Newyddion

Disgrifiad Clywedol - cyfle cynhwysol

2 Ionawr 2018

Yn WNO rydym eisiau i opera ddod yn fyw i bawb. Pob Tymor rydym yn cynnig Teithiau Cyffwrdd a Ddisgrifiad Clywedol ar gyfer rhai perfformiadau o fewn nifer o’n lleoliadau.

Beth yw Disgrifiad Clywedol?

Mae ein disgrifwyr clywedol yn rhoi sylwebaeth fyw yn ystod yr opera. Maent yn disgrifio'r symudiadau, y mynegiant wynebol ac iaith y corff, yn ogystal â gosodiad y llwyfan a lleoliad y cymeriadau mewn perthynas â'i gilydd. Mae'r wybodaeth yn cael ei chyflwyno gan ddefnyddio system isgoch i glustffonau ysgafn.

Yn ogystal, er mwyn atgyfnerthu eich dealltwriaeth o'r opera a'r cynhyrchiad, rhoddir cyflwyniad 15 munud i'r setiau, y cymeriadau a'r gwisgoedd cyn i'r perfformiad ddechrau ar y llwyfan. Unwaith y bydd y canu wedi dechrau, bydd y disgrifiwr clywedol yn defnyddio'r seibiau i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi ar y goleuo, y newidiadau i’r set ayyb. Mae hyn i gyd yn rhoi profiad llawer gwell i rai sy'n ddall neu'n rhannol ddall. Cyn y perfformiad - awr ynghynt fel arfer- rydym hefyd yn cynnig Taith Gyffwrdd, dan arweiniad un o'n Rheolwyr Llwyfan. Mae'r teithiau tywys hyn yn mynd â chi ar y llwyfan ac ymysg y setiau, ac yn rhoi cyfle i chi gyffwrdd â’r propiau a’r gwisgoedd, i chi gael dealltwriaeth o osodiad y cynhyrchiad. Os hoffech gymryd rhan mewn Taith Gyffwrdd, cofiwch wisgo esgidiau synhwyrol, sy'n ofyniad safonol pan fyddwch ar y llwyfan neu y tu ôl i’r llenni.

Er mwyn gallu manteisio ar y disgrifiadau, yr unig beth sydd angen i chi ei wneud yw rhoi gwybod i swyddfa docynnau’r theatr yr hoffech gael clustffon. Dylai’r swyddfa hefyd allu eich cynghori ar y seddi gorau ar gyfer disgrifiad clywedol. Ni chodir cost ychwanegol am y disgrifiad na'r Daith Gyffwrdd. Cliciwch yma am ddyddiadau perfformiadau Disgrifiad Clywedol. Rydym hefyd yn cynnig disgrifiad wedi’i recordio ymlaen llaw ar ein gwefan er mwyn i chi wrando arno ymlaen llaw.

Am ragor o wybodaeth am berfformiadau gyda Disgrifiad Clywedol a Theithiau Cyffwrdd, siaradwch â swyddfa docynnau'r theatr.