Newyddion

Cynhadledd Cymdeithas Cerddorfeydd Prydain yn dychwelyd i Ganolfan Mileniwm Cymru, Caerdydd

16 Ionawr 2018

Fe ddychwelodd cynhadledd flynyddol Cymdeithas Cerddorfeydd Prydain, a gynhaliwyd gan Opera Cenedlaethol Cymru yn 2009 i Gaerdydd ac yn cael ei chynnal ar y cyd am y tro cyntaf erioed gan dair cerddorfa: Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, Sinfonia Cymru a WNO.

Fe oedd cynrychiolwyr cenedlaethol a rhyngwladol yn bresennol yn y gynhadledd, a oedd yn dwyn y thema Cydweithio. Mae’r ffaith fod y gynhadledd yn cael ei chynnal ar y cyd yn arwydd clir o’r ymrwymiad i gydweithio, sydd bellach yn rhan annatod o waith y sefydliadau cerddorol hyn sydd wedi’u lleoli yng Nghaerdydd. Yn ystod y tri diwrnod, fe wnaethom ddangos sut mae ein cydweithwyr o’r ddwy gerddorfa arall a wnaeth cynnal y digwyddiad yn cydweithio’n agos â WNO a phartneriaid eraill, megis Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, Neuadd Dewi Sant, Canolfan Mileniwm Cymru a nifer fawr o sefydliadau celfyddydau ac addysg, lleoliadau ac awdurdodau lleol yng Nghymru, Lloegr a thu hwnt.

Credwn fod Caerdydd yn cynnig model gwych o’r ffordd y gall gydweithwyr, cwmnïau a lleoliadau siarad gyda’i gilydd a meddwl am ffyrdd o ddarparu arlwy artistig rheolaidd ac amrywiol ar gyfer cynulleidfaoedd mewn amrywiaeth o ardaloedd daearyddol yng Nghymru. Dim ond drwy fod mor barod i gydweithio y gellir cyflawni hyn. Ym mhob rhan o’r DU, mae hyn yn cael ei gydnabod fel rhan hanfodol o’r ffordd ymlaen ac fe ddaeth y diwydiant i Gaerdydd i drafod hyn.

Yn ystod y tri diwrnod, fe oedd sesiynau yn edrych ar gydweithio a materion cysylltiedig sy’n effeithio ar y diwydiant cerddorfeydd a cherddoriaeth a chafodd eu cynnal yng Nghanolfan Mileniwm Cymru. Cynhelir cyngerdd ar y cyd rhwng Cerddorfeydd y BBC a WNO ar ddydd Mercher 24 Ionawr 2018 yn Neuadd Hoddinott. Fe arweiniodd ein Cyfarwyddwr Cerddoriaeth Tomáš Hanus a Phrif Arweinydd Cerddorfa’r BBC Thomas Sondergard eu cerddorfeydd.

Ymhlith prif siaradwyr y gynhadledd mi oedd Kevin Brennan (Gweinidog Diwylliant yr Wrthblaid yn San Steffan), Phil George (Cadeirydd Cyngor Celfyddydau Cymru) a Tony Hall (Cyfarwyddwr Cyffredinol y BBC). Hefyd fe wnaeth yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas AC, Gweinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon Llywodraeth Cymru, cynnal derbyniad yn y Senedd.

Fe oedd Cynhadledd 2018 Cymdeithas Cerddorfeydd Prydain yn addo bod yn dri diwrnod rhagorol o drafod a gweithgarwch. Fe oedd sylw’r diwydiant cerddorfeydd a cherddoriaeth ryngwladol wedi’i hoelio ar brifddinas Cymru ac mi oedd Opera Cenedlaethol Cymru yn falch tu hwnt o gael cyfrannu at y gwaith o gynnal y digwyddiad pwysig hwn.