Newyddion

Cerddoriaeth Glasurol mewn ffilmiau Nadolig

8 Rhagfyr 2022

Gwisgwch eich siwmper Nadolig, gwnewch gwpan o siocled poeth (gydag ychydig o Baileys efallai) ac ymlaciwch gyda ffilm Nadoligaidd lawen. Mae tymor y Nadolig wedi cyrraedd go iawn, ac yma yn Opera Cenedlaethol Cymru, rydym yn gwneud rhestr (a’i gwirio ddwywaith) o’n hoff ffilmiau Nadolig gyda thrac sain cerddoriaeth glasurol.

Ni fyddai’n Nadolig heb ymddangosiad o’r ffefryn Nutcracker gan Tchaikovsky. O ddawns ramantaidd Barbie gyda thywysog yn Barbie in the Nutcracker, iThe Simpsons Christmas Stories lle mae’r cymeriadau yn canu cadwyn o alawon Nadolig doniol i gyfeiliant Act One’s March, ni allwch ddianc rhag Tchaikovsky dros y Nadolig. I’r mwyafrif o bobl, mae hyn yn beth da, ond os ydych o’r un farn â Homer, efallai eich bod yn meddwl ‘Gobeithio na fyddaf yn clywed y gerddoriaeth Nutcracker gythreulig o wael yna fyth eto.’ Tra bod y rhan fwyaf o ffilmiau yn dewis fersiwn gerddorfaol draddodiadol o gerddoriaeth Tchaikovsky, yn The Knight Before Christmas diweddar Neflix, stori sy’n dilyn marchog canoloesol sy’n teithio drwy amser at heddiw ac yn syrthio mewn cariad â’r athrawes wyddoniaeth leol, gallwch glywed fersiwn fodern, dramatig o Dance of the Sugar Plum Fairy yn cael ei chwarae ar y feiolin gyda drymiau electroneg bywiog yn ysgogi cyflymder y ffilm.

Tra bod ffilmiau Nadolig yn aml yn rhai ysgafn gyda diweddglo llawen, mae’n anodd gwrthod ffilm ddoniol i oedolion, yn enwedig pan mae’r Chopin adnabyddus yn ffurfio rhan o’r trac sain. Yn Bad Santa 2, mae’r rhestr gydnabod gychwynnol i gyfeiliant Nocturne No.2 yn E-fflat fwyaf adnabyddus Chopin. Mae’r darn piano hyfryd o dyner yn gyfeiliant i ddelweddau o bobl yn cymryd rhan yn nathliadau a llawenydd tymor y Nadolig. Fodd bynnag, mae tawelwch y gerddoriaeth yn eich suo i synnwyr o ddiogelwch ffug, wrth i’r olygfa newid i ddyn blêr, diflas sydd wedi gwisgo mewn siwt Siôn Corn, yn yfed ac ysmygu ar ei ben ei hun. Wrth i weddill yr olygfa fod yn anaddas i’w chofnodi fan hyn, mae’n bendant yn gosod tôn y ffilm, ac yn eich cynorthwyo i ddeall pan nad yw’r Siôn Corn hwn ar y rhestr o bobl hyfryd (er gwaethaf beth mae’r gerddoriaeth heddychlon yn ei awgrymu).

Yn olaf, p’un a ydych yn credu ei bod yn ffilm Nadolig neu beidio, roedd yn rhaid inni sôn am Die Hard.  Yn y ffilm llawn digwyddiadau hon, rydym yn clywed Ode to Joy Beethoven o’r nawfed symffoni, a’r un olaf, ond yn eironig, mae’r darn llawen a buddugoliaethus hwn o gerddoriaeth yn cael ei ddefnyddio i amlygu’r dynion drwg yn y ffilm. Mae’r motiff sy’n cael ei drysori yn plethu ei ffordd i mewn ac allan o’r gerddoriaeth drwy amrywiol rannau o’r ffilm, ond mae uchafbwynt y gerddoriaeth yn dod pan mae grŵp o derfysgwyr o’r Almaen yn agor coffor sy’n cynnwys miliynau o ddoleri yn llwyddiannus. Wrth i’r coffor agor, mae symffoni fuddugoliaethus Beethoven yn esgyn i’r olygfa fel petai’n gadael i’r gynulleidfa wybod bod y dynion drwg wedi ennill...ond, a ydyn nhw?

Wrth i chi wylio ffilmiau Nadolig yn ystod tymor yr ŵyl, pam na wnewch chi wrando a gweld sawl darn o gerddoriaeth glasurol y gallwch eu clywed.