Newyddion

Y tu ôl i'r llen gydag ysgolion

9 Gorffennaf 2020

Credwn fod creadigrwydd mewn ysgolion yn bwysig a'i fod yn helpu i godi dyheadau a chynyddu disgwyliadau ar gyfer y disgyblion. Mae gwneud cerddoriaeth fel grŵp hefyd yn helpu i ddatblygu sgiliau cyfathrebu, hyder a hyblygrwydd. Yn 2015, gyda chymorth Sefydliad Hodge, lansiodd Opera Cenedlaethol Cymru raglen gynhwysol o weithgarwch rheolaidd mewn ysgolion yn ne Cymru i ddarparu addysg gerddoriaeth a chyfleoedd perfformio o safon uchel i ysgolion lleol.

Yn ystod y pum mlynedd diwethaf, rydym wedi gweithio gyda dros 2,400 o ddisgyblion o 15 ysgol - gan gynnwys pum ysgol Anghenion Addysgol Arbennig ac Anableddau (SEND). Ddwy flynedd yn ôl, gwnaethom hefyd ddechrau cynnig gweithdai rheolaidd i ysgolion mewn ardaloedd o amddifadedd yn Birmingham (un o hybiau WNO).

Mae Dan Perkin, Cyfarwyddwr Cerddoriaeth Opera Ieuenctid WNO yn un o arweinwyr y gweithdai:

'Ar ôl bod yn arweinydd gweithdai a cherddoriaeth am dros 15 mlynedd, gallaf ddweud mai'r hyn sy'n gwneud rhaglen gweithdai WNO yn wahanol i fy ngwaith arall yw'r cyswllt rheolaidd a gawn â'n cyfranogwyr. Rydym yn gweld y disgyblion bob wythnos yn ystod y tymor. Mae wedi bod yn bleser mawr i bawb weld y plant yn datblygu a thyfu, nid yn unig eu sgiliau perfformio, ond hefyd o ran eu hyder ar eu taith trwy'r rhaglen.'

Mae sesiynau yn cael eu gwneud i gyflwyno ac addysgu'r disgyblion am flociau adeiladu opera, sy'n cynnwys y caneuon, cerddoriaeth, straeon yn ogystal ag ymarferion cynhesu'r llais a chanu. Mae'r sesiynau hyn wedi'u canolbwyntio ar yr operâu mae WNO yn eu perfformio ar y llwyfan ac yn gorffen gyda pherfformiad rhannu yn nhymor yr haf.

'Ni fyddai'r sesiynau hyn wedi bod yn bosibl heb y gefnogaeth y mae Sefydliad Hodge wedi'i rhoi inni dros y pum mlynedd diwethaf ar gyfer ein rhaglen ysgolion reolaidd yn ne Cymru. Roeddem eisiau dathlu hyn a rhoi cyfle perfformio gwell fyth i'r plant. Mae cyfansoddiad newydd Hanesion Hudolus gan Gareth Glyn (cyfansoddwr) ac Anni Llŷn (libretydd) wedi'i gomisiynu yn arbennig ar gyfer yr achlysur. Roeddem wedi gobeithio ei berfformio eleni yn Neuadd Dewi Sant yng Nghaerdydd, nid yn unig i'w rhieni a'u hathrawon, ond i'r cyhoedd hefyd, ond cafodd ei ganslo oherwydd y pandemig. Rydym yn dal i weithio'n galed ac yn dod o hyd i bosibiliadau newydd i'w gyflwyno, gobeithio, yn 2021 yn lle hynny.' Rebeka Peake, Cydlynydd Ysgolion WNO

Yn ystod cyfnod clo'r DU, rydym wedi bod yn canolbwyntio ar ddarparu sesiynau wythnosol ar gyfer yr ysgolion yng Nghaerdydd a Birmingham mewn amryw o ffyrdd. Mae arweinwyr ein gweithdai yn darparu sesiynau fideo wedi'u recordio, podlediadau ac adnoddau dysgu ar gyfer y plant a'r athrawon. Yn ystod y sesiynau, maent yn archwilio gwahanol operâu yn ogystal â chanolbwyntio ar gynhesu'r llais a'r corff.

Fodd bynnag, rydym yn edrych ymlaen at ddychwelyd i'r ystafelloedd dosbarth i gyflwyno gweithdai ysbrydoledig i'r plant a chlywed eu cyffro pan maent yn gweld perfformiad WNO.


Mae gwaith WNO mewn ysgolion wedi cael cefnogaeth hael am bum mlynedd (2015-2020) gan

Cefnogir gweithgaredd ieuenctid, cymunedol a digidol WNO gan rodd hael gan