Il trittico gan Puccini yw'r enghraifft berffaith o feistrolaeth y cyfansoddwr, gyda nifer o alawon yr opera'n dod i'r amlwg yn niwylliant poblogaidd hyd heddiw. Fodd bynnag, yng nghynhyrchiad pum seren Opera Cenedlaethol Cymru, nid y gerddoriaeth yn unig sy'n ysbrydoledig...
Gyda saith lori deithio llawn i'w chludo, 40 aelod o'n tîm Technegol i'w symud, a thua awr gyfan fesul sioe i fynd i'r afael â'r newidiadau enfawr, teg yw dweud bod setIl trittico yn sefyll ben ac ysgwyddau uwchben y gweddill. Dewch i ni gael cipolwg ar du ôl i'r llenni i ddysgu mwy.
Ar ôl gadael ein cydweithwyr sy'n gweithio ar y cyd-gynhyrchiad yn Scottish Opera yn Glasgow i deithio tua 400 milltir i'n cartref yng Nghanolfan Mileniwm Cymru yng Nghaerdydd, mae ein tîm Technegol yn mynd ati i adeiladu'r set am y tro cyntaf...ac yna yn ei thynnu i lawr a'i hailadeiladu dro ar ôl tro.
Dan Saddington, Pennaeth LlwyfanAethom ati i ymarfer y newidiadau drosodd a throsodd a llwyddom i haneru'r amser a arferai ei gymryd i ni ar y dechrau erbyn y sioe gyntaf...ond yn ystod y cyfnodau egwyl, rydym yn defnyddio bob munud o'r amser hwnnw. Rydym yn cystadlu yn erbyn y cloc.
Isod, mae ein tîm Technegol yn trawsnewid y set o Il tabarro i Suor Angelica. Dyma 30 munud wedi ei gywasgu'n 24 eiliad yn unig.
Yn ein cartref yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, rydym yn ddigon ffodus i gael ardal cefn llwyfan sy'n ddigon mawr i alluogi newidiadau set o'r maint hwn, ond mae rhai o'n lleoliadau teithio cryn dipyn yn llai. Er mwyn sicrhau nad yw hyn yn effeithio ar ein sioeau mewn unrhyw ffordd, mae ein tîm Technegol yn gweithio i faint ein lleoliad lleiaf. Drwy amlinellu maint y lleoliad lleiaf yn ôl ei droedfeddi sgwâr, gallwn sicrhau bod y sioe yn rhedeg yn ddidrafferth o leoliad i leoliad, ac osgoi unrhyw broblemau annisgwyl.
Jenni Price, Uwch Reolwr LlwyfanMae angen iddo gael ei weithredu'n ddidrafferth heb unrhyw gamgymeriadau. Nid oes modd i adrannau eraill, fel colur, trydan, propiau wneud yr hyn sydd angen iddynt ei wneud nes bod y set yn ddiogel. Maent i gyd yn dibynnu ar y set!
Yn sicr, y set ar gyfer y drydedd opera un act, a'r olaf un o dair set Il trittico, sef Gianni Schicchi, yw'r fwyaf poblogaidd ymhlith cynulleidfaoedd. Yn ystod ein noson agoriadol yr Haf hwn, clywyd synau o ryfeddod pan gododd y llen a gwelodd y gynulleidfa'r olygfa ecsentrig, orlawn o'r 1970au a bortreadwyd ar y llwyfan.
Mae angen gwaith papur a pharatoi da i sicrhau bod y llu o bropiau i gyd yn yr un lle ar gyfer bob sioe. Gyda munudau'n unig yn weddill o'r egwyl 40 munud, mae ein tîm Technegol yn galw allan bob un prop, fel cofrestr, ac yn gwirio eto bod popeth yn cael ei osod yn gywir.
Awydd gweld y setiau anhygoel hyn drosoch eich hun? Peidiwch â cholli'r cyfle i weld ein cynhyrchiad clodwiw o Il tritticoyn dychwelyd i Ganolfan Mileniwm Cymru y mis hwn, neu ymunwch â ni ar daith, sy'n dechrau ym mis Hydref, i weld Suor Angelica a Gianni Schicchi. Y gobaith yw y byddwch nawr yn gwybod popeth am yr hynt a'r helynt sy'n digwydd y tu ôl i'r llen yn ystod yr egwyl.