Ers mis Mawrth 1910, mae diwrnod wedi'i neilltuo yn y calendr i ddathlu holl fenywod gwych y byd. Heddiw, ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod 2024, rydym yn amlygu un o’r menywod ysbrydoledig yma yn Opera Cenedlaethol Cymru, Cynhyrchydd WNO, April Heade.
Roedd April, cynhyrchydd a aned yn Ne Cymru, wedi'i hamgylchynu gan y celfyddydau o oedran ifanc iawn. Roedd pob diwrnod o’r wythnos yn llawn gweithgaredd celfyddydol, o ganu’r piano a’r clarinét i ymgolli mewn ffilmiau, cerddoriaeth a’i gwir gariad cyntaf, dawnsio, a gododd ei hyder a’i siapio fel unigolyn. Er gwaethaf awydd ei phlentyndod i fod yn ysbïwr, yn James (neu a ddylem ddweud Jane) Bond, roedd ei bryd ar y celfyddydau ac ar ôl cyfnod mewn cwmni cyhoeddi lleol i fenywod yn unig, daeth y cyfle i ymuno ag Opera Cenedlaethol Cymru. Wrth gofio ei phrofiad cyntaf o opera - perfformiad o Aida yn Verona gyda’i mam bedydd - doedd dim modd iddi adael i’r cyfle hwn fynd heibio.
Yn 2017, ymunodd â’r Cwmni yn yr adran Rhaglenni ac Ymgysylltu, lle plymiodd i mewn i brosiectau iechyd y tîm a darganfod beth oedd ei gwir awch - helpu eraill. Roedd hi’n rhan hanfodol o’r rhaglen ysbyty yn ei blwyddyn beilot, yn rheoli’r rhaglen disgrifiad sain, ac yn gweithio ar sawl prosiect llesiant yn Hong Kong, Dubai a Moroco.
Mae hi’n anodd cyfleu pa mor angerddol ydw i am y math yma o waith. Dywedir yn gyson y gall y celfyddydau newid bywydau ac mae hynny mor wir. Mae gallu darparu cerddoriaeth mewn lleoliad sy'n golygu bod pawb yn cael eu cynnwys, yn anhygoel. O weld sut mae'r grwpiau amrywiol yn rhyngweithio ac yn ymateb i gerddoriaeth, does dim teimlad tebyg. Mae'n rôl mor foddhaus.
Ym mis Mawrth 2020, newidiodd y byd yn llwyr oherwydd y pandemig coronafirws. Yn ystod y cyfnod hwn, daeth pwysigrwydd y celfyddydau yn fwyfwy amlwg ac yn deillio o’r pandemig, roedd Byrddau Iechyd GIG Cymru yn awyddus i ddatblygu rhaglen arloesol gydag Opera Cenedlaethol Cymru i gefnogi pobl a oedd yn byw gydag effeithiau hirdymor COVID-19 – yn benodol pobl yn fyr eu gwynt ac yn cael teimladau o orbryder.
Yn ystod haf 2021, daeth 3 arweinydd gwasanaeth COVID Hir benywaidd o Fyrddau Iechyd GIG Cymru ac arbenigwyr lleisiol WNO (a oedd hefyd yn fenywod) ynghyd ag April i ddatblygu’r rhaglen ac ym mis Tachwedd 2021, ganwyd Lles gyda WNO.
Roedd yr arloesedd, yr ysbrydoliaeth a'r ymrwymiad i ofal sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, yn anhygoel. Rwyf mor falch o alw'r menywod ysbrydoledig hyn yn gydweithwyr i mi ac mae hi’n anrhydedd cael bod yn rhan o daith ein cyfranogwr. Maen nhw'n grŵp penderfynol iawn o bobl sydd wedi gadael effaith barhaol arna i.
Hyd yn hyn, mae 94% o'r cyfranogwyr sydd wedi mynd trwy'r rhaglen Lles gyda WNO wedi adrodd canlyniadau cadarnhaol, gan arwain at lefelau uchel o ddiddordeb gan y byd meddygol. Fel y rhaglen presgripsiwn cymdeithasol genedlaethol gyntaf yng Nghymru, mae April yn fwy penderfynol nag erioed i hyrwyddo’r gwaith ar lefelau uchel ac mae wedi cyflwyno’r rhaglen i Rwydwaith Straen Trawmatig Cymru, Cymdeithas Seicolegol Prydain, gwasanaethau iechyd amrywiol a dirprwyaethau rhyngwladol, ac yn fwyaf diweddar, cafodd ei rhannu yn lansiad fframwaith cenedlaethol Llywodraeth Cymru ar gyfer presgripsiynau cymdeithasol.
Os oes yna unrhyw fenywod yn ystyried gyrfa yn y celfyddydau ac iechyd, fy nghyngor i fyddai mynd amdani. Mae'n waith hynod o bwysig ac mae'n faes sy'n cael ei gydnabod yn fwyfwy. Byddwch yn cael y cyfle i gydweithio â phobl ysbrydoledig o bob cefndir. Rwyf wedi dysgu cymaint gan y cyfranogwyr a gweithwyr meddygol proffesiynol - gan gynnwys fy mam sydd wedi rhoi ei bywyd gwaith cyfan i'r GIG. Yr allwedd i lwyddiant yn y maes hwn yw dangos cydymdeimlad, bod yn garedig ac yn dosturiol.