Newyddion

Hysbysebion o lawenydd y Nadolig

4 Rhagfyr 2020

I rai, mae'r Nadolig yn dechrau wedi i John Lewis ryddhau ei hysbyseb; cyn gynted ag y mae'n cyrraedd ein sgrin, bydd y goleuadau yn cael eu rhoi ymlaen a'r goeden yn cael ei gosod. Eleni, o ystyried y flwyddyn yr ydym wedi'i chael, mae teimlad o haelioni sy'n golygu y ceir addasu'r rheolau arferol; cewch osod eich addurniadau pryd bynnag yr hoffech - does dim beirniadaeth. Er y bydd cyfnod y Nadolig yn wahanol eleni, yn sicr gallwn ddibynnu ar yr hysbysebion Nadoligaidd i godi ein calonnau (ac weithiau gwneud i chi rowlio'ch llygaid). Yma, mae Opera Cenedlaethol Cymru yn edrych ar gynigion y Gwyliau a pham eu bod yn ein hachosi i hiraethu am berfformiadau byw yn fwy nag erioed.

Rydym ni i gyd wedi cael llond bol ar ddigwyddiadau yn canslo, o briodasau i benblwyddi, ac mae The show must go on gan Amazon, lle caiff sioe dawnsiwr bale ei chanslo, yn gwneud i ni ddyheu am deimlo gwefr ddiguro perfformiadau byw yn fwy nag erioed. Ac yna cewch hysbyseb Argos, lle mae dwy chwaer ifanc yn trawsffurfio eu blwch hud a lledrith yn awditoriwm cyfan gyda chanhwyllyron a llawenydd y gynulleidfa. Byddem wrth ein bodd petai gennym flwch hud a lledrith y gallem ei drawsnewid yn fan diogel i ni allu perfformio ar eich cyfer. Ond na phoener, gwyddom y daw'r flwyddyn newydd â gobaith newydd, cyfleoedd newydd, ac yn sicr, operâu newydd.

Wedi dweud hynny, os ydych yn fwy o sinig ac na allwch ddioddef yr hysbysebion teimladol, sy'n dod â deigryn i'ch llygad, yna peidiwch â phoeni, nid ydych ar eich pen eich hun. Mae digonedd o gynigion eironig, tafod yn y boch, sy'n gwneud i chi rowlio'ch llygaid, fel Tesco yn dweud wrthym nad oes rhestr ddrwg eleni (ia, hyd yn oed os gwnaethoch hawlio gormodedd o bapur toiled). Ac er yr ymddengys bod hysbyseb Lidl yn gawslyd ac ystrydebol ar yr olwg gyntaf, os gwrandewch yn astud ar y geiriau yna byddwch yn sylweddoli ei bod yn barodi doniol o beth yw hysbyseb y Nadolig fel arfer. Yn debyg i sut aeth Mozart ati i wneud parodi o ddefodau manwl yr opera seria arias yn Cosi fan tutte.

Y naill ffordd neu'r llall, os oes angen rhyddhad arnoch drwy wylo neu chwerthin, y mae galw mawr amdano eleni, mae ychydig funudau o lawenydd yn disgwyl amdanoch dim ond un clic i ffwrdd, cyfalafiaeth gyda gwên. Gwnewch y mwyaf ohono.