Newyddion

Diwrnod ym mywyd...Gwasanaethau Theatrig Caerdydd

24 Tachwedd 2020

I'r rhan fwyaf o gynulleidfaoedd WNO mae Gwasanaethau Theatrig Caerdydd yn rhan ddieithr o Opera Cenedlaethol Cymru. CTS sy'n adeiladu'n setiau ni yn ogystal â setiau ar gyfer cwmnïau eraill cenedlaethol a rhyngwladol. Cawsom sgwrs â'r Rheolwr Gyfarwyddwr, Darren Joyce, am sut mae pethau'n gweithio yn CTS yn y cyfnod Covid.

‘Am 7.30am mae goruchwyliwr adeiladu CTS yn agor yr adeilad, gan sicrhau bod gan bob mynedfa ddigon o gopïau o’n ffurflen gwyliadwriaeth iechyd Covid i staff ac ymwelwyr eu llenwi cyn iddynt fynd i mewn, a bod yr holl orsafoedd golchi dwylo yn barod.

Am 7.50am mae'r staff cyntaf yn cyrraedd trwy eu mynedfa ddynodedig. Er mwyn gwneud yr adeilad yn ddiogel o ran Covid, bu'n rhaid i ni newid sut rydyn ni'n mynd i mewn ac yn symud o gwmpas, gan ddilyn y llwybrau unffordd newydd a roddwyd ar waith. Y tîm weldio yw'r cyntaf i gyrraedd, ac yna'r tîm gwaith coed a chelf olygfaol. Yna, mae staff a rheolwyr y swyddfa yn cyrraedd ac yn trafod trefn y gwaith, gan sicrhau bod pawb yn deall eu tasgau.

Mae yna ddeubwrpas i'r daith foreol o amgylch y gweithdy: gwirio bod pawb yn iawn yn ogystal â chynnydd y gwaith o'r diwrnod blaenorol. Mae pob prosiect yn cael ei reoli'n ofalus er mwyn cadw at yr amserlen a'r gyllideb. Rhaid nodi gwyriadau o'r naill neu'r llall yn fuan er mwyn lleihau'r effaith cyffredinol ar y prosiect. Mae 30 aelod o staff CTS fel arfer yn gweithio ar 10 prosiect ar unrhyw ddiwrnod penodol. Mae rhai yn brosiectau WNO, ond bydd y mwyafrif ar gyfer cleientiaid eraill - fel Glyndebourne neu'r National Theatre.

Ar hyn o bryd, mae'r swyddfa arlunio'n gweithio ar Al Wasl ar gyfer Expo Dubai ac Ivan the Terrible ar gyfer Grange Park Opera. Mae'r rheolwyr prosiect yn jyglo dyfynbrisiau ar gyfer sawl prosiect posib ac yn sicrhau bod gan bawb ar lawr y gweithdy bopeth sydd ei angen arnynt i adeiladu. Mae'r weldwyr a'r seiri coed yn gweithio ar dri phrosiect gwahanol. Ac felly hefyd yr artistiaid golygfaol - ochr yn ochr â gweithio ar samplau paent ar gyfer cynhyrchiad Glyndebourne o Il turco in Italia a chynhyrchiad newydd ar gyfer English National Opera. Mae samplau paent yn caniatáu i'r tîm celf olygfaol drosi gweledigaeth dylunydd o fodel raddfa fach i faint llawn.

Am 10am bob bore Mercher mae'r tîm rheoli yn adolygu cynnydd ar ddyfynbrisiau ac yn trafod llwyth gwaith y dyfodol. Mae cynnal ein safonau uchel yn hanfodol i ni, felly nid ydym yn ymgymryd â gormod o brosiectau, er mwyn osgoi cyfaddawdu ar ansawdd ein hallbwn. Gan ein bod yn sefydliad masnachol mae cadw prosiectau at y gyllideb yn hanfodol.

Yn y prynhawniau, mae'r trafodaethau yn y swyddfa'n amrywio o brynu peiriant golchi newydd (ar gyfer oferôls staff), i gasglu dyfynbrisiau ar gyfer peiriant newydd i gymryd lle un nad yw'n cwrdd â'r safonau diogelwch cyfredol mwyach. Mae Covid-19 yn codi - nid yw byth ymhell o'n meddwl - mae wedi cael effaith mor sylweddol ar ein busnes a'n cleientiaid.

Ychydig ar ôl 4.20pm mae'r rhai a ddechreuodd weithio gyntaf yn dechrau dirwyn i ben - mae angen glanhau a diheintio'r offer a'r peiriannau ar ddiwedd pob dydd. Mae angen newid oferôls a golchi dwylo cyn i ni gyd fynd adref - gan adael ein glanhawyr i’n helpu i gadw’r adeilad yn lân ac yn ddiogel, a bydd ein gofalwr dibynadwy yn cloi tua 6pm.’

A dyna ddiwedd diwrnod arall yn CTS, lle gallwch ymweld â'r Eidal, Rwsia a Dubai heb adael yr adeilad.