Mae’n bosib bod Benjamin Britten yn fwyaf adnabyddus i ni yma yn Opera Cenedlaethol Cymru am ei gorff anhygoel o operâu, ond roedd Britten hefyd yn gyfansoddwr cynhyrchiol iawn a chreodd weithiau meistrolgar ym mhob ffurf gerddorol bosib bron. Dyma rai o uchafbwyntiau cerddorol Britten gennym ni, pob un wedi’i ddewis o ddegawd benodol o’i fywyd fel cyfansoddwr.
1930au: A Hymn to the Virgin
Yn 1930, dim ond bachgen ysgol 16 oed oedd Britten pan ysgrifennodd ei anthem gorawl ar gyfer corws dwbwl, A Hymnfor the Virgin. Wedi’i gyfansoddi mewn un diwrnod yn unig, a hynny o’i wely yn adain ysbyty o'i ysgol, mae dau gôr Britten yn canu mewn sgwrs rhwng y naill a’r llall, un yn Saesneg a’r llall mewn Lladin. Roedd statws clasurol y gwaith yn rhoi arlliw o’r gweithiau corawl niferus oedd i ddod, gan gynnwys Hymnto St Cecilia, Rejoicein the Lamb, ac A Ceremony of Carols.
1940au: Serenâd ar gyfer Tenor, Corn a Llinynnau
Un o brif gyfansoddiadau cyfnod y rhyfel gan Britten oedd ei Serenâd ar gyfer Tenor, Corn a Llinynnau, cylch o ganeuon a gyfansoddwyd ar gyfer ei bartner hirdymor, y tenor Peter Pears, a’r chwaraewr corn byd enwog Dennis Brain. Wedi’i fframio gan brolog ac epilog y corn i’r gwaith, mae’r darn yn seiliedig ar ddetholiad o chwe cherdd gan feirdd o Loegr sy’n myfyrio ar awyrgylch y nos. Perfformiwyd y serenâd gyntaf yn Neuadd Wigmore Llundain ar 15 Hydref 1943.
1950au: The Prince of the Pagodas
Cyfansoddwyd unig fale hyd llawn Britten, The Prince of the Pagodas, ar gyfer The Royal Ballet ac fe’i perfformiwyd gyntaf ar Ddydd Calan 1957 yn y Royal Opera House. Gan weithio gyda’r coreograffydd John Cranko, mae stori’r bale yn dwyn ynghyd elfennau o King Lear, Beauty and the Beast a’r stori dylwyth teg Ffrengig Y Sarff Werdd ac mae’n ymgorffori dylanwadau cerddorol pobloedd Indonesia yr ysbrydolwyd Britten ganddynt ar ei daith i’r Dwyrain Pell yn 1955 a 1956.
1960au: Requiem Rhyfel
Cyfansoddwyd y Requiem Rhyfel ar gyfer agoriad Cadeirlan Coventry oedd newydd ei hadeiladu, yn 1962 wedi iddi gael ei dinistrio’n llwyr bron gan gyrchoedd awyr y Natsïaid yn 1940. Gan gyfuno'r testun Lladin litwrgaidd o'r requiem gyda'r naw cerdd gan fardd y Rhyfel Byd Cyntaf Wilfred Owen, mae'r Requiem Rhyfel yn galw am bŵer anferthol cerddorfa lawn ac adran daro estynedig, corws cymysg a chorws bechgyn, ac unawdwyr soprano, tenor a bariton. Hwn oedd un o weithiau mwyaf llwyddiannus Brittenyn fasnachol, a gwerthodd recordiad 1963 Decca dros chwarter miliwn o gopïau yn y misoedd cyntaf gan ennill dwy wobr Grammy.
1970au: Pedwarawd Llinynnol Rhif 3
Roedd trydydd pedwarawd llinynnol Britten - a'r olaf - ymysg y gweithiau offerynnol olaf iddo eu cwblhau, ac fe'i cyfansoddwyd yn ystod cyfnod anhygoel o greadigrwydd yn ei flynyddoedd olaf. Ysgrifennodd symudiad olaf y pedwarawd, sy'n dwyn y teitl La Serenissima, yn ystod ei ymweliad diwethaf â Fenis, ac yn arwyddocaol, gan ddefnyddio deunydd o'i opera olaf, Death inVenice, yn y recitativo. Perfformiwyd y pedwarawd am y tro cyntaf pythefnos yn unig wedi i Britten farw, ar 4 Rhagfyr 1976 yn 63 oed.
Methu dod i berfformiad olaf y WNO o'r enwog Death in Venice ar 11 Mai? Mae modd i chi fwynhau ychydig bach o Britten y flwyddyn nesaf gyda chynhyrchiad newydd y WNO o Peter Grimes o fis Ebrill 2025.