gyfer coleg cerddoriaeth. Nid oedd unrhyw beth byth yn ormod o drafferth. Dechreuais ar fy nhaith i’r byd proffesiynol yn 2011 fel rhan o Opera Ieuenctid Opera Cenedlaethol Cymru, mewn cynhyrchiad o The Sleeper o waith Stephen Deazley.
Yn yr hinsawdd sydd ohoni, mae'n anodd iawn cael gyrfa lawn amser fel cantores opera, felly mae wedi bod yn bwysig iawn i mi ennill sgiliau ychwanegol a throsglwyddadwy i’m gwneud yn gerddor fwy cyflawn. Penderfynais wneud cais am Interniaeth Lleisiol WNO oherwydd roeddwn i wirioneddol eisiau ymgysylltu â chantorion ifanc a rhoi rhywbeth yn ôl i’r Cwmni sydd wedi meithrin fy nghariad personol tuag at ganu. Mae opera yn cyffwrdd calonnau pobl o bob cefndir, ac felly mae'n ddyletswydd arnom i ddod o hyd i'r cymunedau hynny a rhoi cyfleoedd i'r rhai sy’n dymuno bod yn rhan o'r byd hyfryd hwn. Mae fy interniaeth wirioneddol wedi rhoi'r hyder i mi ddilyn y rolau hyn, yn ogystal â rolau perfformio. Rwyf wedi bod yn ffodus iawn o gael gweithio gyda mentoriaid gwych yn ystod fy interniaeth ac rwyf wedi cymryd rhan mewn prosiectau amrywiol, gan gynnwys cyngherddau Ysbyty Dewch i Ganu, Côr Cysur ac Opera Ieuenctid WNO.
Roeddwn yn gwybod erioed fy mod eisiau mynd â cherddoriaeth ac opera yn ôl at fy ngwreiddiau yng nghymoedd de Cymru, i annog pobl o’r un cefndir â mi i fentro i fyd cerddoriaeth, eu cyflwyno i opera, a dangos bod opera yn gelfyddyd anhygoel a hwyliog y mae angen i ni, fel gwlad gerddorol, ei thrysori. Yn ddiweddar, cefais y fraint o ddychwelyd i gymoedd Cymru i gynnal gweithdai mewn llond llaw o ysgolion yn fy ardal leol, Ystrad Mynach, yn seiliedig ar Nonsense Songs o waith Liza Lehmann (cylch o ganeuon yn seiliedig ar y ‘nonsense poems’ o waith Lewis Caroll, Alice’s Adventures in Wonderland). Mynychais fy ysgol gynradd fy hun, Ysgol Gymraeg Bro Allta, i ganu yn yr un ysgol lle dechreuodd y cyfan i mi, a oedd yn brofiad swrrealaidd a bendigedig.
Fel cerddor, rwy’n teimlo fy mod yn dysgu o hyd, a'r hyn rwyf wedi ei ddysgu yn ystod fy nghyfnod yn Opera Cenedlaethol Cymru yw, hyd yn oed tra bod fy natblygiad personol yn dal i fod ar y gweill, mae gennyf eisoes lawer i’w gynnig i bobl ac mae gennyf sgiliau gwych i addysgu ac arwain cantorion ifanc. Mae wedi bod yn hyfryd gallu trosglwyddo fy ngwybodaeth fy hun a chlywed y gwahaniaeth y mae’n ei wneud.’
Os oes gennych ddiddordeb mewn bod yn Intern Lleisiol WNO, cadwch lygad ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer ein rownd recriwtio nesaf.