Newyddion

BeeKind i'ch gilydd

5 Mawrth 2019

Yn y cyfnod cyn Tymor RHYDDID WNO rydym yn gweithio'n galed i dynnu sylw at themâu pwysig y tymor yn y gymuned leol. Mewn partneriaeth ag Amnest Rhyngwladol rydym wedi bod yn gweithio gyda'n deg ysgol reolaidd yn Ne Cymru i ddysgu'r plant am hawliau dynol a'u helpu i greu eu cyfansoddiad eu hunain, prosiect a wnaeth ddwyn y teitl BeeKind.

Dechreuodd y gwaith y tymor diwethaf yn Ysgol Gynradd Willowbrook lle bu Hwyluswyr Creadigol WNO, Dan Perkin a Julia Gay, yn gweithio gyda dau ddosbarth i greu cân wedi'i hysbrydoli gan themâu'r Tymor RHYDDID a'r Datganiad Cyffredinol o Hawliau Dynol. Yn ystod y cyfnod cyn y lansiad, bydd y naw ysgol sy'n weddill yn dysgu'r gân yn ogystal â'r darnau eraill a fydd yn cael eu perfformio fel rhan o'r diwrnodau rhannu yn ein cartref, Canolfan Mileniwm Cymru.

Buom yn siarad â Dan Perkin, Hwylusydd Creadigol WNO ynghylch sut y cafodd ef a Julia y syniad am y darn terfynol.

'Pan gysylltodd Rebeka, Cydlynydd Ysgolion WNO, â mi i drafod creu darn gydag ysgol yn ein rhaglen o weithdai reolaidd, Ysgol Gynradd Willowbrook oedd y dewis amlwg gan fod yr ysgol wedi croesawu'r gweithdai hyn o'r cychwyn cyntaf.

'Ar ôl dyfeisio darnau gyda phobl ifanc o'r blaen, rwyf wedi dysgu, os ydych eisiau cael yr ymateb mwyaf creadigol ganddynt, mae'n bwysig iawn dewis pwnc a fydd yn ennyn eu diddordeb er mwyn tanio eu dychymyg.  Roedd y dasg o greu darn yn seiliedig ar ryddid neu hawliau dynol ychydig yn anoddach na fy mriff arferol.  

'Fy syniad cychwynnol oedd y dylai fod ar ffurf chwedl am anifeiliaid gan nad wyf erioed wedi cwrdd â pherson ifanc sydd heb farn ar anifeiliaid, a gall y rhain fod yn ffordd dda i addysgu 'neges' heb iddi fod yn ormod o bregeth. Wrth ymchwilio i'r themâu hyn gyda'r disgyblion, cafodd un ohonynt y syniad am gwch gwenyn yn gynnar iawn, roedd honno yn eiliad o ysbrydoliaeth i Julia a minnau gan fod gwenyn yn chwaraewyr tîm go iawn sy'n cyflawni canlyniadau anarferol (ac annisgwyl) o ganlyniad i'w gwaith caled.

'Roedd hi'n bwysig cofio y bydd y darn yn cael ei berfformio gan ddosbarthiadau o blant ysgol gynradd cyffredin, nid corwyr.  Felly, ni ddylai'r amrediad lleisiol fod yn feichus, a dylai'r gân gynnwys penillion sy'n ail-adrodd fel bod y plant yn ei chael hi'n hawdd dysgu'r geiriau a'r gerddoriaeth.  Ar yr un pryd, fodd bynnag, fel Opera Cenedlaethol Cymru, mae'n rhaid i ni roi her iddynt a rhoi rhywbeth iddynt na fyddent yn gallu ei gyflawni ar eu pennau eu hunain, felly mae canu mewn cytgord yn angenrheidiol, ac roedd gwybod eu bod yn mynd i gael eu harwain gan gerddorion proffesiynol yn golygu y gallai'r darn fod yn eithaf cymhleth o ran rhythm, gyda chyfeiliant piano a oedd yn ychwanegu at y gerddoriaeth yn hytrach na chefnogi'r llinell leisiol yn unig.  

'Rwy'n gobeithio bod y disgyblion yn Willowbrook wedi ein helpu i greu darn y gallant deimlo bod ganddynt berchnogaeth  a balchder ohono, ac y bydd y bobl ifanc eraill a fydd yn ei berfformio yn ei weld yn ddarn hwyliog i ymgysylltu ag ef. Mae Ysgol Gynradd Moorland (ysgol wych arall yr ydym yn gweithio gyda hi'n rheolaidd) yn brysur yn dysgu'r darn ar gyfer ei berfformiad cyntaf ym mis Mai fel rhan o ddigwyddiad lansio a fydd yn cael ei gynnal gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn y Senedd ar 8 Mai fel rhan o Dymor RHYDDID WNO.'

Os hoffech weld y plant ysgol yn perfformio'r darn hwn yn ogystal â'r darnau eraill y maent wedi eu dysgu, bydd  yna berfformiadau cyhoeddus gan y 600 o ddisgyblion o bob ysgol yng Nghanolfan Mileniwm Cymru yn ardal cyntedd Glanfa bob dydd rhwng 24-28 Mehefin yn ystod amser cinio (12.15 - 12.40pm).