Newyddion

Sgriniad Dysgu Digidol

9 Tachwedd 2017

Ar 7 Tachwedd 2017 fe wnaethom wahodd pum ysgol i Empire Theatre Lerpwl ar gyfer sgriniad arbennig o opera a ffilm. Ond nid gwylwyr yn unig oedd y disgyblion hyn, roeddynt hefyd wedi cyfrannu at greu’r ffilm. Ers wythnosau fe weithiwyd ar ein prosiect Dysgu Digidol gyda’n tîm Ieuenctid a Chymuned i greu gwaith ar thema ein tymor brif raddfa Hydref 2017 sef Terfysg a Chwyldro.

Prosiect Dysgu Digidol Lerpwl oedd y chweched prosiect o’i fath, rydym wedi cyflwyno prosiectau tebyg ar draws Cymru ac ym Mirmingham. Y nod yw rhoi mynediad i gerddoriaeth ac opera i bobl ifanc, sydd yn hynod bwysig i ni yn WNO wrth i ni geisio ymestyn allan at y gymuned.  Bob tro rydym wedi cyflwyno prosiect Dysgu Digidol rydym wedi gweithio gyda disgyblion o bedair neu bump o ysgolion ac wedi archwilio themâu yn ymwneud ag opera neu dymor penodol.  Y canlyniad yw animeiddiad byr gydag isgerddoriaeth.

Y Broses

Gweithiodd y disgyblion yn agos â’r cyfansoddwr Paul Mitchell-Davidson a’r Cynhyrchydd Cyfansoddi sef Amaan Khan i greu motiffau wedi’u hysbrydoli gan dymor Chwyldro Rwsia ac yna eu treiddio drwy’r gerddoriaeth roeddynt wedi’i chyfansoddi. Bu’r disgyblion hefyd yn gweithio gyda thîm animeiddio Twin Vision i greu byrddau stori, cymeriadau a golygfeydd gan ddefnyddio gwahanol dechnegau ac offer animeiddio.

Yna bu’r cyfansoddwr proffesiynol a’r tîm animeiddio yn cyd-weithio i roi gwaith pob ysgol at ei gilydd i greu un ffilm. Daeth y prosiect i ben gyda chywaith epig a gafodd ei ddathlu pan ddaeth yr holl ddisgyblion, staff yr ysgolion a’r timau creadigol at ei gilydd i wylio’r ffilm orffenedig gyda’r sacsoffonydd Andy Scott yn chwarae’r darn orffenedig yn fyw. Yn ogystal â chael diwrnod bendigedig yn gweld eu henwau ar y sgrin fawr cafodd y disgyblion hefyd fwynhau gweithgareddau wedi’u trefnu gan WNO a chael cyfle arall i brofi grym cerddoriaeth.

Y gwaith gorffenedig

Dyma enghraifft o’r gwaith a gafodd ei greu gan ddisgyblion talentog Gogledd Cymru yn gynharach yn 2017 yn seiliedig ar y thema Clasuron yr Haf, teitl y gwaith oedd Gardd o Gerdd.

Cafodd yr animeiddiad ei greu gan Hywel Griffith o gwmni The Gas a’r cyfansoddwr oedd Manon Llwyd.

Gwaith WNO 

Rydym yn gweithio i ymestyn allan i wahanol gymunedau o bob grŵp oed drwy amrywiol weithgareddau ac yn ceisio cynnig rhywbeth i bawb. O’n Corws Cymunedol i feithrin talent ifanc rydym yma i ddiddanu, i greu ac i ysbrydoli. Am ragor o wybodaeth neu i weld sut allwch chi gymryd rhan ewch i’n gwefan.

Nodiadau Cefnogir y Prosiect Dysgu Digidol gan: Ymddiriedolaeth Elusennol Elizabeth L Rathbone Sefydliad Kirby Laing

Diolch i’r ysgolion canlynol am gymryd rhan yn y prosiect Dysgu Digidol: Ysgol Gynradd St Michael Ysgol Gynradd St Anne Ysgol Gynradd Mab Lane Ysgol Gynradd Queen’s Park Ysgol Gynradd Ranworth Square