Newyddion

Beethoven’s Bonn

21 Hydref 2020

Yn brifddinas Gorllewin yr Almaen ar un adeg, heddiw cysylltir Bonn yn helaeth â Beethoven, a fu'n byw a gweithio yn y ddinas am 22 mlynedd. Dylai 2020 fod wedi gweld Bonn yn ôl dan y chwyddwydr wrth i'r ddinas baratoi at ddathlu 250 mlynedd ers geni Beethoven ond roedd gan Covid-19 gynlluniau eraill. Roedd rhaid gohirio blwyddyn gron o gyngherddau yn serennu cerddorfeydd, unawdwyr ac arweinwyr byd enwog, a gŵyl flynyddol Beethoven y ddinas, Beethovenfest, yn yr un modd â nifer o berfformiadau yn dathlu'r cyfansoddwr enwog hwn ar draws y byd.

Mae traddodiad y Beethovenfest yn Bonn yn mynd yn ôl i'r flwyddyn 1845. Yn 1835, sefydlwyd Cymdeithas Bonn ar gyfer Cofeb Beethoven, a chylchredodd Robert Schumann apeliadau am arian ledled Ewrop. Ar ôl 10 mlynedd o godi arian, yn cynnwys cyfraniad hael gan Franz Liszt, cynhaliwyd gŵyl dros dri diwrnod i ddathlu Cofeb Beethoven ar y Münsterplatz. Roedd wynebau enwog megis Brenhines Fictoria, Brenin Prwsia Friedrich Wilhelm IV a deallusion enwog megis Alexander von Humboldt yn bresennol, yn ogystal â nifer o gerddorion pwysig.

Mae'r tŷ lle ganwyd Beethoven yn 1770 yn un o'r amgueddfeydd cerddoriaeth mwyaf poblogaidd yn y byd. Pan oedd Bonngasse 20 i'w ddymchwel yn 1889, sefydlodd dinasyddion Bonn gymdeithas i'w warchod. Heddiw, gall ymwelwyr â'r Beethoven-Haus edmygu sgorau gwreiddiol, ei ddychmygu'n eistedd wrth ei biano cyngerdd olaf a rhyfeddu at y cyrn clustiau anferth a arferai eu gwisgo i helpu ei fyddardod cynyddol. Yn ogystal â'r amgueddfa, mae'r Beethoven-Haus yn gartref i gasgliad Beethoven mwyaf cynhwysfawr y byd, neuadd cerddoriaeth siambr, a sefydliad ymchwil o fri rhyngwladol ar gyfer astudio bywyd a gwaith y cyfansoddwr.

Fel nifer o gerddorion eraill y 18fed ganrif, ganwyd Beethoven i'r proffesiwn. Symudodd ei Dad-cu (Ludwig arall) o Flanders i'r Almaen yn 1733 a buan wedyn cafodd ei benodi yn gerddor llys yn Bonn. Yn 1761 cafodd ei wneud yn Kapellmeister y llys, yn gyfrifol am holl weithgareddau cerddorol swyddogol Bonn tan ei farwolaeth yn 61 mlwydd oed. Roedd ei fab Johann, tad Beethoven, hefyd yn gantor yn y côr etholiadol.

Gwnaeth Beethoven ei ymddangosiad cyhoeddus cyntaf ar 26 Mawrth 1778 yn Cologne, llai nag ugain milltir i fyny'r Rhein o Bonn. Hyrwyddodd ei dad ef fel plentyn rhyfeddol a'i hysbysebu fel bachgen chwech oed, er ei fod yn saith mewn gwirionedd, i ddenu cymariaethau ffafriol â Mozart. Dechreuodd wersi cyfansoddi a phiano ffurfiol gyda'r organydd llys Gottlob Neefe yn 1780, a daeth yn gynorthwyydd iddo yn 1784. Ar ôl i'w fam farw yn 1787, cymerodd Ludwig gyfrifoldeb cynyddol dros gefnogi ei deulu drwy addysgu, a chwarae'r fiola yng ngherddorfa'r theatr, lle daeth i wybod am y repertoire opera.

Pan arhosodd Joseph Haydn yn Bonn ar ei ffordd yn ôl o Loegr yn 1792, cyflwynodd Beethoven rai o'i weithiau iddo. Penderfynodd Haydn ei gymryd dan ei awenau fel disgybl, ac ym mis Tachwedd gadawodd Beethoven am Fienna, i beidio â dychwelyd byth. Yn 1800 ysgrifennodd at ei ffrind Franz Gerhard Wegeler yn Bonn 'Mae'r rhanbarth lle gwelais olau dydd am y tro cyntaf yr un mor brydferth a chlir o flaen fy llygaid. Byddaf bob amser yn ystyried y cyfnod hwn fel un o bethau mwyaf ffodus fy mywyd: cyfarch y Rhein Dduwiol'.