Dywedodd llefarydd Opera Cenedlaethol Cymru:
“Rydym yn hynod falch o gael cadarnhad ein bod yn parhau ar bortffolio cenedlaethol Cyngor Celfyddydau Cymru a’n bod ni wedi cael cynnig amodol, ac rydym yn edrych ymlaen at weithio’n agos â CCC wrth gyflawni ein gwaith dros y tair blynedd nesaf.
“Yn naturiol rydym yn siomedig o dderbyn gostyngiad yn ein cyllid, serch hynny rydym yn llwyr werthfawrogi’r cyd-destun anodd cyffredinol y gwneir penderfyniadau ariannu ynddo a bod toriadau’n effeithio ar y sector cyfan. Fel cwmni cenedlaethol, rydym yn cydnabod pwysigrwydd ein rôl o gefnogi’r sector celfyddydau ehangach yng Nghymru. Byddwn yn ceisio datblygu ein cysylltiadau â sefydliadau bach a mawr er mwyn adnabod rhagor o gyfleoedd lle gallwn gydweithio a chreu partneriaethau strategol.
“Ein blaenoriaeth nawr yw sicrhau ein bod yn parhau i gyflawni’n rôl ar lefel leol, genedlaethol a rhyngwladol drwy arddangos rhagoriaeth ddiwylliannol Cymru i’r byd a pharhau ein rhaglen gynhwysfawr o waith ymgysylltu mewn cymunedau ledled Cymru a thu hwnt.”