Newyddion

Dathlu Canwr y Byd BBC Caerdydd yn 40

15 Mehefin 2023

Mae eleni’n nodi 40 mlynedd ers sefydlu BBC Canwr y Byd Caerdydd, un o’r cystadlaethau canu rhyngwladol mwyaf mawreddog i gantorion opera ifanc. Ers ei sefydlu, mae Opera Cenedlaethol Cymru wedi chwarae rhan allweddol yn hanes y gystadleuaeth ac ers hynny mae llawer o’i gyn-gystadleuwyr wedi canu mewn nifer fawr o’n cynyrchiadau.   

Wedi’i lansio gan BBC Wales yn 1983, cynhaliwyd y gystadleuaeth ganu a gynhelir bob dwy flynedd i ddathlu agoriad neuadd gyngerdd newydd sbon, Neuadd Dewi Sant yng Nghaerdydd. Byth ers y gystadleuaeth gychwynnol, mae Cerddorfa WNO wedi rhannu'r cyfrifoldeb o gyfeilio i’r cantorion gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC. Mae’r gystadleuaeth yn cynnwys pedwar rhagbrawf lle bydd cystadleuwyr yn arddangos eu doniau mewn ariâu opera cyn i ymgeiswyr y rownd derfynol gyrraedd y Brif Wobr a/neu rownd derfynol Gwobr y Gân. Mae’r gystadleuaeth wedi dod yn llwyfan lansio ar gyfer gyrfaoedd canu rhyngwladol, gan gynnwys sêr opera mawr fel Elīna Garanča (Latfia), Jamie Barton (UDA) a Karita Mattila (Y Ffindir). 



Rhoddwyd Cymru ar y map cystadlaethau am y tro cyntaf yn 1989, sef blwyddyn brwydr y baritoniaid. Cafwyd gornest ffyrnig rhwng Dmitri Hvorostovsky a Bryn Terfel, ac enillodd Dmitri Hvorostovsky brif deitl y gystadleuaeth, gyda Bryn yn ennill Gwobr y Gân (y wobr Lieder gynt). Yn y gystadleuaeth ganlynol ym 1991 enillodd ei gyd-Gymro Neal Davies Wobr y Gân. Mae’r ddau ganwr yn wynebau cyfarwydd yn y Cwmni – mae Syr Bryn Terfel wedi perfformio rhannau gan gynnwys Hans Sachs yn Die Meistersinger von Nürnberg o waith Wagner yn ystod ein Tymor Haf 2010 ac yn y BBC Proms yn ddiweddarach yr haf hwnnw, a Neal Davies a ddychwelodd i WNO y Gwanwyn hwn fel Papageno yn ein cynhyrchiad newydd sbon o The Magic Flute waith Mozart. 



Mae rhai o’n cyn-gystadleuwyr mwy diweddar sydd wedi rhannu’r llwyfan gyda ni yn cynnwys enillydd prif wobr 2019, Andrei Kymach, a fu’n serennu fel y prif gymeriad cyfrwys yn ein cynhyrchiad Gwanwyn 2022 o Don Giovanni. Mae cynrychiolydd Cymru eleni, Jessica Robinson, hefyd yn gyn-artist gwadd WNO, ar ôl canu yn Gair ar Gnawd yn 2015. Roedd ein Tymor 2022/2023 yn cynnwys un o ymgeiswyr rownd derfynol Gwobr y Gân 2019, Angharad Lyddon, y mezzo-soprano Gymreig a ganodd ran Branwen yn Blaze of Glory! a Claire Barnett-Jones, a gynrychiolodd Lloegr yng nghystadleuaeth 2021 ac a hawliodd Wobr Cynulleidfa Y Fonesig Joan Sutherland, fel y Drydedd Fonesig yn The Magic Flute Gwyliwch ei datganiad hyfryd o gân Ivor Novello, yr actor a cherddor a aned yng Nghaerdydd, We’ll Gather Lilacs yma.

Eleni, edrychwn ymlaen at barhau â’n cefnogaeth i'r gystadleuaeth. Cyfarwyddwr Cyffredinol WNO, Aidan Lang, fydd yn cadeirio panel beirniadu'r prif gystadleuaeth. Bydd hefyd yn cynnwys un o’r artistiaid o’n cynhyrchiad o Ainadamar sydd ar y gweill yn cystadlu am deitl Canwr y Byd y BBC Caerdydd - Julieth Lozano, a fydd yn cynrychioli Colombia. Bydd Cerddorfa WNO yn darparu cyfeiliant ar gyfer Rowndiau 1 a 3 y Brif Wobr, ddydd Sul 11 a dydd Mawrth 13 Mehefin. Mae’r holl rowndiau yn cael eu darlledu ar BBC 2 Wales a BBC 4, ar gael wedi hynny ar BBC iPlayer, gyda rownd derfynol Gwobr y Gân a’r Brif rownd derfynol yn cael ei darlledu ar BBC Radio 3 a BBC Radio Cymru. Pob lwc i bawb sy’n cymryd rhan.  

I gloi’r wythnos o gerddoriaeth, cynhelir Cyngerdd Gala’r Byd i ddathlu yng nghartref y gystadleuaeth, Neuadd Dewi Sant, ddydd Gwener 16 Mehefin. Ymunwch â Cherddorfa WNO a llu o unawdwyr wrth i ni ddathlu 40 mlynedd o’r gystadleuaeth fyd-enwog.