Newyddion

Yn cyhoeddi ein Cyfarwyddwr Cyffredinol Dros Dro

4 Rhagfyr 2023

Mae Opera Cenedlaethol Cymru wedi cyhoeddi bod Christopher Barron wedi’i benodi yn Gyfarwyddwr Cyffredinol Dros Dro. Bydd yn dechrau yn y rôl yn fuan ym mis Ionawr 2024.

Mae gan Christopher brofiad helaeth mewn rheolaeth ac arweinyddiaeth yn y celfyddydau a daeth yn Rheolwr Cyffredinol Gŵyl Ryngwladol Caeredin yn fuan yn ei yrfa. Bu’n gweithio yn y maes drama, opera, dawns a cherddoriaeth drwy gydol ei yrfa ac yn dal swyddi arwyddocaol gan gynnwys Prif Weithredwr Birmingham Royal Ballet, Prif Weithredwr Scottish Opera a Scottish Ballet, a Chyfarwyddwr Artistig a Phrif Weithredwr Brighton Dome and Festival.

Bydd ein Cyfarwyddwr Cyffredinol presennol, Aidan Lang, yn ymddeol ar ddiwedd y flwyddyn ac yntau wedi bod yn y rôl am bedair blynedd ac yn gweithio yn y byd opera am fwy na deugain mlynedd.

Rôl y Cyfarwyddwr Cyffredinol Dros Dro yw rhoi sefydlogrwydd mewn arweinyddiaeth a gweledigaeth artistig i WNO dros y flwyddyn nesaf, gan ddarparu’r rhaglen artistig gytunedig a braenaru’r tir ar gyfer arweinydd parhaol newydd. Byddwn yn chwilio am olynydd i Aidan Lang yn y flwyddyn newydd. Bydd Christopher Barron yn aros yn y rôl yn ystod y broses recriwtio.

Yn ôl Christopher Barron: 

A minnau wedi bod yn fyfyriwr ym Mhrifysgol Abertawe, roeddwn i’n ddigon ffodus cael gweld amryw o gynyrchiadau WNO ar eu teithiau rheolaidd â’r ddinas. Yn sgil hynny, yr wyf wedi dilyn ac edmygu gwaith y Cwmni ar hyd fy ngyrfa. Yr wyf wrth fy modd cael ymuno â’r tîm ar yr adeg bwysig hon i WNO. Fy mhrif flaenoriaeth fydd gwarchod y Cwmni, cynllunio ei ddyfodol a pharhau i gyflawni rhagoriaeth artistig ym mhopeth a gyflwyna gan gynnwys y rhaglen eang yn y gymuned.


Yn ôl Cadeirydd WNO, Yvette Vaughan-Jones:

Mae’n bleser gennyf groesawu Christopher i WNO ac yr wyf yn falch o’r profiad a ddaw i’r Cwmni drwy ei waith yn y sector ehangach yn y DU ac yn rhyngwladol.

“Mae’n gyfnod pwysig i ni a ninnau angen sicrhau ein bod yn parhau i ddarparu bywiogrwydd artistig, sefydlogrwydd ariannol a chydraddoldeb cyfle ym mhob agwedd ar ein gwaith, ond yn anad dim, cynnal sefydlogrwydd o fewn y Cwmni. Bydd sgiliau a phrofiad helaeth Christopher yn ystod y cyfnod hwn yn rhoi’r sefydlogrwydd hwn i ni a’r gallu i ni sicrhau parhad ein gwaith, gan gynnig profiadau eithriadol ar y llwyfan yn ein cyngherddau a’n cynyrchiadau, a thrwy ein prosiectau a’n gwaith yn y cymunedau a wasanaethwn.

Rydym yn edrych ymlaen at groesawu Christopher ym mis Ionawr.