Mae ein Tymor yr Hydref wedi dod i ben, ond rydym yn parhau’n brysur dros y gaeaf. Wrth i Opera Cenedlaethol Cymru baratoi i berfformio’r perfformiad cyntaf erioed o Al Wasl yn Expo 2020 Dubai, mae Aidan Lang, Cyfarwyddwr Cyffredinol WNO yn rhannu mewnwelediad i’r broses o baratoi’r opera.
‘Mae 165 o aelodau WNO yn hedfan i Dubai yr wythnos hon i gyflwyno’r opera newydd, Al Wasl, yn Expo 2020 Dubai a ail-drefnwyd. Wedi’i gomisiynu gan Expo, ysgrifennwyd Al Wasl gan Mohammed Fairouz, cyfansoddwr o’r Emiraethau Arabaidd Unedig, i libreto gan Maha Gargash. Gyda COP26 yn ffres yn ein meddyliau, mae’n opera am y newid yn yr hinsawdd ac anallu, neu amharodrwydd, pobl i ddysgu o’r gorffennol. Mae’r tair act wedi’u gosod yn y gorffennol, y presennol a’r dyfodol, ac yn portreadu effaith ddinistriol datgoedwigo a’r newid yn yr hinsawdd, wrth i bob cenhedlaeth newydd fyw gyda chamgymeriadau ei rhagflaenwyr.
Roedd yn fraint i Opera Cenedlaethol Cymru dderbyn gwahoddiad i gyflwyno'r opera, sef uchafbwynt rhaglen ddiwylliannol Expo. Ond, yn fwy na hyn, mae’r ymweliad hefyd yn gyfle arbennig i ni helpu i hyrwyddo Cymru a’r DU mewn ymgynulliad byd-eang sydd mor uchel ei fri, ac rydym wrth ein bodd cael ymuno ag aelodau o Lywodraeth Cymru ar y noson agoriadol ar 16 Rhagfyr.'
'Fodd bynnag, nid yw'r daith heb ei heriau. Mae’r logisteg o fynd â 165 aelod o’r Cwmni ar daith i’r Dwyrain Canol yn ddigon heriol ar adegau arferol, heb sôn am yng nghanol rheoliadau teithio Covid sy’n newid yn barhaus. Mae’r daith yn bosibl oherwydd gwaith arbennig Rheolwyr ein Cwmni a’n tîm Iechyd a Diogelwch, sydd wedi sicrhau bod pob agwedd ar ddiogelwch a llesiant y Cwmni wedi’u hystyried.
Ac wrth gwrs, yr her o gyflwyno’r darn ei hun. Mae bywyd opera yn dechrau mewn stiwdio ymarfer, ac yna'n symud i'r llwyfan yn ddidrafferth, lle ychwanegir y setiau, gwisgoedd, wigiau a'r colur; ar gyfer Al Wasl, torrwyd ar draws y broses hon oherwydd y teithio, ar angen i ymgyfarwyddo â theatr gwbl wahanol. Cafodd y setiau eu hanfon i Dubai yn ôl yng nghanol mis Hydref, ac mae angen cludo’r gwisgoedd a’r rhan fwyaf o’r propiau ar awyren, yn barod ar gyfer y cantorion pan fyddant yn cyrraedd. Ystyriwch hefyd yr hyn fydd ein tîm technegol yn ei wynebu ar ôl cyrraedd. Fel arfer, rydym yn mynd â chynyrchiadau rydym wedi hen arfer eu perfformio yn ein repertoire ar daith, nid cynhyrchiad newydd sbon. Yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, pan fydd ambell i broblem fechan yn codi’i phen, mae ein gweithdai gerllaw, ond nid felly yn Nhŷ Opera Dubai.
Rhan ddiddorol o’r broses ymarfer unrhyw opera newydd, yn wahanol i waith sy’n bodoli eisoes, yw ei bod ond yn datgelu ei hun go iawn ar ôl i’r holl gydrannau gwahanol ddod ynghyd - yn enwedig ar yr ochr sain. Gall ymarfer â phiano syml yn y stiwdio fod yn gamarweiniol i’r cantorion, a gall opera newydd swnio’n wahanol iawn ar ôl i’r gerddorfa ymuno â phawb. Mae hyn yn digwydd yn eithaf hwyr yn y broses gyffredinol, ac ychydig iawn o amser mae’r cantorion yn ei gael i ymgyfarwyddo â sain gwbl wahanol.
Ond, os oes unrhyw Gwmni a all oresgyn yr heriau hyn i gyd, Opera Cenedlaethol Cymru yw’r Cwmni hwnnw. Pan fyddwn yn dychwelyd i Gaerdydd ar 20 Rhagfyr, gallwn fyfyrio ar y ffaith ein bod wedi llwyddo i ddod ag opera yn ôl i’n llwyfannau ein hunain yng Nghymru ac yn Lloegr, yn ogystal ag ar lwyfan rhyngwladol, a hynny oll er gwaethaf y cyfnod heriol hwn.'