Newyddion

Don Giovanni ac ysbrydion perfformiadau’r gorffennol...

27 Mawrth 2018

Gydag ‘ysbryd’ y Commendatore’n chwarae rhan mor allweddol yn Don Giovanni Mozart, fel delw sy’n dod yn fyw, penderfynom edrych ar y defnydd o ysbrydion fel dyfais plot gan ddramodwyr drwy gydol hanes y ‘theatr’. Oedden chi’n gwybod fod Prifysgol Caerwysg yn cynnig modiwl gradd ‘Ghosts & Hauntology in Theatre and Performance’ hyd yn oed? (wnawn ni ddim hyd yn oed ystyried yr hoffter o straeon am ysbrydion yn aflonyddu ar y theatrau eu hunain – ac mae digonedd ohonyn nhw’n crwydro rhai o’n lleoliadau ni!)

Mae’n debyg fod ysbrydion wedi ymddangos [nid yw’r chwarae ar eiriau’n fwriadol, ond mae’n briodol!] mewn dramâu ers dyddiau cynnar y ‘theatr’ – roedd dramodwyr megis Seneca, Thomas Kyd, ac wrth gwrs Shakespeare, yn cynnwys ysbrydion yn eu gwaith. Yn aml roeddent yn ymddangos fel modd o annog dial, er bod rhai enghreifftiau i’r gwrthwyneb, megis yn The Aetheist’s Tragedy gan Cyril Tourneur, lle mae’r ysbryd o blaid gadael y ‘dial’ yn nwylo Rhagluniaeth Fawr y Nef.

Pan ydych yn meddwl am ddramâu Shakespeare, mae Macbeth (y ddrama a’r opera, a gafodd ei chynnwys yn Nhymor Shakespeare400 WNO yn Hydref 2016) a Hamlet yn enghreifftiau amlwg, a pheidiwch ag anghofio rôl ‘ysbrydion’ yn ei weithiau eraill, megis Richard III a Julius Ceasar. Ymddengys fod Shakespeare wedi manteisio’n llawn ar ysbrydion fel dyfais plot, pa un ai i ragrybuddio neu i ysgogi trywydd penodol.

Ceir ysbrydion mewn sioeau cerdd hyd yn oed, o The Phantom of the Opera, sydd wedi ei chamenwi gan nad  yw’n cynnwys ysbryd ond yn hytrach dyn o gig a gwaed, i Ghost: The Musical, sydd yn cynnwys ysbryd. Wedyn, ceir Les Misérables a Carousel gan Rodgers & Hammerstein, gyda’r ddwy sioe’n defnyddio ysbrydion i arwain y ffordd at hapusrwydd, pa un ai ar y ddaear neu yn y nef.

Mae’r defnydd o ysbrydion fel mecanwaith plot yn parhau hyd heddiw, gyda dramodwyr yn cynnwys Mark Ravenhill (Ghost Story), August Wilson (The Piano Lesson – o The Pittsburgh Cycle) ac wrth gwrs, Susan Hill gyda The Woman in Black, yn parhau â’r traddodiad. Ac yna ceir Ghost Stories Jeremy Dyson ac Andy Nyman sydd, fel The Woman in Black, newydd ymddangos fel ffilm. Mae symud o’r llwyfan i’r sgrin yn golygu fod gofyn ail-ysgrifennu rhai rhannau er mwyn i’r gwaith lwyddo, ond mae defnyddio ysbryd fel dyfais yn parhau i fod yn greiddiol i’r naratif.

Ond, i droi’n ôl at ein celfyddyd ni’n benodol, mae rhai operâu’n defnyddio’r dechneg hon hefyd – meddyliwch am The Flying Dutchman Wagner, The Turn of the Screw Britten a The Queen of Spades Tchaikovsky, ac wrth gwrs Don Giovanni gan Mozart y cyfeiriwyd ati ar y dechrau – ac mae cyfle o hyd i chi weld yr opera fel rhan o’n harlwy ar gyfer Tymor y Gwanwyn. Am ragor o wybodaeth ewch i’n tudalen Don Giovanni er mwyn gweld ymhle fydd yr opera’n cael ei pherfformio eto, ynghyd â’n hoperâu Codi Twrw eraill: wno.org.uk/giovanni