Newyddion

Defodau Cyn Cyngherddau

1 Tachwedd 2022

Cyn cyngerdd Czech Mates yn Neuadd Dewi Sant y mis hwn, rydym wedi holi aelodau Cerddorfa WNO am eu defodau cyn cyngherddau.

Mae’r gwaith paratoi cyn cyngerdd yn amrywio llawer o fewn y Gerddorfa, ac yn dibynnu i raddau helaeth ar ba offeryn maen nhw’n chwarae a beth sydd angen i bob offerynnwr ei wneud er mwyn bod yn barod i berfformio.

Dywedodd Pennaeth Adran Obo WNO, Lucie Sprague wrthym ‘yn ystod yr amser sy’n arwain at berfformiad WNO, mae yna lawer o bethau rwy’n eu gwneud i baratoi. Yn ogystal â pharatoi fy repertoire yn drwyadl, fel oböydd mae’n rhaid i mi baratoi fy nghyrs fy hun. Mae hon yn broses hir sy’n cynnwys cafnu, siapio a chrafu darnau o fambŵ. Er fy mod yn paratoi pob corsen trwy ddefnyddio’r un broses, rwy’n teilwra pob corsen benodol i weddu i’r repertoire ym mhob perfformiad.’ Mae gan Lucie hefyd y cyfrifoldeb pwysig iawn o diwnio’r Gerddorfa o flaen y perfformiad. ‘Mae hyn yn digwydd ar ddechrau’r perfformiad, ar ôl yr egwyl ac weithiau rhwng darnau. Yn WNO, rwy’n seinio ‘A’ unigol dair gwaith; unwaith ar gyfer y chwythbrennau a’r adran bres, unwaith ar gyfer y llinynnau isaf ac unwaith ar gyfer y llinynnau uchaf i diwnio.’

I lawer o offerynwyr mae bwyta’n briodol cyn cyngerdd yn hanfodol, bydd bwyta bwyd sy’n uchel mewn egni yn cynnal offerynnwr trwy berfformiad ac yn sicrhau eu bod yn chwarae ar eu gorau. Mae Edward Griffiths, Cyd-Bennaeth yr Adran Corn WNO, yn gwneud yn siŵr ei fod yn bwyta cinio mwy nag arfer ar ddiwrnod perfformiad ac mae’n egluro bod osgoi unrhyw fwydydd a diodydd sy’n gallu effeithio ar chwarae eich offeryn yn allweddol. Fel chwaraewr offeryn chwyth yn benodol, ‘mae’n well i osgoi unrhyw beth a allai roi dŵr poeth i chi, ac yn bendant dim bwyd sbeislyd na diodydd byrlymog’ i sicrhau bod eich offeryn (a chithau) mewn cyflwr ffit i berfformio.

Mae cyrraedd mewn da bryd cyn cyngerdd neu berfformiad opera hefyd yn bwysig iawn: ‘O leiaf 20 munud cyn i’r perfformiad ddechrau, mae pawb yn y pwll, yn barod i fynd. Mae hwn yn gyfle i edrych ar unrhyw beth sy’n dod i fyny yn y darn sydd angen mwy o sylw, ac i wneud unrhyw gynhesu corfforol i baratoi ar gyfer y cyngerdd’.

Mae gan nifer o aelodau’r Gerddorfa eu ffyrdd eu hun o wneud i berfformiad deimlo fel digwyddiad arbennig. Eglura Róisín Walters, Prif Chwaraewr Ail Feiolin, cyn perfformiad ‘Y prif beth yw gwneud yn siŵr bod gennyf ddigon o amser i wneud yn siŵr bod fy ngwallt a fy ngholur yn iawn a fy mod wedi newid i rywbeth addas (rhywbeth gyda thipyn o gliter os yn bosib) cyn mae’n amser i fynd i’r pwll neu ar y llwyfan. Mae hynny’n fy nghael yn barod am y gyngerdd ac er ein bod yn ei wneud bron pob dydd, mae’n dal i wneud i mi deimlo fy mod yn gwisgo amdanaf ar gyfer rhywbeth arbennig.’ 

Bydd Cerddorfa WNO yn dychwelyd i Neuadd Dewi Sant fel rhan o Gyfres Glasurol Caerdydd ar nos Wener 4 Tachwedd am 7:30pm a Dydd Sul 29 Ionawr am 3pm.