Wedi ei eni yn Lowestoft, Suffolk, dangosodd Benjamin Britten dalent ragorol at gerddoriaeth o oed ifanc iawn. Roedd ei fam unwaith yn gobeithio y byddai’n dod y `Pedwerydd B’ a bod ymhlith Bach, Beethoven a Brahms. Ond roedd un cyfansoddwr, yn fwy na phob un arall, yn cael ei edmygu'n ddwfn gan Britten: Wolfgang Amadeus Mozart.
Dywedodd Britten wrth yr actor David Spenser, ’Un diwrnod byddwch yn sylweddoli mai Mozart yw’r cyfansoddwr gorau erioed - a Brahms yw’r gwaethaf.’ Er bod y sylw yn fwy na thebyg wedi’i ddweud yn ffraethineb arferol Britten, adlewyrchodd y datganiad edmygedd gonest Britten at waith Mozart. Byddai’n dychwelyd yn aml at ei gerddoriaeth am arweiniad, ysbrydoliaeth a llawenydd pur.
Roedd Britten yn gwerthfawrogi eglurder, ceinder, ac emosiynau diffuant mewn cerddoriaeth - pob un yn rhinwedd roedd yn eu cysylltu’n agos â Mozart. Fe nododd y sylw ‘Rwy’n cael cryfder gan y traddodiad hwnnw...dangosodd Mozart sut i fod yn newydd heb ddinistrio beth a ddaeth o’i flaen. `Mewn cyfweliadau a llythyrau, pwysleisiodd Britten y pwysigrwydd o ddysgu gan gyfansoddwyr fel Mozart. Fe anogodd gerddorion ieuengach i astudio sut ddatrysodd Mozart broblemau cyfansoddol. Cymharodd y broses i edrych ar fap cyn taith: hyd yn oed os ydych yn cymryd llwybr gwahanol, mae bob amser yn ddefnyddiol gwybod sut gwnaeth eraill ddelio â’r un sefyllfa.
Er dweud hynny, nid oedd ei edmygedd yn oddefol. Trochodd Britten ei hun yn weithredol yng ngwaith Mozart drwy gydol ei fywyd. Tu hwnt i’w waith ei hun, fe arweiniodd operâu a symffonïau Mozart mwy o weithiau nag unrhyw gyfansoddwr arall. Yng Ngŵyl Aldeburgh, a gyd-sefydlodd, roedd Mozart yn cael ei gynnwys yn rheolaidd. Yn 1969, paratôdd ac arweiniodd Britten fersiwn Saesneg o’r opera Idomeneno, gyda’i bartner Peter Pears yn canu’r brif rôl.
Byddai Britten yna’n mynd yn ei flaen i gydweithio â’r Pianydd Rwsiad, Sviatoslav Richter, perfformiwr rheolaidd yng Ngŵyl Aldeburgh. Byddai’r ddau yn mynd yn eu blaenau i berfformio deuawdau Mozart a chynhyrchu cadenza newydd i Gyngerdd Piano Mozart yn E-Fflat, K.482.
Roedd adolygwyr a chydweithwyr yn nodi’n aml sut roedd dylanwad Mozart yn cael ei gyfleu yng ngwaith Britten. Roedd y ddau gyfansoddwr yn rhannu dawn unigryw am gyflymder dramatig ac ysgrifennu lleisiol a oedd yn teimlo’n naturiol ac yn hynod fynegol. Mae operâu Britten - fel Peter Grimes a Death in Venice – yn dangos cyfansoddiad cain a phwysau emosiynol ac fe roddodd gydnabyddiaeth lwyr i Mozart. Nid yw’n syndod bod y dadansoddwr cerddoriaeth, Hans Keeler, wedi dweud hyn mor gynnar â 1948: `Mewn rhai ffyrdd, gellir ystyried Mozart fel sylfaenydd ('ail sylfaenydd’) opera. Gellir eisoes dweud yr un peth heddiw, o safbwynt y maes Prydeinig modern - neu efallai nid yn unig ym Mhrydain, -am Britten.’
Hyd yn oed tuag at ddiwedd ei fywyd, cadwodd Britten sgoriau Mozart ar ei biano - dal i ddysgu, dal i wrando. Er bod Britten yn edmygu cyfansoddwyr eraill fel Bach, Handel, Beethoven a Schubert. Mozart a barhaodd fel ei brif ysbrydoliaeth. Boed yn arwain opera, yn ysgrifennu cadenza neu’n syml yn gwrando yn ei breifatrwydd ei hun, parhaodd Britten mewn deialog â Mozart drwy gydol ei fywyd.
Wedi’ch ysbrydoli? Beth am brofi clyfrwch Britten a Mozart y Tymor hwn gyda’n cynhyrchiad teithiol newydd sbon o Peter Grimes a The Marriage of Figaro poblogaidd iawn.