Newyddion

Dod ag opera i'r sgrin fach

8 Medi 2020

Mae opera, ynddi ei hun, yn gyfuniad o gerddoriaeth, dawns, theatr a chelfyddyd, felly nid yw'n syndod y gellir ei defnyddio ar gyfer ystod o lwyfannau eraill. Mae Opera Cenedlaethol Cymru wedi edrych ar opera a sinema ac wedi archwilio opera mewn hysbysebion, ond heddiw rydym yn trafod y munudau mawreddog sydd wedi cael eu creu ar y sgrin fach drwy opera.

Ond nid operâu sebon rydyn ni'n cyfeirio atynt - sef term a gafodd ei greu am y tro cyntaf yn 1930 a oedd yn deillio o operâu radio'r cyfnod a noddwyd gan gwmnïau sebon. Ystyrir y teledu fel modd i bawb gael mynediad at y pethau mawreddog a chymhleth. Mae sioeau megis The Simpsons a Family Guy wedi defnyddio opera i watwar plotiau a chreu golygfeydd doniol - edrychwch ar bennod The Homer of Seville. Ar y llaw arall, gall penodau Looney Tunes, megis The Long-Haired Hare, wneud i chi ryfeddu at ddawn arweinydd, sef Leopold Stokowsk, yn yr achos hwn, neu ganwr opera (ond nid yw'n cantorion ni yn dod â'r tŷ i'w adfeilion yn llythrennol - dim ond yn ffiguraidd).

Ar brydiau, mae modd i opera gael ei phortreadu'n ddrwg ar y teledu, ond nid yw hyn yn wir yn Killing Eve. Mae'r ysbïwr MI6 oeraidd, Carolyn Martens yn cyflwyno lefel ddofn i'w hoffter o opera; dyna yw cerddoriaeth ei bywyd; cyn marwolaeth ei mab, mae'n canu i alaw ‘Lucretia! O, Never Again Must We Two Dare to Part’ o The Rape of Lucretia. Fodd bynnag, wedi ei farwolaeth rydych yn gweld ei galar enbyd: wrth wrando ar Dido’s Lament gan Purcell mae hi'n dweud 'am ffordd drychinebus i farw', mae ei llygaid yn llenwi â dagrau, 'bu i alar Dido ei lladd', a gwyddom fod Carolyn yn teimlo felly hefyd. Mae'n enghraifft wych o bŵer emosiynol opera ar ei orau.

Mae opera yn dweud llawer wrthych chi am ddwyster mewnol person, ac yn aml mae'r rhai sy'n ei mwynhau fwyaf yn unigolion pwerus, neu'n cael eu hystyried yn sinigaidd. Megis y cymeriad teledu poblogaidd Inspector Morse, sy'n caru opera, yn enwedig Wagner a Mozart. Mae'r gyfres hefyd yn cynnwys opera a cherddoriaeth glasurol arall fel rhan o'i thrac sain, defnyddiwyd The Magic Flute yn ddyfais blot mewn un bennod. Efallai ei fod yn rhywbeth i wneud â chwarae ditectif, gan fod prif gymeriad y gyfres deledu Wallander hefyd yn caru opera, er ei fod yn well ganddo Puccini.

Fodd bynnag, nid yw pob munud ar y teledu mor sinistr. Un enghraifft yw pennod Nadolig Doctor Who gyda Katherine Jenkins: mae ei llais yn achub y dydd wrth iddi ganu, 'ar dy ben dy hun, distawrwydd yw'r cyfan a weli di'. Nid dyna'r drefn yn Opera Cenedlaethol Cymru, rydym yn ceisio dod â phobl ynghyd drwy lawenydd cerddoriaeth a chanu; gweler Corws WNO yn canu ein hemyn Cymreig nefolaidd. Maent yn sicr yn bygwth gyrfa unrhyw ganwr arall.