Newyddion

Corau'r Chwyldro

30 Mawrth 2023

O’r pyllau glo sy’n swatio o fewn cymoedd gwyrdd De Cymru i’r pentrefi a chwareli llechi yn Eryri, mae traddodiad balch y Corau Meibion wedi lledaenu i fri rhyngwladol. Mae ein hopera newydd sbon, Blaze of Glory! wedi ei lleoli yn un o’r ardaloedd glofaol hyn, wrth i dref fach ddod ynghyd i ail-ffurfio eu côr wrth wynebu trallod a thrasiedi difrifol. Ond o le y daw’r traddodiad Cymreig gwych hwn, a pham ei fod dal i ddylanwadu cymaint arnom?

Yn ystod y 19eg ganrif, roedd Cymru’n prysur ddod yn gymdeithas grefyddol anghydffurfiol, ac wrth i Fethodistiaeth ledaenu ar draws y wlad fe arweiniodd hyn at gynnydd mewn canu harmoni cynulleidfaol mewn gwasanaethau ar y Sul. Bryd hynny, roedd tua 80% o’r Cymry yn mynychu capel, ac wrth i’r chwyldro diwydiannol sgubo ar draws Cymru, daeth yr aur du oedd wedi ei gladdu o fewn y cymoedd yn nwydd gwerthfawr. Byddai gweithwyr o gefn gwlad Cymru’n teithio i fryniau a thai teras cymoedd De Cymru i chwilio am waith.

Wrth i ddynion ifanc symud i’r trefi glofaol oedd yn datblygu ar draws De Cymru gan weithio ysgwydd yn ysgwydd ag amgylchiadau peryglus dan y ddaear ac ar y tir yn ystod y dydd, byddent yn ymgasglu mewn tai tafarn a neuaddau pentref gyda’r nos. Roedd corau’n cael eu ffurfio ledled y trefi, yn aml yn gysylltiedig â’r capel lleol, wrth i’r gweithwyr ddod ynghyd i ganu fel un, wedi ymrwymo ynghyd i’r emynau llawn emosiwn a’r ariâu a gyd-berfformiwyd.

Wrth i bob Côr Meibion rannu tebygrwydd gyda’u cymheiriaid o bentrefi eraill ar draws Cymru, mae yna ffactorau diffiniol penodol i bob grŵp sydd, yn ôl y ddamcaniaeth, yn deillio o’u gwaith: Roedd llwch glo De Cymru yn cynhyrchu’r tenoriaid puraf, rhoddodd y llechi glas ei bwysau i faswyr ardderchog Gogledd Cymru, wrth i’r ffwrnesi a amgylchynai Abertawe dywallt tun a chopr toddedig, a ddiferodd donyddiaeth fwyn i leisiau aelodau côr Treforys.

Nid yn unig yn ystod cyfnodau o ffyniant diwydiannol roedd y corau a ffurfiwyd gan y gweithwyr yn gyffredin - gwelodd y corau gynnydd mewn aelodaeth yn ystod cyfnodau o ddiweithdra mawr yn y 1920au a’r 1930au wrth i drigolion y trefi ddefnyddio eu hamser rhydd cynyddol i ddod ynghyd i ymarfer. Yn wir, bu i bum côr gystadlu yn y categori di-waith yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru 1938.

Mae Corau Meibion wedi bod mor nodweddiadol o Gymru â’r cennin Pedr, y ddraig goch a phicau ar y maen, ac mae eu canu cyn gemau rygbi yn Stadiwm y Principality a’u harwyddocâd hanesyddol wedi sefydlu eu presenoldeb o fewn hunaniaeth Cymru.

Nid yw’n ein synnu bod lleisiau o Gymru i’w clywed o amgylch y byd, wedi’i helpu gan boblogrwydd enillwyr Last Choir Standing y BBC yn 2008, Only Men Aloud, a wnaeth ailgyflwyno Gorau Meibion i Brydain. Ers hynny, maent wedi dechrau Only Boys Aloud i gynyddu’r diddordeb ac ymgysylltu yn y traddodiad corau meibion ymysg cymunedau ieuengach. Mae’r grŵp yn teithio ledled y byd yn gyson, gan ledaenu enw da Cymru fel Gwlad y Gân ymhell ac agos.

Os hoffech glywed Corau Meibion ac emynau traddodiadol o Gymru wedi ymdoddi â byd clasurol yr opera mewn stori am wytnwch, dewrder a grym cerddoriaeth i wella ac uno cymuned, yna archebwch docyn a dewch i weld ein hopera newydd, Blaze of Glory!, ar daith y Gwanwyn hwn yng Nghaerdydd, Llandudno, Milton Keynes, Bryste, Birmingham a Southampton.