Newyddion

Cerddoriaeth - yr anrheg Nadolig perffaith!

18 Rhagfyr 2018

Mae tymor y Nadolig wedi cyrraedd unwaith eto, a gyda dim ond cwpl o benwythnosau tan y diwrnod mawr rydym yma i’ch helpu i ddewis yr anrheg Nadolig perffaith ar gyfer eich teulu a’ch cyfeillion, o gysur eich cartref. 

Dyma ein canllaw i anrhegion Nadolig perffaith ar gyfer rhai sy’n caru cerddoriaeth.

Ar gyfer y cefnogwyr opera, beth am eu trin i docyn (neu ddau) i un (neu fwy) o operâu Gwanwyn 2019.  Mae gennym dair opera ddirdynnol i ddewis o’u plith: Un ballo in maschera, Roberto Devereux a The Magic Flute – ac mae’r tair yn sicr o ysgogi’r emosiynau.  


Un ballo in maschera

Stori neo-Gothig o dwyll, dirgelwch, cariad a dial gyda gwraig dweud ffortiwn, oedau canol nos o dan y crocbrenni a llwon o ddial - mae hefyd yn stori foesol am sut i beidio â bod yn Frenin. Yn seiliedig ar lofruddiaeth go iawn Brenin Gustav III o Sweden a gafodd ei saethu mewn dawns fygydau ym 1792, mae sgorio dwys cerddoriaeth Verdi yn darparu'r angerdd cerddorol sy'n gyrru'r cynhyrchiad newydd gwefreiddiol hwn, a gyfarwyddwyd gan Gyfarwyddwr Artistig WNO David Pountney, a'i arwain gan Arweinydd Llawryfog WNO Carlo Rizzi*.

Roberto Devereux 

Yn cynnwys rhai o felodïau mwyaf gwefreiddiol Donizetti, mae’r cynhyrchiad grymus hwn yn adrodd stori gariad ddramatig ac ingol Brenhines Elisabeth I a Robert Devereux, Iarll Essex.  Mae’r cynhyrchiad yn dinoethi’r gwrthdaro rhwng dyletswyddau cyhoeddus Elisabeth I a’i theimladau preifat fel menyw, ac mae dwyster dramatig a chynllun trawiadol y cynhyrchiad yn sicr o wneud i’ch calon guro’n gyflym.

The Magic Flute 

Bydd cynhyrchiad cyfareddol WNO o The Magic Flute yn mynd â chi i fyd o freuddwydion lle byddwch yn cwrdd â chymeriadau lliwgar, gan gynnwys llew sy’n darllen papur newydd a physgodyn sydd hefyd yn feic.  At hyn, ychwanegwch stori ffraeth, ychydig o swyn a cherddoriaeth ogoneddus Mozart, gan gynnwys aria ysblennydd Brenhines y Nos, ac fe gewch gyfuniad perffaith a fydd yn rhoi profiad opera bythgofiadwy i bawb, o bob oed.  

*Bydd Carlo Rizzi yn arwain perfformiadau yng Nghaerdydd a Birmingham yn unig


Cyngerdd Cerddorfa WNO

Bydd tocyn i’n cyngerdd nesaf yn y Gyfres o Gyngherddau Rhyngwladol yn Neuadd Dewi Sant ar 27 Ionawr yn siŵr o roi gwen ar wyneb unrhyw un sy’n caru cerddoriaeth y Nadolig hwn.  Bydd Carlo Rizzi, Arweinydd Llawryfog WNO, yn dychwelyd i’r gyfres o gyngherddau rhyngwladol am y tro cyntaf ers 2008, i arwain rhaglen gyffrous o gampweithiau rhamantaidd hwyr.  Yn ymuno â’r Gerddorfa ar y llwyfan fydd un o feiolinwyr blaenllaw’r byd, Alexander Sitkovetsky, a fydd yn sicr o greu’r ysbryd Albanaidd yn sgôr Bruch, Scottish Fantasy.

Neu, beth am drip i Fienna? Yn dilyn taith cyngerdd a gafodd groeso eithriadol yn 2018, bydd Cerddorfa WNO yn eich cludo i ffwrdd o dywydd oer mis Ionawr i fyd o hud cerddorol yn ein cyngherddau Noson yn Fienna. Yn ein rhaglen eleni mae gennym nid yn unig ein cerddorfa ddawnus, ond hefyd ddimensiwn ychwanegol o gân, wrth i Artist Cyswllt WNO Harriet Eyley ymuno â’r cerddorion, a fydd yn sicr o ddod ag ysbryd Fienna a'i neuaddau cyngerdd yn fyw.  Byddwn yn mynd â'r cyngerdd ar daith i'r Drenewydd, Bangor, Caerdydd, Tyddewi a Chasnewydd yn ystod wythnosau cyntaf mis Ionawr gyda'r cyngerdd cyntaf yn Abertawe ar 4 Ionawr.


Don Pasquale 

Opera gomig glasurol Donizetti, ond nid yn ôl yr arfer. Mae'r fersiwn newydd derfysglyd hon o Don Pasquale wedi'i lleoli yn fan cebab Pasquale ac o’i chwmpas ac yn dilyn stori rithdybiau rhamantus hen lanc a'r cariadon ifanc sy'n ei drechu. Mae cynhyrchiad cyfoes Daisy Evans yn gwneud y stori draddodiadol hon yn gyfoes ar gyfer yr 21ain ganrif a bydd y cynhyrchiad hwyliog, bywiog a smart hwn ar daith o fis Mai ymlaen


Aelodaeth fel Cyfaill WNO 

Yr anrheg ddelfrydol i rai sydd wrth eu bodd â WNO.  Yma yn WNO rydym wrth ein bodd yn gwneud cyfeillion newydd. Fel Cyfaill WNO byddwch ymhlith y cyntaf i gael gwybod am ein digwyddiadau;  yn cael cylchgrawn Cyfaill dair gwaith y flwyddyn, sy’n eich cymryd yn syth at galon y cwmni; ac yn ein helpu i ddarparu operâu trawiadol.  Byddwch hyd yn oed yn gallu archebu tocynnau i Dymor 19/20 cyn i’r cyhoedd gael eu cyfle nhw, pan fyddant yn mynd ar werth yn y Gwanwyn.

Felly dyna chi, ein canllaw i anrhegion Nadolig 2018.  Os hoffech fwy o ysbrydoliaeth, ymunwch â ni ar Instagram (@WNOtweet) i gyfrif y dyddiau tan y Nadolig ac i fwynhau trît Nadoligaidd dyddiol gan WNO.

Gobeithio y cewch chi gyd Nadolig bendigedig ac edrychwn ymlaen at eich gweld yn y Flwyddyn Newydd ar gyfer blwyddyn wych arall o greu cerddoriaeth.