
Ar gyfer selogion cerddoriaeth glasurol, mae Berlin yn un o'r dinasoedd mwyaf gwerth chweil yn y byd gyda thri thŷ opera a'r enwog Berlin Philharmonic. Mae hanes gwefreiddiol a chythryblus y ddinas wedi tawelu a thanio creadigrwydd, nid lleiaf i'r rheiny a frwydrodd am ryddid mynegiant drwy gerddoriaeth.
Nid oes amheuaeth eich bod wedi clywed am Felix Mendelssohn, y cyfansoddwr, pianydd ac arweinydd o'r Almaen, ond beth am ei chwaer? Ganwyd Fanny Mendelssohn ar 14 Tachwedd 1805 yn Hamburg a symudodd y teulu i Ferlin yn 1811. Roedd y brawd a'r chwaer yn bianyddion talentog ac fe'u hanogwyd i berfformio a chyfansoddi gan eu rhieni, ond newidiodd popeth ar ôl pen-blwydd Fanny yn 14eg. Dychwelodd Tada Mendelssohn o daith fusnes gydag anrhegion i'w blant: i Fanny, cadwyn, ac i Felix, yr offer ysgrifennu i gyfansoddi ei opera gyntaf.
Dywedodd y peintiwr, William Hensel, na fyddai'n priodi Fanny oni bai ei bod yn parhau i gyfansoddi. Bob bore, byddai'n rhoi darn o bapur erwydd gwag ar ei stand cerddoriaeth. Ysgrifennodd oddeutu 500 o ddarnau, ac fe gyhoeddwyd chwech o'i chaneuon dan enw Felix, a arweiniodd at gyfarfod lletchwith â'r Frenhines Fictoria. Pan berfformiodd Mendelssohn iddi, gofynnodd am ei hoff gân, 'Italien'. Bu'n rhaid i Felix egluro mai ei chwaer a ysgrifennodd y gân. Dim ond yn 1846 y cyhoeddodd Fanny gasgliad o'i cherddoriaeth ei hun. Bu farw'n sydyn y flwyddyn ganlynol, chwe mis cyn ei brawd.

Yn yr 1920au, roedd Berlin yn atseinio gyda cherddoriaeth cyfansoddwyr cyfoes. Golygai'r weriniaeth ddemocrataidd newydd fod sensoriaeth wedi'i diddymu, ac roedd unigolion creadigol yn gwthio ffiniau'r hyn a oedd yn bosib mewn celf, ffilmiau a cherddoriaeth. Perfformiwyd Wozzeck Alban Berg ar 14 Rhagfyr 1925 yn y Berlin State Opera a hi oedd yr opera digywair hyd llawn gyntaf. Tynnodd Berg yn helaeth ar ei brofiadau yn y rhyfel, sydd i'w weld yng nghorws di-eiriau'r milwyr ynghwsg yn Act Dau.
Roedd cyngherddau clasurol ac opera yn digwydd law yn llaw â'r sin gabare, a oedd dan ddylanwad nifer o gerddorion croenddu yn cynnwys Sidney Bechet, clarinetydd a chyfansoddwr a actiodd mewn sawl ffilm Almaenaidd. Roedd Kurt Weill yn argyhoeddedig y dylai cerddorion fod yn llunio'r dyfodol ac roedd yn benderfynol o gau'r bwlch rhwng cerddoriaeth glasurol a chaneuon poblogaidd. Yn eironig daeth The Threepenny Opera ganddo (cywaith â Bertolt Brecht), a fwriadwyd fel ymosodiad ar gythreuliaid cyfalafiaeth, yn llwyddiant masnachol ysgubol. Ar ôl cael ei pherfformio am y tro cyntaf yn Theater am Schiffbauerdamm Berlin yn 1928, cafodd ei pherfformio dros 4,200 o weithiau ledled Ewrop o fewn blwyddyn. Yn ogystal â dod yn ffilm gerdd yn 1931, cafodd y drwgenwog 'Mack the Knife' ei defnyddio mewn hysbyseb McDonald's!
Ym mis Mehefin 1980, WNO oedd y cwmni opera cyntaf i berfformio yn Nwyrain yr Almaen, gan ymddangos ym Merlin, Dresden, a Leipzig. Gwerthodd y tocynnau i'r ddau berfformiad yn Komische Oper Berlin allan y diwrnod yr aethant ar werth. Derbyniodd Elektra, a agorodd yr ymweliad, gymeradwyaeth ugain munud o hyd. Yn ôl un aelod o WNO, roedd yn debycach i gyngerdd pop na pherfformiad opera. Llai na 10 mlynedd yn ddiweddarach chwalwyd Wal Berlin. Mae perfformiad hanesyddol Leonard Bernstein o Symffoni Rhif Naw Beethoven 'Ode to Freedom' ar ddiwrnod Nadolig 1989 yn Konzerthaus Berlin wedi dod bron yr un mor chwedlonol â'r foment chwyldroadol a ddathlai.