Newyddion

Côr Cysur yn lansio yn Llandeilo, gorllewin Cymru

6 Medi 2022

Mae Côr Cysur yn grŵp canu hwyliog i bobl sy'n dioddef o ddementia, yn rhoi cyfle i'r rheini sy'n byw gyda'r clefyd yn ogystal â'r rheini sy'n gofalu amdanynt i fwynhau cwmni ei gilydd bob wythnos. Lansiodd Opera Cenedlaethol Cymru y Côr Cysur cyntaf yng Ngwanwyn 2019. Cynhaliwyd y peilot yn Abertawe, ac ers hynny rydym wedi sefydlu côr yn Aberdaugleddau ac ym mis Hydref 2022, bydd cangen newydd yn agor yn Llandeilo, Sir Gâr.

Y nod sy'n ganolog i Cysur yw gofalu a thosturi, dathlu'r hyn sy'n bosibl a galluogi dealltwriaeth ehangach o ddementia. Bydd hyn yn ei dro yn helpu i ddatblygu cymunedau mwy goddefgar a gofalgar a fydd yn galluogi pobl sy'n byw â'r cyflwr i fyw bywyd mor llawn a chreadigol â phosibl am gyn hired â phosibl.


Mae cymaint o ddawn yn Llandeilo ac mae eu hagwedd ragweithiol o gefnogi pobl sy'n dioddef o ddementia a'u teuluoedd yn ysbrydoledig. Rwyf wedi gwirioni ein bod wedi gallu cysylltu Cymuned Sy'n Deall Dementia yn Llandeilo ag Opera Cenedlaethol Cymru i gyflwyno'r prosiect arbennig hwn yn y rhan hon o Gymru.

Swyddog Prosiect Cymunedol Sir Gâr, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Bydd yr Arweinydd Lleisiol David Fortey a'r pianydd Mark Jones yn arwain y sesiynau peilot yng Nghapel Newydd, Llandeilo bob dydd Llun rhwng 3 Hydref - 7 Tachwedd. Yn ystod y sesiynau un awr hyn, bydd aelodau yn canu amrywiaeth eang o gerddoriaeth boblogaidd yn ogystal â chaneuon gwerin, emynau, a beth bynnag arall sy'n mynd â'u bryd. Mae pob sesiwn yn dechrau gydag ychydig o weithgareddau cynhesu i fyny er mwyn ysgogi'r ymennydd a'r llais. Yna bydd cyfle i aelodau ddod i nabod ei gilydd dros baned o de neu goffi a bisgedi. 


Mae'r mwynhad mae Côr Cysur yn ei roi i'w aelodau bob wythnos yn adlewyrchiad ar sut all canu gael effaith mor gadarnhaol ar iechyd a llesiant pobl sy'n dioddef o Ddementia, neu'r rheini sy'n cefnogi pobl sy'n dioddef o'r cyflwr. Mae'r cyfle i ymestyn teulu Côr Cysur yn arbennig o gyffrous, ac rydym yn edrych ymlaen at lawer mwy o sesiynau canu ysbrydoledig, hwyliog ac arbennig yn Llandeilo

David Fortey, Arweinydd Lleisiol

Gydag oddeutu 37,000 o bobl yn dioddef o Ddementia yng Nghymru, rydym yn ymrwymedig i weithio gyda chymunedau ledled Cymru mor eang ag y mae'r adnoddau yn ei ganiatáu. Mae Côr Cysur yn caniatáu i bobl sy'n dioddef o Ddementia gadw cysylltiad â'u hamgylchoedd, a'u diddordeb ynddo, ac yn rhoi cyfle i'w gofalwyr a'u hanwyliaid gael hwyl a sbri a chael seibiant rhag eu heriau dyddiol.

Os hoffech ragor o wybodaeth ynghylch Côr Cysur, cysylltwch â Jenn Hill Jennifer.hill@wno.org.uk