Mae Antony César wedi cyfareddu cynulleidfaoedd ar hyd a lled Cymru a Lloegr yng nghynhyrchiad newydd anhygoel Opera Cenedlaethol Cymru o Death in Venice – cynhyrchiad sydd wedi llwyddo i ennill adolygiadau 5 seren. Gyda dau berfformiad yn unig ar ôl yn ystod Tymor Gwanwyn 2024, aethom i gael gair gyda’r acrobat awyr er mwyn dysgu rhagor am ei brofiad o weithio gydag WNO a’i obeithion ar gyfer y dyfodol.
Eich cymeriad chi yw Tadzio, sef aelod o’r teulu Pwylaidd sy’n aros yn yr un gwesty â phrif gymeriad yr opera, Gustav von Aschenbach. Sut brofiad yw gweithio gyda pherfformwyr syrcas eraill, artistiaid gwadd a Chorws WNO ar y llwyfan?
Rydw i’n gwneud llawer iawn o waith unawdol a phrin iawn rydw i’n cydweithio â pherfformwyr eraill – os byddaf yn gweithio ochr yn ochr ag eraill, aelodau cwmnïau syrcas fydd y bobl hynny a byddaf yn perfformio act solo. Death in Venice yw’r eildro yn unig i mi weithio ar y cyd ag eraill, felly mae’n dal i fod yn brofiad newydd iawn. Ond rydw i’n mwynhau’n fawr.
Mae Benjamin Britten wedi defnyddio dylanwadau di-rif wrth gyfansoddi ei opera Death in Venice, yn arbennig felly Thomas Mann a ysgrifennodd y nofel fer wreiddiol sy’n sail i’r opera. Tybed pwy sydd wedi cael y dylanwad mwyaf arnoch chi yn eich gwaith?
Fy nhad. Fi yw’r pumed genhedlaeth yn fy nheulu i weithio yn y syrcas, a Dad oedd yr unig un a adawodd y criw i weithio ar ei ben ei hun. Roeddwn i’n gwybod bod ei waith yn wych ac roeddwn i eisiau dilyn yn ôl troed fy nhad. Mae Dad wastad wedi llwyddo i’m hysgogi.
Pa gelfyddyd a/neu artistiaid sydd wedi eich ysbrydoli dros y blynyddoedd?
Rydw i’n gwirioni ar David Bowie ac mae ei waith yn ysbrydoliaeth fawr. Hefyd, rydw i’n hoffi’r hen baentiadau yn y Cirque d’Hiver ym Mharis – mae ’na amgueddfa breifat fechan yno, nad oes llawer o bobl yn gwybod amdani, lle gallwch ddysgu am hanes y syrcas.
Mae eich perfformiad yn Death in Venice yn gofyn llawer yn gorfforol – gymnasteg, strapiau, cylchynnau a mwy, ar eich pen eich hun ac fel rhan o grŵp. Beth yw’r her fwyaf sydd wedi dod i’ch rhan yn eich gyrfa fel perfformiwr?
Defnyddio strapiau, oherwydd fi yw’r artist cyntaf yn fy nheulu i wneud campau acrobatig yn yr awyr. Allai fy nhad ddim dysgu’r technegau i mi, felly bu’n rhaid i mi eu dysgu ar fy mhen fy hun – rhywbeth y mae llawer o bobl yn ei wneud. Mae perfformwyr syrcas sy’n eu haddysgu eu hunain yn wynebu cryn her, felly rydw i’n falch o’r hyn rydw i wedi’i gyflawni.
Beth sydd o’ch blaen yn y dyfodol?
Ar hyn o bryd, rydw i’n brysur iawn. Fy mreuddwyd yw parhau i berfformio fy act syrcas coreograffedig fy hun, a hefyd rydw i’n gweithio ar act meimio. Buaswn hefyd yn hoffi gwneud mwy o waith syrcas traddodiadol a buaswn wrth fy modd pe bawn yn gallu cynnwys fy storïau fy hun yn y sioeau hynny.
Peidiwch â cholli eich cyfle olaf i weld cynhyrchiad 5 seren WNO o Death in Venice. Mae rhywfaint o docynnau’n dal i fod ar gael ar gyfer yr Hippodrome yn Birmingham ar 11 Mai.