Newyddion

Mae’r Nadolig wedi cyrraedd WNO

5 Rhagfyr 2018

Mae mis Rhagfyr wedi cyrraedd ac mae WNO yn llawn ysbryd y Nadolig yn barod. Mae gennym ddewis o ddigwyddiadau Nadoligaidd yng Nghymru’r wythnos hon, felly beth am ddechrau’r gweithgareddau Nadoligaidd yn gynnar gyda ni?

Os ydych yng Nghaerdydd, dewch i Westy’r Exchange, Bae Caerdydd ar ddydd Mercher 5 Rhagfyr pan fydd gennym ddau berfformiad o’n cyngerdd Dathlu’r Nadolig sy’n cynnwys aelodau Cerddorfa WNO, Opera Ieuenctid WNO ac aelodau Côr Cymunedol y De WNO. Bydd y cyngerdd yn gymysgedd o ganeuon Nadolig traddodiadol a charolau a bydd cyfle i chi gymryd rhan – mae mins-peis a gwin twym ar gael hefyd!

I’r rheini yng Ngogledd Cymru, rydym yn parhau â’n partneriaeth gyda Venue Cymru a Theatr Colwyn gan ddarparu sesiwn cyd-ganu yn ystod egwyl dangosiadau ffilmiau dementia gyfeillgar. Y ffilm Nadoligaidd yw White Christmas a fydd yn cael ei dangos ar ddydd Iau 6 Rhagfyr a bydd tîm WNO Gogledd Cymru (Jenny Pearson, Annette Bryn Parri, Morgana Warren-Jones a Sioned Foulkes), yno i gyflwyno’r adloniant. Byddwn hefyd yng Nghanolfan Pontio Bangor ar ddydd Sadwrn 8 Rhagfyr ble gallwch ymuno â ni am sesiwn Dewch i Ganu Carolau Nadolig WNO.

Yn y cyfamser, mae aelodau ein cwmni perfformio, staff technegol a’r criw llwyfan wedi dychwelyd o Brno, ac yn mynd syth mewn i ymarferion ar gyfer Tymor y Gwanwyn; mae rhai o’r tîm wedi teithio i Bonn i gasglu gweddill y set ar gyfer cynhyrchiad y Gwanwyn o Un ballo in maschera (yn ogystal â dychwelyd darnau olaf set La forza del destino); ac mae cydweithwyr ar draws pob adran yn gweithio ar gael popeth yn barod ar gyfer ein cyhoeddiadau Tymor 2019/2020 yn y Flwyddyn Newydd. Efallai na fyddwn yn perfformio nag yn teithio, ond nid ydym byth yn stopio yn WNO, ddim hyd yn oed wrth i’r Nadolig agosáu!