
Yn ystod Tymor y Gwanwyn 2024 Opera Cenedlaethol Cymru, cyffrous oedd cael gweld cynhyrchiad newydd o berfformiad prin a diwethaf Benjamin Britten, Death in Venice. Derbyniodd adolygiadau beirniadol gwych, perfformiwyd i gynulleidfaoedd wedi gwerthu allan ac aeth yn ei blaen i ennill Gwobr Celfyddydau SKY ar gyfer yr Opera Orau. Yn fwy cyffrous fyth yw perfformiad o gynhyrchiad opera newydd arall gan Britten, Peter Grimes, un o’i operâu cynharaf, fel rhan o Dymor Gwanwyn 2025 WNO. Mae’r ddwy opera yn cynnig cipolwg ar Britten fel cyfansoddwr a’i fywyd, wrth iddyn nhw nodi cychwyn a diwedd ei yrfa hir. Er ei fod wedi cyfansoddi nifer o waith cerddorfaol a chorawl, operâu Britten sy’n cael eu hystyried i fod y rhan bwysicaf a mwyaf sylweddol o’i yrfa gerddorol.
Ganwyd yn Suffolk ym mis Tachwedd 1913, ar noson cyn y Rhyfel Byd Cyntaf, cychwynnodd Benjamin Britten ei addysg gerddorol gyda gwersi piano yn saith oed, ac yna parhaodd yng Ngholeg Brenhinol Cerdd Llundain dan arweiniad y cyfansoddwr Frank Bridge.
Yn 1937 cyfarfu Britten â’r tenor Peter Pears, a ffurfiodd berthynas gydol oes ag ef a phartneriaeth gydweithredol. Erbyn 1944, cychwynnodd Britten waith ar ei opera ar raddfa fawr gyntaf, Peter Grimes. Anodd yw dychmygu dewrder Britten wrth greu opera mor dywyll a chwestiyngar â Grimes: roedd yn heddychwr a ffodd i America wrth i ryfel dorri, ac yn hoyw mewn cymdeithas a ystyrai perthnasau hoyw yn drosedd. Perfformiwyd yr Opera am y tro cyntaf yn 1945 yn Sadler’s Wells yn Llundain, ar gyfer ei ail agoriad wedi cyfnod o gau yn ystod y rhyfel, mewn dinas a gwlad a oedd wedi’u lorio ac wedi’u llethu. Wedi ysbrydoli gan stori am bysgotwr ar arfordir Suffolk yng ngherdd epig George Crabbe, The Borough (1810), roedd Peter Grimesyn waith arbennig. Wedi’i fframio gan fawredd a phwêr y môr, mae’n cynnwys ychydig o’r gerddoriaeth fwyaf teimladwy a bregus, ond hefyd gan deimlad o galedi a chreulondeb. Heb ymddiheuriad, mae’r opera’n portreadu’r sbectrwm llawn o natur ddynol.
Yn ystod yr ymarferion, cwestiynodd rhai yng Nghwmni Sadler’s Wells ‘gacoffoni’ cerddoriaeth arloesol Britten, ond roedd Peter Grimes yn llwyddiant aruthrol gyda chynulleidfaoedd a beirniaid. Roedd cerddoriaeth Britten yn Grimes yn flaengar ac yn newydd, ond nid yn rhy avant-garde i fod yn anhygyrch. Roedd hi’n glir mai opera Saesneg oedd Grimes, gyda nodweddion miniog, bron yn Ddickensaidd. Diffiniodd ei genhadaeth fel cyfansoddwr ‘i blesio pobl mor ddifrifol ag y gallwn’ dro ar ôl tro. Safbwyntiau amrywiol oedd gan ei gyfoedion: Disgrifiodd Tippet Britten fel ‘yn syml y person mwyaf cerddorol y bu i mi gyfarfod erioed’; Ystyriodd Bernstein ef fel ‘dyn sy’n rhedeg yn groes i’r byd’. Mae Peter Grimes wedi mynd ymlaen i fwynhau perfformiadau rheolaidd a dehongliadau, ac yn ôl rhai dyma un o’r operâu iaith Saesneg gorau a gyfansoddwyd erioed.
O’r adeg y cyfansoddwyd Peter Grimes, y thema a ailadroddir yn operâu Britten yw unigolyn unig, yn aml yn cael ei gau allan ac yn cael ei gamddeall, yn wrthyn i gymdeithas, fel arfer yn cael ei gyfuno gyda thema o ddiniweidrwydd llygredig. Mae’r rhan fwyaf yn ystyried y rhain i fod yn adlewyrchol o broblemau a bywyd personol Britten. Wrth siarad am Grimes, disgrifiodd Britten ef fel ‘pwnc sy’n agos iawn at fy nghalon - brwydr yr unigolyn yn erbyn y werin. Po fwyaf milain yw’r gymdeithas, y mwyaf milain yw’r unigolyn.’
Hyd heddiw Peter Grimes yw ei opera enwocaf ac sy’n cael ei pherfformio amlaf. Mae’r opera yn cynnig cerddoriaeth ryfeddol, wahanol a chymhleth sy’n amlygu datblygiad Britten fel cyfansoddwr opera arbennig a nodedig. Yn Peter Grimes gwelwn ddawn werthfawr Britten o osod yr iaith Saesneg i gerddoriaeth mewn ffordd mor bwerus ac yn adlewyrchu gwychder opera aruthrol yr 20fed ganrif.
Yn aml, caiff operâu eu hystyried fel ffurf elitaidd, hen ffasiwn ac amherthnasol o gelfyddyd. Mae profi perfformiad byw o opera gwych yn gwneud i ni deimlo a meddwl. Mae opera yn brism lle gellir gweld holl fywyd ac emosiynau, tywyll a hapus. Nid oes unrhyw ffurf arall o gelfyddyd yn dod yn agos at y brig, a heb unrhyw amheuaeth, mae Peter Grimes gan Britten yn opera wych.